Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn yng Nghymru wedi cyhoeddi cyngor i helpu cŵn i ymdopi â sŵn tân gwyllt ar drothwy’r Flwyddyn Newydd eleni.
Fel mudiad sydd â chanolfannau yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, maen nhw wedi cyhoeddi cyngor i helpu cŵn yng Nghymru sy’n ofni sŵn mawr.
Maen nhw hefyd yn galw am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd.
Y cyngor
Yn y lle cyntaf, dylai perchnogion ymweld â gwefan yr ymddiriedolaeth am gyngor ynghylch sut i helpu eu cŵn.
Maen nhw’n annog perchnogion hefyd i:
- addasu eu trefn arferol, er mwyn osgoi mynd â chŵn am dro yn ystod adegau pan fo tân gwyllt yn yr awyr
- cadw anifeiliaid yn ddiogel trwy ddiogelu’r cartref a’r ardd
- adnabod anghenion eu cŵn, gan y bydd pob ci yn ymateb yn wahanol i dân gwyllt – a gwybod sut i adnabod y gwahaniaeth rhwng ofn a salwch
- gadael i’w cŵn wneud yr hyn maen nhw’n teimlo’n cyfforddus yn ei wneud, os yw’n ddiogel
- cadw cŵn yn brysur i dynnu eu sylw oddi ar y tân gwyllt er mwyn osgoi ofn
“Mae clyw cŵn yn gallu bod pedair gwaith yn fwy sensitif na chlyw pobol, felly gall craciau a chleciau tân gwyllt fod yn frawychus ac yn brofiad dryslys iddyn nhw,” meddai Angela Wetherall, Rheolwr Ymddiriedolaeth Cŵn Cymru.
“Mae tân gwyllt hefyd yn dueddol o fod yn sydyn, yn anrhagweladwy ac yn llachar.
“Gall y cyfuniad hwn achosi ofn a chael effaith hirdymor ar gŵn.
“Mae llawer o bethau y gall perchnogion cŵn eu gwneud i helpu i wneud tân gwyllt yn llai o straen, gan gynnwys bod â chynllun clir, ymlaen llaw, i helpu eu cŵn i ymdopi.
“Bydd cŵn yn ymateb i dân gwyllt mewn gwahanol ffyrdd, bydd rhai eisiau dod o hyd i le cynnes i guddio, tra bydd eraill eisiau sicrwydd.
“Mae’n bwysig adnabod anghenion unigol eich ci, a gadael iddyn nhw wneud beth bynnag sy’n eu gwneud nhw’n fwyaf cyfforddus, os yw’n ddiogel gwneud hynny.
“Rydym yn argymell nodi sut y gwnaeth eich ci ymateb yn ystod y tân gwyllt a beth weithiodd yn dda i’w helpu nhw i ymdopi wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad tân gwyllt nesaf.
“Byddem hefyd yn argymell dychwelyd i’r drefn arferol cyn gynted â phosib yn dilyn tân gwyllt i helpu cŵn i ymlacio.
“Os oedden nhw’n ofnus yn ystod tân gwyllt, mae’n syniad da ceisio cymorth proffesiynol ymhell cyn i dymor nesa’r tân gwyllt ddechrau.”
Astudiaeth
Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn yn cynnal astudiaeth ar Nos Calan sy’n torri tir newydd.
Y bwriad yw archwilio sut mae tân gwyllt a synnau uchel yn effeithio ar gŵn.
Maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ac yn cydweithio â Phrifysgol Salford, gan gyfuno gwybodaeth arbenigol y brifysgol mewn acwstics ac arbenigedd yr elusen mewn ymddygiad cŵn.
Mae croeso i berchnogion cŵn a rhai nad ydyn nhw’n berchen ar gŵn i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ac mae modd gwneud hynny drwy gwblhau holiadur byr rhwng Rhagfyr 31 a Ionawr 8 – ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth.