Gyda thraddodiad y Fari Lwyd ar gynnydd mewn cymunedau dros Gymru, y swynwraig a’r awdur Mhara Starling sy’n manylu ar yr arfer a’i wreiddiau posib.


“Wel dyma ni’n dŵad,

Gyfeillion diniwed,

I ofyn am gennad

I ganu”

Dyna linellau’r pennill gyntaf sydd yn agor y pwnco fel rhan o un o draddodiadau difyrraf, hynaf Cymru. Mae traddodiad y Fari Lwyd yn un eithaf digri, a dydy nifer o bobol ddim yn gwybod llawer iawn am yr yma. Ond, mae’r traddodiad wrthi’n tyfu’n un poblogaidd, nid yn unig yng Nghymru, ond dros y byd i gyd.

Felly, beth yn union ydy traddodiad y Fari Lwyd? A pham fod y hen draddodiad Cymraeg yma yn dechrau cael ei ail-eni yng nghymunedau’r wlad hon, a thramor?

Mae’r Fari yn gymeriad trawgar a, dw i’n siŵr, yn eithaf dychrynllyd i rai. Ffigwr tal, yn gwisgo lliain hir gwyn fel rhyw ysbryd Calan Gaeaf. Penglog ceffyl fel pen, wedi ei addurno gyda rhubanau lliwgar, yn ymestyn i lawr ei chefn hi. Mae dannedd y creadur yn clecian yn erbyn ei gilydd. Weithiau, bydd gan y Fari glychau bach yn hongian ar ei rhubanau, yn achosi iddi hi swnio’n hudolus wrth iddi hi ddawnsio a symud o gwmpas pobol. Mae yna olwg eithaf goruwchnaturiol i’r hen Fari. Nid oes syndod fod edrychiad Mari Lwyd yn ysbrydoli pobol y dyddiau hyn.

Mae Mari wrthi’n gwneud dipyn o comeback heddiw. Mewn rhai ardaloedd dros Gymru, mae cymunedau yn ymarfer yr hen draddodiad yma. Mae yna gwmnïau fel Trac Cymru sydd yn mynd o amgylch ysgolion i ddysgu plant am y Fari Lwyd. Mae hyd yn oed Derwyddon a Phaganiaid modern wedi dechrau tynnu ysbrydoliaeth o’r hen draddodiad yma ac yn croesawu Mari i’w defodau nhw.

Hanes y Fari Lwyd

Mae hanes y Fari Lwyd yn un cymhleth a dirgel. Dechreuwyd sgrifennu am y traddodiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’r traddodiad wedi cael ei chadw orau yn ne Cymru. Yn benodol, ardaloedd yn Sir Fynwy, Sir Gar, a Morgannwg. Mae rhai llyfrau a gwybodaeth hanesyddol yn awgrymu bod y Fari Lwyd yn arfer cael ei chynnal dros Gymru gyfan amser maith yn ôl, neu o leiaf bod traddodiadau tebyg mewn ardaloedd eraill. Ond, erbyn heddiw, dim ond olion o’r traddodiad sy’n bodoli tu hwnt i’r de-ddwyrain.

Un llyfr ac sydd wedi cadw’r traddodiad i ni ydy llyfr o 1896, gan y Parch. W. Roberts. Mae’r llyfr yn cynnwys traethawd am hanes y Fari Lwyd, ac yn siarad am sut yn union roedd y traddodiad yn cael ei ymarfer gan y Cymry.

Roedd y traddodiad yn un eithaf theatrig. Roedd parti o chwech o bobol, fel arfer, yn troi fyny wrth ddrysau’r gymuned unrhyw adeg rhwng Rhagfyr 24 a’r Hen Galan, sef Ionawr 14. Fel traddodiad gaeafol, roedd yn digwydd yn ystod dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Yr oedd parti y Fari Lwyd yn cynnwys cymeriadau doniol, fel Bwnsh a Shuan (Punch a Judy fel y maen nhw’n cael ei adnabod yn Saesneg), ac actorion yn chwarae rôl sarjant a chorporal. Ar flaen y grŵp roedd arweinydd, a’i swydd oedd arwain y Fari Lwyd a’r sioe, a chanu.

