Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi apêl wrth i’r chwilio am Aled Glynne Davies o Gaerdydd barhau.

Does neb wedi gweld y gŵr 65 oed ers iddo adael ei gartref i fynd am dro nos Sadwrn (Rhagfyr 31).

Yn ôl ei deulu, mae’n fregus ac wedi mynd allan heb dabledi angenrheidiol.

Mae’n chwe throedfedd, ac roedd yn gwisgo siaced werdd dywyll, het werdd a sbectol pan gafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw.