Rhaid ystyried anghydraddoldebau fel tlodi, tai a gwahaniaethu wrth fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, yn ôl adroddiad newydd.

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn dweud bod angen i achosion ehangach o broblemau iechyd meddwl fod yn rhan o strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar dlodi.

Yn ôl Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, mae anghydraddoldebau o’r fath yn golygu na fydd llesiant y boblogaeth yn gwella, ni waeth pa wasanaethau iechyd meddwl sydd ar waith.

Wrth awgrymu 27 o argymhellion ddylai lywio’r strategaeth, mae’r pwyllgor yn nodi bod angen cynnwys camau i leihau tlodi a hyfforddiant newydd mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus.

Effaith trawma a thlodi

Cafodd y cynigion eu datblygu yn dilyn tystiolaeth arbenigol a chyngor grŵp cynghori, oedd yn cynnwys pobol o bob cwr o Gymru sydd â phrofiad o anghydraddoldebau iechyd meddwl.

Dywed Naomi Lea, aelod o’r grŵp cynghori, ei bod hi’n gwybod fod trawma, tlodi a thyfu i fyny fel gofalwr ifanc wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl.

“Mae’n gwbl iawn bod llawer o sôn am iechyd meddwl ar hyn o bryd – ond mae’n ymddangos nad yw hynny’n ymdrin â’r hyn sy’n ei achosi, mae ond yn mynd i’r afael â’r symptomau,” meddai.

“I mi, pe na bawn i wedi tyfu i fyny gyda’r trawma a’r profiad o dlodi ces i dydw i ddim yn meddwl y byddai angen i mi ddefnyddio’r gwasanaethau hynny heddiw.

“Dw i wedi cael trafferth gyda gorbryder ers o’n i tua 14 oed, ac ers hynny dwi wedi cael triniaeth gyson ar gyfer y symptomau – yn hytrach nag ar gyfer fy mhrofiad i fel person.

“Ond dw i’n gwybod fod trawma, tlodi a thyfu i fyny fel gofalwr ifanc wedi effeithio ar fy iechyd meddwl – dyna sydd wrth wraidd y profiadau rydw i wedi’u cael.”

‘Dim un ateb sy’n gweddu pawb’

Mae Myles Lewando, aelod arall o’r grŵp cynghori, wedi cael trafferth gyda’i iechyd meddwl drwy gydol ei fywyd, ond mae’n dweud bod y cymorth gafodd wedi bod yn “ddiffygiol”.

“Mi ges i fy nhrosglwyddo yn ôl ac ymlaen rhwng gwahanol wasanaethau heb gael y driniaeth gywir,” meddai

“Dydy meddygon teulu ddim yn gallu delio â’r peth eu hunain, felly maen nhw’n eich cyfeirio at restr aros o naw mis i gael gofal iechyd meddwl arbenigol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r problemau’n gwaethygu.

“Ac ar ôl aros i gael triniaeth, yn y pen draw maent yn cynnig math anaddas o therapi nad yw’n helpu.

“Mae eich blwch ar restr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei dicio, ond y gwir amdani yw eich bod yn cychwyn o’r newydd eto.

“Ac mae’r anawsterau economaidd mae llawer ohonom yn eu hwynebu yn trosi’n uniongyrchol i drafferthion iechyd meddwl gwaeth.

“Mae’n amser cydnabod fod triniaeth yn bwysig ond ni fydd yn helpu os na allwch dalu eich biliau.

“Nid oes un ateb sy’n gweddu i bawb.

“Mae angen gwneud y gwasanaethau eu hunain yn addas i’r diben, mae angen mynd i’r afael â’r achosion ehangach a’r materion economaidd, ac mae angen i’r cyfan fod o fewn system gydgysylltiedig lle mae pob rhan wahanol yn gwybod beth mae’r lleill yn ei wneud.”

‘Methu gwahanu iechyd meddwl ac amodau byw’

Dydy hi ddim yn bosib gwahanu ein hiechyd meddwl oddi wrth ein hamodau byw a’n hamgylchiadau, yn ôl cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

“Mae’n wirioneddol bwysig fod gwasanaethau iechyd meddwl yn ystyried hynny,” meddai Russell George, Aelod Ceidwadol o’r Senedd.

“Gall unrhyw un gael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, ond mae rhai grwpiau o bobol yn wynebu llawer mwy o berygl, ac mae hyn yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau yn y gymdeithas.

“Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yw ein cyfle i wneud yn siŵr ein bod yn blaenoriaethu mynd i’r afael ag achosion ehangach iechyd meddwl gwael ac ymdrin â’r hyn sy’n ei achosi, nid y symptomau yn unig.”

Mae’r adroddiad, Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru, hefyd yn galw am adolygiad annibynnol o effaith system les y Deyrnas Unedig ar iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, ac ymchwilio i’r effaith y gallai datganoli’r polisi lles ei chael ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.