Mae cynnig pryd bwyd poeth am ddim i’r gymuned ar ddiwrnod Nadolig ar gynnydd yn sgil yr argyfwng costau byw.

Bydd grŵp o wirfoddolwyr yn cynnig pryd bwyd i bobol am ddim yng nghaffi Blas Lon Las Moelyci, yn Nyffryn Ogwen, am un o’r gloch ar 25 Rhagfyr.

Ar ddiwedd yr erthygl mae rhestr o lefydd yng Nghymru sydd efo prydau Nadolig am ddim.

Wrth drafod yr argyfwng costau byw a’r Nadolig gyda golwg360, mae Beca Roberts, cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai, sydd yn un o drefnwyr y pryd yn dweud bod o hyd yn oed yn fwy pwysig cynnig pryd bwyd ar ddiwrnod Nadolig oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni.

“Mae Pantri Pesda, y banc bwyd ym Methesda, a banciau bwyd ar hyd y wlad, yn gweld mwy o bobol yn mynd yna oherwydd bod mwy o bobol methu fforddio bwyta a chadw tai nhw’n gynnes,” meddai Beca.

“Roedden yn gweld o’n bwysig neud o yn ganol yn oerni a chyfnod sydd fod yn gyfnod hapus.”

Cyrraedd y bobl fwyaf bregus

Wrth wraidd y cinio yma mae’r gymuned, ond a yw pobol am ddod?

Beth am y bobol sydd yn anodd eu cyrraedd?

Beth mae’r criw o wirfoddolwyr yn gobeithio ei gyflawni o ran niferoedd?

Mae’r unigolion sy’n trefnu’r cinio yn aelodau blaengar o’u cymunedau a byddan nhw yn gallu cynorthwyo pobol efo materion eraill.

“Efallai nad wyt am gyrraedd y bobol fwyaf anodd i gyrraedd,” meddai Beca.

“Rydym yn ceisio ein gorau i ledaenu’r gair yn Nyffryn Ogwen am y digwyddiad fel bod y rhan fwyaf o bobol yn clywed amdano fo.

“Rydym yn ceisio meddwl sut rydym am gyrraedd pobol eraill.

“Rydym am fynd a bwyd allan i bobol sydd ddim yn teimlo bod nhw’n gallu gadael y tŷ.

“Os rydym yn cyrraedd dau, dri pherson sydd angen cwmpeini a digon dewr i ddod allan bydd hynny’n wych.

“Rwy’n gobeithio bydd dod i eistedd efo ni am dair awr yn rhoi gobaith i’r bobol yma.

“Maen nhw’n cael cyfle i gwrdd â rhai o aelodau craidd y gymuned fel Sara o’r eglwys a Liws o’r banc bwyd.

“Mae’r rhain yn bobol sydd yn gallu helpu nhw efo pethau eraill.”

Cinio Nadolig cymunedol ar gynnydd

Mae Beca Roberts yn credu y bydd cinio Nadolig cymunedol yn cynyddu mewn poblogrwydd, oherwydd ei bod hi’n gyfnod ansicr i bobol o ran arian.

Er hyn credai Beca Roberts bod ysbryd gymuned wedi tyfu ers y cyfnod Covid a bod mwy o alw am y math yma o beth.

“Rwy’n meddwl neith cinio Nadolig cymunedol ddod yn fwy poblogaidd,” meddai.

“Mae rheswm trist a rheswm da.

“Y rheswm drwg yw oherwydd bod pobol mewn mwy o ansicrwydd o ran gallu bwyta a chadw tai nhw’n gynnes.

“Mae yna fwy o bobol yn chwilio am bethau fel hyn erbyn hyn.

“Rwyf hefyd yn meddwl bod rheswm da, bod pobol yn edrych i fod yn fwy cymunedol y dyddiau yma.

“Ers Covid rwy’n meddwl bod gwydnwch i gymunedau a’r ardal yma yn bendant.

“Mae pobol yn edrych o gwmpas a meddwl: ‘Sut rwy’n gallu helpu fy nghymuned?’

“Mae mwy o bethau fel hyn yn bodoli oherwydd bod pobol yn fwy ymwybodol o sut maent yn gallu helpu eu cymunedau.”

Criw o unigolion

Criw o unigolion ddaeth at ei gilydd i drefnu’r cinio yn Nyffryn Ogwen i wneud rhywbeth caredig i’r gymuned. Drwy sgwrsio daeth y syniad.

“Roeddwn wedi bod yn siarad efo Liws sy’n rhedeg [banc bwyd] Pantri Pesda ac fe gawson ni’r syniad bod hi’n werth neud rhywbeth dros y Nadolig,” meddai Beca.

“Mae hi’n gweld pobol yn dod mewn i’r banc bwyd a chael gaeaf eithaf anodd eleni.

“Roedden eisiau gwneud rhywbeth a rhoi yn ôl i’r gymuned…

“Roedden eisiau gwneud rhywbeth caredig i drigolion Dyffryn Ogwen.

“[Gyda’r pryd bwyd am ddim] rydym am sicrhau eu bod yn cael platiad o fwyd cynnes, bod nhw’n cael man cynnes i eistedd a bod nhw’n cael cwmni fel bod nhw’n mwynhau’r Nadolig.”

Helpu’ch cymuned

Mae Beca Roberts eisiau pwysleisio bod modd helpu’r gymuned drwy fod yn wirfoddolwr efo mudiadau fel banciau bwyd.

“Man cychwyn da yw ffeindio allan os oes banc bwyd,” meddai.

“A oes mudiad yn eich ardal sy’n cefnogi pobol yn ystod y creisis costau byw?

“Gallwch ffeindio allan os oes ffordd y gallwch helpu.

“Does dim rhaid i chi roi eich diwrnod Nadolig.

“Mae awr y mis yn gallu helpu’r banciau bwyd.

“Mae llawer yn wirfoddol ac maent yn chwilio am gymorth.

“Os ydych efo sgil mae’n amhrisiadwy i grwpiau gwirfoddol.”

Lleoedd yng Nghymru sy’n cynnig prydau am ddim ar Ddydd Nadolig

Penybont:

Mae Canolfan Allgymorth Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal brecwast Dydd Nadolig gydag anrhegion rhwng 09:00 a 11:00.

Mae Ymddiriedolaeth Datblygu Caerau ym Maesteg yn cynnal cyfarfod Nadoligaidd i bobl sydd ar eu pen eu hunain.

Sir Gaerfyrddin:

Mae Chooselife yn Llanelli yn cynnig mins peis, pwdinau a chracyrs tecawê am ddim rhwng 12:00 a 15:00.

Mae Eglwys Efengylaidd Rhydaman yn cynnal cinio dau gwrs am ddim gydag adloniant a chludiant os oes angen yn Neuadd Goffa Cyhoeddus Llandybïe rhwng 12:00 a 15:00. Mae angen i’r rhai sy’n mynychu archebu.

Mae Cegin Hedyn yn cynnal cinio yng Nghanolfan Heol Awst, Caerfyrddin o 11:00, gyda chinio ar gael o 12:00.

Castell-nedd Port Talbot:

Mae St Theodore’s ym Mhort Talbot yn cynnig pryd o fwyd am ddim o 1.30 gyda chludiant ar gael. Mae angen blaendal o £5 wrth archebu.

Sir Benfro:

Mae Clwb Rygbi Harlequins Doc Penfro yn darparu pryd poeth am ddim a dathliadau i’r rhai sydd ei angen rhwng 12 a 3 Abertawe.

Mae Eglwys St Thomas yn Abertawe yn darparu cinio Nadolig, adloniant a chludiant am ddim rhwng 12 a 2:30. Mae angen archebu lle.

Mae Canolfan Llesiant Abertawe yn cynnal diodydd poeth, gemau, bwffe prynhawn a cherddoriaeth rhwng 2 a 5.