Canu oedd prif elfen y traddodiad yma. Wrth i’r parti cyrraedd y drws, roedden nhw’n dechrau canu’r ‘Pwnco’. Yn ystod y pwnco, roedd rhaid i barti’r Fari ganu pennill, ac wedi iddyn nhw orffen, roedd y bobol oedd yn byw yn y tŷ yn ateb gyda phennill eu hunain. Roedd hyn yn dechrau be’ mae llawer heddiw yn ei ddisgrifio fel ‘Rap Battle’ Cymraeg, gyda’r naill barti’n canu pennill bob yn ail. Pwy bynnag fyddai’n methu odli gyntaf oedd yn colli’r rap battle barddol yma. Os oedd y Fari yn colli, roedd rhaid iddyn nhw droi a gadael i’r tŷ nesaf. Ond, fel arfer, roedd pobol y gymuned yn gadael i’r Fari ennill. Wedi ennill, roedd y Fari a’i pharti hi yn dod mewn i’r tŷ ac roedd y sioe yn mynd ymlaen.

Wrth i’r parti ddod i’r tŷ, roedd yr arweinydd yn canu mwy ac yn cyflwyno’r cymeriadau, yn enwedig, Bwnsh a Shuan. Roedden nhw’n rhedeg rownd y tŷ yn achosi bob math o drwbl. Ar ôl i’r elfen theatrig o’r traddodiad ddod i ben, roedd parti’r Fari yn cael bwyd, diod, ac efallai arian. Mae’r traddodiad yn debyg i draddodiadau carolau, a hefyd i draddodiadau modern trick-or-treat yn ystod Calan Gaeaf. Ond yn hollol Gymraeg yn ei natur.

Does neb yn sicr o wreiddiau’r traddodiad difyr hwn. Mae gan lawer o awduron eu damcaniaethau, ond mae’r gwir wedi cael ei golli i niwl yr amseroedd. Mae rhai yn meddwl ei fod yn draddodiad sy’n dod o’r Cynfyd, o’r amser cyn i Gristnogaeth gyrraedd Cymru. Mae eraill yn credu mai traddodiad Pabyddol oedd yr arfer i ddechrau, elfen o’r mystery plays canoloesol. Eto, mae rhai yn meddwl bod y traddodiad yn dod yn wreiddiol o draddodiadau Ffest yr Ass (Feast of the Ass), dathliad Cristnogol oedd yn boblogaidd yn Ewrop ar un adeg, yn dathlu’r mul a gariodd Mair i’r Aifft ar ôl genedigaeth yr Iesu.

Mae pob damcaniaeth yn gwneud synnwyr. Ar ddiwedd y dydd, mae’r traddodiad yn un eithaf Paganaidd yn ei edrychiad, ond mae hefyd yn theatrig fel yr hen mystery plays, ac mae pen Mari weithiau’n cael ei greu o benglog mul. Pwy a ŵyr?

Y Fari heddiw

Ond, mae’r traddodiad yn goroesi heddiw.

Y dyddiau yma, mae’r Fari wrthi wneud comeback gwych.

Mae pobol yn gweld y Fari fel ceidwad annwyl y Gaeaf. Mae hi’n codi i ddod â hwyl i ni dros y tymor oer a thywyll. Heddiw, mae hi’n ôl mewn cymunedau dros Gymru, ac yn dawnsio yn ystod dathliadau’r gaeaf gyda Derwyddon a Phaganiaid modern. Dros y byd i gyd, o Gymru i America ac Awstralia, mae pobol yn gwirioni gyda thraddodiad difyr o Gymru. Yn fy marn i, mae’r ffaith yna’n hollol hudolus.

Mae’r hen Fari Lwyd wrthi swyno’r byd.

Cynnal y Fari Lwyd yn Aberystwyth

Lowri Larsen

Bydd criw o tua hanner cant yn ymweld â sawl tŷ tafarn yn y dref ar Ionawr 13