Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, wedi lambastio’r cwmni sy’n rhedeg y trenau yn y gogledd.

Daw hyn ar ôl i Avanti dorri nifer y trenau yn teithio o Gaergybi i Lundain i lawr o chwech y diwrnod i un, tra bod cynnydd o 600% wedi bod mewn cwynion am y gweithredwr.

Ym mis Mehefin, dywedodd Avanti y byddai ganddyn nhw chwe thrên uniongyrchol yn teithio y dydd yng ngogledd Cymru.

Ni wireddwyd hynny, ac erbyn mis Awst roedd yn cael gwared ar drenau ar draws y rhwydwaith cyfan ac fe gyflwynodd amserlen drenau sylweddol llai.

Mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin, galwodd Virginia Crosbie ar y Llywodraeth i bwyso ar Avanti i ddarparu “rheilffordd fodern lle mae teithwyr yn cael amserlen ddibynadwy”.

“Gwasanaeth gwarthus”

“Mae ein hamserlen rheilffordd wedi cael ei chwalu, gyda’r gwasanaethau uniongyrchol rhwng Llundain a Chaergybi wedi’i effeithio,” meddai Virginia Crosbie.

“Mae nifer o deithwyr ar y fferi leol wedi cael eu heffeithio yn sgil y diffyg gwasanaethau trên i Lundain.

“Mae’r rhai sydd ag anghenion arbennig neu sy’n teithio gyda phlant o dan anfantais arbennig.

“Mae ein holl etholwyr yn haeddu gwasanaeth rheilffordd nad yw’n ddibynnol ar wirfoddolwyr ac ewyllys da.

“Mae’n rhaid i’n rheilffyrdd weithio saith diwrnod yr wythnos. Mae’n hanfodol bod yr Adran Drafnidiaeth yn monitro darpariaeth Avanti ac yn dwyn Avanti i gyfrif.

“Mae angen rheilffordd fodern lle mae teithwyr yn cael amserlen ddibynadwy, waeth pryd maen nhw’n teithio ar Avanti.

“Mae ein hetholwyr yn haeddu cael y gwasanaeth maen nhw’n talu amdano.

“Mae’n amlwg bod Avanti yn cynnig gwasanaeth gwarthus i’n hetholwyr ac nid wyf yn credu fod ganddo’r gallu i adfer y gwasanaeth.”

“Darparu gwasanaeth dibynadwy”

Mewn ymateb dywedodd y gweinidog rheilffordd, Huw Merriman: “Mae teithwyr ar brif lein arfordir y gorllewin wedi cael amser caled, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau fod y gwasanaeth yn gwella.

“Mae’r gyrwyr ychwanegol, symud i ffwrdd o weithio’n wirfoddol a’r amserlen newydd yn rhoi cyfle i hynny ddigwydd.

“Rydw innau yn benderfynol o chwarae fy rhan. Rwy’n disgwyl i Avanti, yr undebau a phawb sy’n gysylltiedig â hyn ymuno â mi a sicrhau bod y llinell hon yn darparu gwasanaeth dibynadwy unwaith eto.”