Bydd rhaglen deledu arbennig yn adrodd hanes treflan yng Ngwynedd lle bydd rhaid i drigolion adael eu cartrefi er mwyn dianc rhag yr argyfwng newid hinsawdd.

Mae Fairbourne ger Dolgellau yn bentref glan môr poblogaidd, lle mae amddiffynfeydd yn cadw’r môr allan ac yn cyfyngu’r risg o lifogydd.

Mae bron i £7m wedi’i fuddsoddi dros y degawd diwethaf i gynnal a chryfhau’r amddiffynfeydd ond gyda rhagolygon y bydd lefelau’r môr yn codi dros y degawdau nesaf, yn ogystal â llifogydd o afon Mawddach gerllaw, daeth Cyngor Gwynedd i’r penderfyniad yn 2013 na fydd gwaith i gryfhau’r amddiffynfeydd yn parhau i gael eu cynnal yn y tymor hir.

O ganlyniad, bydd rhaid i oddeutu 700 o bobol sy’n byw yn Fairbourne adael eu cartrefi, gyda’r pentref yn debyg o gael ei ddatgomisiynu erbyn 2054.

Bydd rhaglen ddogfen arbennig, Fairbourne: Y Môr Wrth y Drws (S4C, nos Fawrth, Ionawr 3, 9yh) yn adrodd hanes y Cantref Gwaelod modern yma a’i phoblogaeth, fydd yn ôl rhai yn ffoaduriaid hinsawdd gyntaf Ynysoedd Prydain.

Wedi’i ffilmio dros y flwyddyn ddiwethaf, cawn gyfarfod sawl aelod o’r gymuned sydd ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd i glywed eu straeon personol nhw.

‘Sefyllfa eithaf unigryw’

“Yn Fairbourne, mae gennym ni sefyllfa eithaf unigryw, lle mae yna dri risg llifogydd gwahanol,” meddai Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae gennym ni risg llifogydd o’r môr, mae gennym ni risg llifogydd o’r afon, a hefyd oherwydd bod y tir mor isel, mae gennym ni risg llifogydd o’r dŵr daear hefyd.

“Dim Fairbourne ydi’r unig achos, mae yna ardaloedd eraill yng Nghymru a ledled Prydain sydd wedi ei nodi’r un fath.

“Y peth nesaf fyddwn ni angen gwneud ydi mynd i’r cymunedau rheini er mwyn gweld be fydd yn digwydd, a gweithio hefo’r cymunedau rheini i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Fairbourne ydi’r cyntaf ond dim yr unig un, yn anffodus, lle fyddan ni angen cael trafodaethau fel hyn.”

‘Mae’r môr yn mynd i lifo fewn’

“Fedrwch chi roi amddiffynfeydd, fedrwch chi adeiladu waliau, ond rhyw bryd neu’i gilydd, mae’r môr yn mynd i lifo fewn,” meddai Russell Isaac o’r United Nations Office for Disaster Risk Reduction (UNDRR).

“Mae yna lot o bobol yn y byd yma sydd yn bryderus, ac sydd yn mynd i weithredu.

“Y broblem yw trio cael y bobol iawn i weithredu – llywodraethau.”

  • Bydd Fairbourne: Y Môr Wrth y Drws ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer