Ddechrau’r wythnos fe gyhoeddodd Mark Drakeford ei fod yn ymchwilio i’r rheswm pam y dangosodd y Cyfrifiad gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, tra bod ffigyrau blynyddol gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd.
Dangosodd Arolwg Blynyddol y Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol gynnydd cyson yn nifer y siaradwyr Cymraeg, hyd at 899,000 ym Mehefin eleni.
Ond pan gafodd canlyniadau’r cyfrifiad Cymraeg o 2021 eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf, fe ddangoson nhw ddirywiad pellach i 538,000 o bobol.
Y cwestiwn yn fan hyn ydi, pam fod y Prif Weinidog wedi penderfynu gwneud hyn? Beth ydi’r pwynt?
Fe allai unrhyw un ddweud wrthych chi mai’r rheswm tebygol fod un yn dangos cynnydd a’r llall yn dangos cwymp ydi’r ffaith fod y Cyfrifiad a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio methodoleg wahanol.
Er enghraifft, mae ffigyrau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth yn edrych ar siaradwyr Cymraeg ledled y Deyrnas Unedig, tra bod y Cyfrifiad yn canolbwyntio ar Gymru.
Yn hytrach na cheisio gweld bai ar eraill yn dragwyddol, fe ddylai Llywodraeth Cymru gymryd ychydig o gyfrifoldeb am ganlyniadau’r Cyfrifiad.
Wedi’r cwbl mae Llafur wedi bod mewn pŵer yng Nghymru ers chwarter canrif a dim ond gwanhau mae sefyllfa’r iaith!
Mae’r Llywodraeth wedi treulio lot o amser eleni’n hefru ymlaen am filiwn o siaradwyr erbyn 2050 a pha mor benderfynol ydyn nhw o gyrraedd y nod gynyddol afrealistig honno.
Yn y cyfamser, mae gennym ni Brif Weinidog sy’n mynnu y byddai gwneud addysg Gymraeg yn orfodol i bawb yn “troi pobol yn erbyn yr iaith”.
Mae’n edrych i mi fel petai’r Llywodraeth yn ceisio ei chael hi’r ddwy ffordd.
Ar yr un llaw maen nhw’n ceisio apelio at genedlaetholwyr gyda sloganau swanci a sôn am ba mor wych ydi hi fod pawb yn gallu canu cytgan ‘Yma O Hyd!’
Ond dw i ddim yn gweld parodrwydd i weithredu mewn modd sy’n mynd i hybu defnydd y Gymraeg o ddydd i ddydd, i bechu’r garfan o bobol fyddai’n well ganddynt weld pawb yn siarad dim ond Saesneg, heb sôn am gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn unrhyw ddyddiad.
Fe ddylai canlyniadau’r cyfrifiad fod yn agoriad llygad ac mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn y drych yn hytrach nag edrych am ffactorau allanol i’w beio am ei fethiannau ei hunain.
Pantomeim Plaid Cymru
Y newyddion mawr tuag at ddiwedd yr wythnos oedd bod Prif Weithredwr Plaid Cymru, Carl Harris, yn gadael ei swydd, a hynny cwta flwyddyn a hanner ar ôl cael ei benodi.
Daeth y newyddion yn sgil cyhuddiadau o “ddiwylliant gwenwynig” o fewn y blaid ac ar ôl i’r arweinydd, Adam Price, gyhoeddi ei fod wedi penodi cyn-aelod o’r Senedd, Nerys Evans, i adolygu proses gwynion y blaid.
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru eisoes yn gweithio gyda chwmni ymgynghori Adnoddau Dynol annibynnol i ymchwilio i “honiadau o gamymddwyn”.
Ai cyd-ddigwyddiad yw hi fod Carl Harris yn gadael ei swydd felly?
Fe fydd hi’n ddiddorol gweld am ba mor hir y bydd cefnogwyr y blaid yn goddef un ffiasgo ar ôl y llall.
Oherwydd pe bai yna etholiad yfory a minnau’n Bleidiwr, faswn i ddim yn hyderus!