Wel wir, roedd 2022 yn flwyddyn hollol boncyrs yn y byd gwleidyddol, on’d oedd?!
Wir i chi, pe bai rhywun yn gofyn i mi beth oedd y digwyddiad mwyaf annisgwyl yn 2022, dw i ddim yn siŵr y baswn i’n gallu eu hateb.
Draw yn San Steffan, rydan ni bellach ar ein trydydd Prif Weinidog, wedi cael dim llai na phedwar Canghellor a thri Ysgrifennydd Iechyd.
Fe lwyddodd Liz Truss i godi cymaint o ofn ar y marchnadoedd ariannol nes y bu’n rhaid iddi ymddiswyddo ar ôl 44 diwrnod.
A’r lleiaf ddywedwn ni am Boris Johnson, gorau oll!
Fe gafodd ein Hysgrifennydd Cartref presennol, Suella Braverman, ei gorfodi i ymddiswyddo ac yna’i hailbenodi o fewn wythnos, sy’n awgrymu nad ydi gwneud dy waith yn dda yn rhywbeth sy’n mynd i gario ffafr gyda’r Prif Weinidog diweddaraf, Rishi Sunak.
Draw yn Swyddfa Cymru, rydan ni ar ein trydydd Ysgrifennydd Gwladol o fewn blwyddyn, sef David TC Davies.
Yn y cyfamser, mae yna nyrsys, staff rheilffyrdd a staff post ar streic. Mae Prydain ar chwâl, bois bach!
Dyw pethau ddim yn fêl i gyd draw ym Mae Caerdydd chwaith, cofiwch chi.
Fel y soniais yn fy ngholofn bythefnos yn ôl, mae gan Lywodraeth Cymru atebion mawr i’w hateb yn sgil canlyniadau hynod siomedig y cyfrifiad, sy’n gwneud i uchelgais Llafur i gyrraedd miliwn o siaradwyr edrych fel jôc sâl.
Ac fe brofodd cyllideb y Llywodraeth mai cyfyngedig dros ben yw uchelgais Llafur Cymru ar gyfer economi ein gwlad.
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn aml yn seilio eu dadleuon ar gyfer Cymru annibynnol ar ddiffyg moesau gwleidyddion yn San Steffan, ond wedi’u cael eu hunain yng nghanol ambell helynt eleni.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, ar y llaw arall, yn gyson iawn. Fe allwch chi wastad ddibynnu arnynt i ailadrodd negeseuon y blaid yn San Steffan, amddiffyn yr undeb, ac edrych braidd yn wirion o dro i dro.
Ond er gwaethaf hyn oll, mae yna flwyddyn arall yn dirwyn i ben, ac rwy’n falch o fod yn ffarwelio â 2022 – y flwyddyn o wallgofrwydd gwleidyddol.
Y peth ydi, os dw i’n bod yn hollol onest dw i ddim yn gweld yn union faint yn well allwn ni ddisgwyl i bethau fod yn 2023.
Mae hi’n edrych yn debygol iawn y byddwn ni’n wynebu dirwasgiad, dyw hi ddim yn edrych fel bod y streiciau yn mynd i gael eu datrys yn y dyfodol agos, tra bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ei liniau.
Ac wrth gwrs, fe fydd cwmwl du Brexit a’i holl sgil effeithiau trychinebus yn dal i ddylanwadu’n negyddol ar fywydau pobol a busnesau.
Ta waeth, dyma’r golofn olaf eleni. Felly o leiaf na fydd rhaid i chi wrando arnaf i’n cwyno tan y flwyddyn newydd – er, dw i’n eithaf sicr y bydd yna hen ddigon i gwyno amdano!