Yn sgil ystadegau siomedig y cyfrifiad, mae cefnogaeth tros yr ymgyrch addysg cyfrwng Gymraeg i bawb wedi cynyddu, gyda geiriau ac ymadroddion megis ‘amddifadu’, ‘cyfiawnder’, a’r ‘genhedlaeth goll’ yn dwyn perswâd ac yn chwarae rhan bwerus yn y ddadl.
Ond rhaid cofio’n fan’ma mai prif nod y system addysg yw rhoi addysg ym mhob pwnc i blant, ac felly mae cyfiawnder addysgol yn gorfod cael ei flaenoriaethu o flaen unrhyw fater arall – hyd yn oed yr iaith.
Mi ges i addysg cyfrwng Cymraeg, ac rwy’ yn teimlo taw braint oedd hyn, o ran y Gymraeg. Ond mi wnaeth hyn hefyd gymhlethu pethau i mi nes ymlaen oherwydd bod gen i Anghenion Addysgol Arbennig, gyda diagnosis rhy hwyr, a dim geirfa Saesneg angenrheidiol wrth feddwl am ailsefyll yn y coleg.
Wrth bendroni am y sefyllfa gyfan, mae’n teimlo i mi fod llaweriawn o benderfyniadau’r gorffennol wedi eu gwneud ar sail emosiwn, yn hytrach nag yn rhesymegol. Ac eto rŵan mae yna ryw deimlad o eisiau rhuthro mewn, heb gynllunio digon ar gyfer pob senario.
Pontio addysg bellach ac uwch
Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Coleg Cambria a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn partneriaeth, wedi creu darpariaeth addysg bellach cyfrwng Gymraeg.
Cafodd y myfyrwyr eu tynnu o boblogaeth o 385,900 o bobol, ac felly mae hyn tua un ym mhob 643 o’r boblogaeth gyfan. Mae hyn yn llwyddiant ac yn galonogol, sy’n argoeli’n dda at y dyfodol.
Ond cafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei sefydlu ’nôl yn 2011, i weithio hefo prifysgolion yng Nghymru i greu cyrsiau addysg uwch ac adnoddau i fyfyrwyr. Felly lle maen nhw wedi bod tan rŵan o ran pontio rhwng ysgolion ac addysg uwch?
Fel darlithydd hefo’r CCC, roedd y diffyg pontio yma yn creu heriau rhwystredig. Yna, roedd disgwyl i mi ddatblygu modiwlau megis ‘Cymdeithaseg iechyd’ heb werslyfrau, gydag adnoddau prin, a hyd yn oed heb eirfa ran fwya’r amser!
Yn wir, mae’r ymgyrch i greu geirfa foddhaol, gan gynnwys ‘ablaeth’ ac ‘anablaeth’, heb sôn am ‘Medicalization’ a ‘Phenomenological’, yn parhau.
Ac mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi bodoli ers o leiaf yr wythdegau. Ond dim ond nawr rydym yn mynd i’r afael hefo rhai o’r materion hyn megis pontio?
Ystadegau anffodus a difrod cyfochrog?
Nawr ‘te. Dwi’n deall yr awydd i greu addysg cyfrwng Gymraeg ym mhob un o’r cyd-destunau hyn, a dwi’n teimlo’r emosiwn fy hun. Ond wrth geisio rhedeg cyn y medrwn gerdded, rydym yn creu sefyllfa ‘not fit for purpose’, a’r myfyrwyr sydd yn dioddef yn y bôn.
Ydan, mae’r rhan helaeth o fyfyrwyr yn dŵad trwy’r system yn olreit. Ond mae yna hefyd rhai ohonom sy’n dŵad allan heb rifedd na llythrennedd boddhaol – yn ’run iaith.
Ac wrth gwrs mae hyn yn wir du hwnt i addysg cyfrwng Gymraeg. Ond yn fy achos i, rwyf wedi gorfod trin y syniad o drwsio fy rhifedd fel ‘dead loss’. Does gen i ddim yr eirfa yn y Saesneg, a prin iawn yw pobol yn y gogledd ddwyrain fysa’n medru fy nhiwtora fi trwy TGAU Mathemateg… yn y Gymraeg… am ddim.
Her Sisyph-ffïaidd
Wnaeth o gostio rhyw £3,000 i mi drwsio fy llythrennedd Saesneg, a hynny dros sawl mlynedd. Gwnes i hyn trwy ddosbarthiadau nos, modiwlau TEFL, a gwario pres doedd gen i mohono ar lyfrau ac adnoddau drud.
A beth am y Gymraeg, felly? Ydy Coleg Cambria yn cynnig cyrsiau i helpu pobol fel fi? Wel, meddyliais am wneud Lefel A yn y Gymraeg. Ond syfrdanwyd fi gan yr ateb e-bost ges i, yn fy hysbysebu yn llon y medraf wneud â chroeso… am £6,000!! CHWE MIL O BUNNOEDD?!
Gyfeillion, does gen i ddim £600 o bunnoedd, heb sôn am £6,000! Yn wir, does gen i ddim £325 i fynd ar y cwrs Gloywi yn Nant Gwrtheyrn, fysa o leiaf yn rhoi fi ar ben ffordd. Ac i gloi, ar nodyn chwerw iawn, mae gen i ofn…
Es i ar gwrs i ddysgwyr yn Nant Gwrtheyrn ar ddechrau’r flwyddyn, wedi ei chyllido trwy gynllun y Llywodraeth. Ac yno, mi grïais yng nghanol y dosbarth wrth wneud tasg – nid oherwydd fy mod yn methu â’i deall, ond oherwydd roeddwn wedi dechrau ei deall, a gweld beth fyddai wedi bod yn bosib taswn wedi cael y cymorth AAA pan oeddwn yn yr ysgol.
Rwyf wedi fy amddifadu o addysg a’i buddion. Mae hyn yn anghyfiawnder daer. Dwi’n teimlo fod yna ‘genhedlaeth goll’ ohonom yn yr un cwch. Dwn i ddim i ble yr af o fan’ma.
Felly plîs, gawn ni gallio, oedi, a chynllunio’n ofalus, er mwyn osgoi rhoi mwy o blant mewn sefyllfaoedd torcalonnus o letchwith fel hyn… dwi’n ymbilio… plîs!