“Mae’r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau” oedd neges Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mewn rali yn Llanrwst ddydd Sadwrn (Rhagfyr 17).

Er gwaetha’r tywydd, daeth criw at ei gilydd wrth i Gymdeithas yr Iaith ddweud mai ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi arwain at fesurau i fynd i’r afael ag effaith ail dai a thai gwyliau, a bod angen pwyso am fesurau i ddatrys problemau ehangach.

Mae’r Gymdeithas wedi diweddaru eu cynigion ar gyfer Deddf Eiddo i gynnwys mesurau fyddai yn grymuso ac yn buddsoddi mewn cymunedau, trwy ei gwneud hi’n haws i grwpiau cymunedol brynu tir ac eiddo at ddefnydd cymunedol.

Yn ôl ffigurau canlyniadau’r Cyfrifiad yn ddiweddar, cwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghonwy o 29.2% yn 2011 i 25.9% yn 2021.

Yn ôl Beryl Wynne, un o drefnwyr y rali, mae hyn yn rhannol am fod pobol yn gorfod gadael eu cymunedau.

“Rydyn ni’n colli ein stoc o dai achos nad yw ein pobol yn gallu cystadlu ar y farchnad agored sy’n gweld tai yn fodd o wneud pres, nid yn bennaf fel cartrefi,” meddai.

“Rydan ni’n colli ein stoc o dai fel ail gartrefi, fel llety gwyliau neu AirBnBs, ac i bobol gyfoethocach sy’n ffoi o’r dinasoedd.

“O ganlyniad mae llawer o bobol ifainc yn methu fforddio prynu na rhentu tŷ i gael cartre’n lleol, ac maen nhw’n cael eu gorfodi allan.

“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos fod y problemau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg Dyffryn Conwy, Hiraethog ac Uwchaled hefyd yn bygwth ein pentrefi ledled y wlad.

“Felly mae’n bryd i’r Llywodraeth weithredu.”

‘Trasiedi’

“Ymgyrchwyr sydd wedi sicrhau bod grymoedd newydd gan gynghorau i leihau effaith ail dai, ond mae’r broblem tai yn ehangach nag ail dai a thai gwyliau,” meddai Robat Idris.

“Mae colli pobol ifanc o’n cymunedau am na fedran nhw fforddio byw yno, ac am nad oes gwaith iddyn nhw, yn drasiedi.

“Rhaid i ni wrthweithio y grymoedd cyfalafol sy’n hwyluso a phrysuro y dirywiad sy’n gwneud ein cymunedau yn llai hyfyw.

“Rhaid cadw’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei chadarnleoedd traddodiadol, a datblygu hyder ein pobol i ymestyn y Gymraeg i’r ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn brin.

“Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol wneud popeth posib i rymuso ein pobol.

“Gofynnwn i bobol Cymru drwyddi draw godi eu lleisiau yn erbyn y gormes hwn.”