Mae cyn-Aelod Seneddol Ceredigion wedi ymateb i’r sancsiynau sydd wedi cael eu cyflwyno yn ei erbyn gan gyfundrefn Iran.
Roedd Mark Williams ymhlith 32 o bobol a sefydliadau sydd wedi’i chael hi gan Weinyddiaeth Dramor y wlad yn sgil eu cefnogaeth i hawliau dynol a democratiaeth yn y wlad.
Mae Iran yn cyhuddo’r 32 o “hybu brawychiaeth a thrais”.
Mae’r sancsiynau’n cynnwys peidio â rhoi fisa, gwahardd mynediad i’r wlad, a mynd ag eiddo ac asedau oddi arnyn nhw ar dir Iran.
Roedd Mark Williams yn wrthwynebydd cryf i Iran yn ystod ei gyfnod yn aelod seneddol gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol, gan feirniadu record hawliau dynol y wlad a’r ffaith fod brawychiaeth yn cael ei ariannu, ac mae’n dal i fod yn aelod o fudiad o blaid Iran rydd.
Cefndir
Fe fu protestiadau mawr yn Iran dros y misoedd diwethaf yn dilyn marwolaeth Mahsa Amini, dynes 22 oed, gafodd ei harestio am beidio â gwisgo’r hijab yn y modd cywir.
Mae’r protestiadau wedi’u galw’n “her fwyaf” llywodraeth Iran ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979.
Erbyn Tachwedd 29 eleni, roedd o leiaf 448 o bobol, gan gynnwys 60 o blant, wedi’u lladd o ganlyniad i ymyrraeth y llywodraeth yn y protestiadau, ac roedd oddeutu 18,210 wedi’u harestio.
‘Bydd yr ymgyrch tros gyfiawnder yn Iran yn parhau’
“Dw i wedi bod yn gadarn fy nghefnogaeth i Iran rydd a democrataidd erioed,” meddai Mark Williams.
“Wrth i brotestiadau barhau ar draws y wlad yn galw am newid, mae’n hanfodol ein bod ni’n dangos ein cefnogaeth fwy nag erioed.
“Yr wythnos hon, rydym wedi gweld nifer o’r protestwyr dewr yn cael eu dedfrydu i farwolaeth.
“Bydd yr ymgyrch tros gyfiawnder yn Iran yn parhau, waeth beth yw’r sancsiynau gan gyfundrefn Iran.
“Does dim negodi ar hawliau dynol a democratiaeth, a byddaf yn parhau i ymgyrch tros achos nobl a chyfiawn pobol Iran, gyda chydweithwyr o bob cornel o’r tirlun gwleidyddol.”
‘Syndod’
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi datgan ei chefnogaeth i Mark Williams.
“O ystyried cefnogaeth ddiwyro Mark i ryddid, democratiaeth a hawliau dynol yn Iran dros nifer o flynyddoedd, efallai ei bod hi’n rywfaint o syndod fod Iran wedi penderfynu cyflwyno sancsiynau yn ei erbyn,” meddai.
“Mae’r fath gam ond yn dangos pa mor bell y bydd y gyfundrefn yn mynd i rwystro gwrthwynebiad gartref a thramor.
“Wedi cyfarfod â’r Iraniaid alltud yng Nghymru ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf o ran protestiadau diweddar yn Iran, dw i’n llwyr ymwybodol o effaith y trais diweddaraf yma gan y gyfundrefn.
“Dw i’n gwybod y byddaf i, Mark a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n parhau â’n cefnogaeth i ryddid a democratiaeth er gwaethaf unrhyw sancsiynau sy’n cael eu taflu atom.”