Bydd y Fari Lwyd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth i ddathlu’r Hen Galan ar Ionawr 13.

Mae’r arfer gwerin yn un arbennig i Gymru, ac yn y dref, bydd criw o tua hanner cant yn ymweld â sawl tŷ tafarn.

Yn rhan o’r traddodiad, bydd ceffyl hobi, sydd wedi’i wneud o benglog ceffyl wedi’i osod ar bolyn a’i guddio o dan liain a rhubanau, yn cael ei gario gan Siôn Jobbins, sy’n gyn-faer Aberystwyth a chyn-gadeirydd YesCymru.

Eleni, bydd tîm dawnsio gwerin yn cymryd rhan yn eu gwisgoedd traddodiadol, a’r band gwerin Twmpath yn cyfeilio.

Y gobaith yw y bydd torf y dafarn yn canu’n ôl wrth i barti’r Fari Lwyd ganu’r Pwnco, gan godi arian i Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Ceredigion.

“Roedd yn arfer bod yn gystadleuaeth rhwng y bobol yn y tafarn neu yn y tŷ ac yn y parti ar y stryd efo’r Fari Lwyd,” meddai Jem Tynrhos, sy’n trefnu’r digwyddiad, wrth golwg360.

“Bydd y parti Mari Lwyd yn canu atyn nhw a byddan nhw yn canu’n ôl, rydym ni’n gwneud y caneuon i fyny ar y pryd.

“Mae gennym daflenni ac mae hanner y parti yn mynd mewn i’r dafarn ac yn dweud wrth y bobol beth maen nhw am wneud, ac wedyn rydym yn cyrraedd y drws a chanu’r gân.

“Mae Mari’n cael ei galw i ddod mewn, ac wedyn rydym yn chwarae cwpwl o alawon gwerin.”

Traddodiad Cymreig

Hen draddodiad Cymreig sy’n unigryw i Gymru yw’r Fari Lwyd, ac mae’n cael ei ddathlu ar yr Hen Galan yn hytrach na Dydd Calan.

Mae’n draddodiad sydd yn bennaf â’i wreiddiau yn y canolbarth a’r de, ond mae’r arfer bellach ar gynnydd ar hyd a lled y wlad.

Mae anghytuno am wreiddiau’r Fari Lwyd, gyda rhai yn credu ei fod yn draddodiadol Gristnogol, ac eraill yn credu mai arfer cyn-Gristnogol yw e.

Mae Jem Tynrhos yn credu ei fod yn gyn-Gristnogol, ac er nad oes neb yn gwybod pryd ddechreuodd y traddodiad, dechreuodd pobol ysgrifennu amdano yn y ddeunawfed ganrif.

Dydy Jem Tynrhos ddim yn credu i’r traddodiad farw’n llwyr erioed, er y ceisiodd y capel Methodistaidd gael gwared arno.

“Er bod pethau tebyg yn digwydd yng Nghernyw ac Iwerddon, mae’r Fari Lwyd yn rywbeth arbennig i Gymru,” meddai.

“Mae’r Hen Galan ar Ionawr 13, a dyna rywbeth arall sydd yn cael ei ddathlu sy’n Gymreig iawn.

“Yn y ddeunawfed ganrif, newidiodd y calendr o Julian i Gregorian.

“Pan newidiodd y calendr, collon ni 13 diwrnod o’r calendr a doedd y werin bobol yng Nghymru ddim yn hapus o gwbl.

“Dydyn ni ddim am gael y Calan ar y Cyntaf o Ionawr, ond rydym am ddisgwyl tan y 13eg. Dyna pam mae’n Hen Galan.”

Mae’r traddodiad yn parhau yng Ngwent hefyd, a bydd Jem Tynrhos yn ymuno ag aelodau Cymreigyddion y Fenni ar Ionawr 14 i fynd â’r Fari allan yno.