Bydd pedwar sefydliad diwylliannol yng Nghymru’n derbyn arian tuag at gadwraeth, fel rhan o bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau (National Manuscripts Conservation Trust).
Yr ymddiriedolaeth yw’r unig sefydliad dyfarnu grantiau yn y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gadwraeth llawysgrifau.
Mae’r casgliad, sydd wedi’i gadw yn Archifau Morgannwg, yn cynnwys oddeutu 2,000 o ddarluniau a phaentiadau sydd wedi’u casglu ynghyd gan William Burges, y pensaer a dylunydd uchel ei barch, ac sy’n rhoi sylw i’w waith yn ailddylunio Castell Caerdydd rhwng 1868 a’i farwolaeth yn 1881.
Bydd cadw’r casgliad yn cyfrannu at y gwaith o adfywio’r castell am flynyddoedd a chenedlaethau i ddod.
Y sefydliadau
Y sefydliadau eraill sy’n cael eu hariannu yw amgueddfa Firing Line, Archifau Gwent ac Amgueddfa Abertawe.
- Firing Line Museum – Mae Cyfarwyddiadau Recriwtio Gwarchodlu Dragŵn y Brenin yn 1787 yn esbonio’r broses o ymuno ag uwch gatrawd Gwarchodlu Dragŵn y Brenin ac mae’n cynnwys cyfarwyddiadau ar faterion megis talu a phrynu, iechyd a meddygaeth, crefydd, cysylltiadau rhyng-gatrodol a sefyllfa sifil y recriwtiaid. Bydd cadwraeth yn sicrhau bod y darn prin hwn o hanes milwrol yn cael ei gadw.
- Archifau Gwent – Mae’r casgliad hwn o Adroddiadau Arolygu Cyn Shifftiau Glofa Gogledd Rhisga (o’r 1920au hyd at y 1960au) yn cwmpasu cyfnod o newid a gweithgarwch mawr yn y diwydiant, o streiciau ac anawsterau economaidd y 1920au, drwy’r Ail Ryfel Byd a gwladoli yn 1947. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau y bydd catalog ar gyfer y casgliadau ar gael ar-lein i ymchwilwyr am y tro cyntaf.
- Amgueddfa Abertawe – Bu’r menywod busnes arloesol, Elizabeth ‘Bessie’ Dillwyn yn arbrofi gyda dyluniadau a mathau o serameg yng Nghrochendy enwog Cambrian (oddeutu 1836), mae ei brasluniau yn cael eu gwarchod a’u harddangos ochr yn ochr â’r darnau gorffenedig o fewn casgliad yr amgueddfa.
‘Mwy o fynediad i orffennol diwydiannol a chatrodol Cymru’
“Mae’r bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2008 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn parhau i ehangu mynediad at gasgliadau o arwyddocâd cenedlaethol yng Nghymru,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
“Bydd prosiectau eleni yn sicrhau mwy o fynediad i orffennol diwydiannol a chatrodol Cymru ac yn sicrhau gwell dealltwriaeth o hanes un o adeiladau mwyaf eiconig ein prifddinas, Castell Caerdydd, am flynyddoedd i ddod.
“Rwy’n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i gadw ein treftadaeth archifol gyfoethog.”
‘Rhannau allweddol o hanes Cymru’
“Unwaith eto roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gofal a’r cadwraeth o ystod o ddeunydd, gan gynnwys lluniadau syfrdanol William Burges ar gyfer Castell Caerdydd, dyluniadau ar gyfer serameg enwog, cipolwg anarferol ar fywyd y fyddin yn y ddeunawfed ganrif a chofnodion pwysig y diwydiant glo,” meddai’r Athro David McKitterick, cadeirydd NMCT.
“Bydd y rhain nawr ar gael er mwyn i’r cyhoedd eu mwynhau a’u deall o rannau allweddol o hanes Cymru dros nifer o flynyddoedd i ddod.”