Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi gwrthod dweud a fyddai’n camu o’r neilltu, wedi honiadau o “ddiwylliant gwenwynig” yn y blaid o dan ei arweinyddiaeth.

Wrth siarad ar raglen Sharp End ITV Cymru, datgelodd ei fod wedi penodi cyn-aelod o’r Senedd i adolygu proses gwynion y blaid.

Fe fydd Nerys Evans yn cadeirio grŵp o dan y Gweithredwr Cenedlaethol, fydd yn cyhoeddi ei argymhellion yn ystod Gwanwyn 2023.

“Rydyn ni wedi nodi nifer o wahanol ffyrdd y gall pobol o fewn y blaid rannu eu safbwynt yn gyfrinachol, rhannu eu profiad nhw, ac rydyn ni’n gweithio gyda chwmni ymgynghori Adnoddau Dynol annibynnol i nodi materion y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw a’u gwella,” meddai Adam Price.

“Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp er mwyn gyrru’r gwaith hwn yn ei flaen, gan edrych ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud o ran ein strwythurau, ein diwylliant ac ein prosesau.

“Rydyn ni’n glir iawn ein bod eisiau bod yn blaid sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd.

“Rydyn ni eisiau bod yn blaid lle mae her feirniadol yn bosib ac yn cael ei wneud mewn modd parchus.”

‘Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol’

Gwrthododd Adam Price drafod honiadau bod angen arweinydd newydd ar y blaid.

“Rwy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud fel plaid,” meddai.

“Mae hynny yn cynnwys gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol Cymru drwy’r cytundeb cydweithredu a’r degau o filoedd o blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yng nghanol y cyfnod heriol yma yn sgil hynny.

“Mae hefyd yn cynnwys y gwaith yr ydym yn ei wneud mewn undod â’r gweithwyr hynny sy’n streicio er mwyn cael codiad cyflog teilwng, gan ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

“Dyw arweinyddiaeth Plaid Cymru fel mudiad ddim yn mynd i unman oherwydd rydyn ni mewn gwirionedd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol bob dydd.”