Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi bod Carl Harris, Prif Weithredwr Plaid Cymru, yn gadael ei swydd, ar ôl dim ond blwyddyn a hanner yn y swydd.

Cychwynnodd yn y swydd newydd Awst 1 gan olynu Marc Phillips, oedd yn Brif Weithredwr dros dro o ddechrau 2021.

Mae Carl Harris wedi gweithio i Blaid Cymru ers degawd, gan gynnwys cyfnod yn Bennaeth Staff yn Swyddfa etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Phennaeth Strategaeth y Blaid.

Mae hefyd yn gyn-Ddirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, a gwasanaethodd fel Is-gadeirydd Cymru X, cyn-Adran Ieuenctid Plaid Cymru ac yn 2017 cafodd ei ethol i gynrychioli Ward Saron ar Gyngor Sir Caerfyrddin.

“Ar ran Plaid Cymru rwy’n diolch iddo am ei wasanaeth hir ac ymroddiad i’r Blaid, fel Cynghorydd Sir ac aelod staff – yn fwyaf diweddar fel y Prif Weithredwr,” meddai Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru.

“Rydym yn dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”

“Anrhydedd”

Wrth i’w gyfnod yn Brif Weithredwr ddod i ben, dywed Carl Harris y bu’n “anrhydedd cael gweithio i Blaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol”.

“Mae’r Blaid yn ffodus o gael rhai o’r staff mwyaf talentog a’r actifyddion mwyaf ymroddgar ac mae hi wedi bod yn fraint ymgyrchu ochr yn ochr â hwy,” meddai.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r Blaid yn y dyfodol.”

Plaid Cymru yn penodi Prif Weithredwr newydd

Mae Carl Harris yn gynghorydd sir ac yn Bennaeth Strategaeth y Blaid ar hyn o bryd