Bydd Dafydd Iwan yn siarad mewn rali ddydd Sadwrn, Ionawr 14 yn galw ar y Llywodraeth i weithredu dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg.

Daw hyn yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad gafodd eu cyhoeddi fis diwethaf, oedd yn dangos unwaith eto mai yn Sir Gaerfyrddin roedd y dirywiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.

Mae disgwyl cannoedd o bobol yn y rali y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, lle bydd Darren Price, arweinydd y Cyngor Sir, yn bresennol a lle bydd anerchiad gan y Cynghorydd Glynog Davies, sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg ac Addysg.

Bydd gorymdaith trwy’r dref i ddilyn, gan orffen ger swyddfa Llywodraeth Cymru, lle bydd gofynion Cymdeithas yr Iaith am fframwaith cenedlaethol i hyrwyddo’r iaith yn cael eu cyflwyno.

“Er bod llawer o hyd i’w gyflawni yma yn Sir Gâr, cydnabyddwn fod y Cyngor Sir erbyn hyn yn gweithio trwy strategaeth ddifrifol i hyrwyddo’r Gymraeg gyda’r nod o’i gwneud eto’n brif iaith y sir,” meddai Ffred Ffransis, Swyddog Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin.

“Ar y llaw arall, nid yw hyrwyddo’r iaith na chymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth o gwbl gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, a byddwn yn cyflwyno cyfres o ofynion am weithredu argyfwng dros y Gymraeg.

“Rydyn ni wrth ein bodd hefyd i allu cyhoeddi fod Dafydd Iwan wedi dewis bod gyda ni ar y dydd er gwaetha’r holl ofynion eraill ar ei amser.

“Ganwyd Dafydd yn Sir Gâr a threuliodd ei blentyndod ym Mrynaman ar adeg pan oedd 78% o bobol y sir yn siarad Cymraeg.

“Ers hynny, mae’r canran wedi union haneru, ond rwy’n siŵr y bydd Dafydd yn ein hatgoffa fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ac y bydd yn ein hysbrydoli i weithio dros yr iaith a chymunedau Cymraeg y sir.

“Ymhlith y posteri a baneri fe fydd baner â geiriau enwog Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ – i atgoffa pawb ein bod yn dal yma ac yn benderfynol o bwyso ar y Llywodraeth i weithredu.”