Bydd Denny’s ym Mharc Tawe yn agor ei ddrysau i fwydo pobl sy’n profi digartrefedd rhwng 09 a 11.

Blaenau Gwent:

Ni chanfuwyd unrhyw ddigwyddiadau.

Caerffili:

Mae Ymddiriedolaeth y Plwyf yn Nhretomos yn cynnal cinio tri chwrs am ddim o 1 ymlaen.

Mae Eglwys Sant Ioan yn Nelson yn darparu prydau am ddim o 1 ymlaen.

Caerdydd:

Mae Victoria Fish Bar yn yr Eglwys Newydd yn dosbarthu prydau am ddim ac yn cynnig danfoniadau.

Mae cyngor Caerdydd ar hyn o bryd yn casglu gwybodaeth y bydd yn ei chyhoeddi yma pan fydd yn barod.

Sir Fynwy:

Mae Cartref Preswyl Bethany yng Nghas-gwent yn gwahodd unrhyw un ar ei ben ei hun ar Ddydd Nadolig i ymuno â nhw am bryd o fwyd.

 

Casnewydd:

Bydd prosiect cinio Nadolig Cymunedol Tiny Rebel yn cynnig diod boeth, mins pei a chinio tecawê rhwng 12 a 2. Bydd angen i bobl gadw lle.

Bydd Feed Newport ar Commercial Road ar agor rhwng 10 a 2 ar gyfer diodydd poeth, melysion a danteithion

Bydd Canolfan Gymunedol Parc Stow ar agor am ginio Nadolig am ddim rhwng 12:30 a 2:30. Mae angen cadw lle.

Rhondda Cynon Taf:

Mae Eglwysi Sain Ffagan, Sant Iago a Sant Luc yn cynnal cinio Nadolig ac adloniant am ddim, gyda chinio yn cael ei weini tua 1 yn Ysgol Sant Ioan yn Aberdâr. Mae angen blaendal o £5 i archebu ond bydd yn cael ei ddychwelyd ar y diwrnod

Torfaen:

Dywedodd cyngor Torfaen nad oedd yn ymwybodol fod unrhyw le yn y sir yn cynnal ciniawau Nadolig am ddim ar Ddydd Nadolig

 

Bro Morgannwg:

Ni chanfuwyd unrhyw ddigwyddiadau

 

Powys:

Mae Helpu Eich Ddigartref Cymru yn Llanfair-ym-Muallt yn cynnig prydau dydd Nadolig am ddim

Mae Canolfan Deulu Sant Ioan yn Aberhonddu yn cynnal pryd tri chwrs o 13:00 sy’n gofyn am archebu ymlaen llaw

 

Ceredigion:

Mae Eglwys Bywyd Newydd Aberteifi yn cynnal cinio Nadolig am ddim o 1 ar gyfer 100 o bobl.

 

Sir Ddinbych:

Mae Neuadd Eglwys Sant Collen yn Llangollen yn cynnal cinio Nadolig rhad ac am ddim o dwrci neu eog wedi’i botsio o 12 ymlaen a rhaid archebu lle ymlaen llaw.

 

 Sir y Fflint:

Mae Eglwys San Pedr yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, yn cynnig cinio tri chwrs o 1 ar gyfer tua 80 o bobl. Mae archebu oflaen llaw yn ddefnyddiol

 

Wrecsam:

Mae hyb cymunedol Melyn a Glas yn cynnal cinio Nadolig tri chwrs rhad ac am ddim, rhoddwch neu dalwch yr hyn y gallwch chi ei dalu i 100 o bobl rhwng 12 a 3, ac mae angen archebu lle.

Gwynedd:

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi dyrannu £75,000 i grwpiau cymunedol ddarparu parseli bwyd, prydau a chlybiau bwyd dros y gaeaf ond nad oedd ganddynt wybodaeth am ddarparu ciniawau am ddim ar Ddydd Nadolig.