Mae dros 1,000 o bobol bellach wedi llofnodi deiseb sy’n galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru.

Ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad wythnos ddiwethaf, mae nifer y bobol sydd wedi llofnodi deiseb ymgyrch Wish I Spoke Welsh bron â dyblu, wrth iddyn nhw alw am newidiadau gan Lywodraeth Cymru.

Maen nhw’n credu “y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys nod statudol yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill y bydd pob person ifanc yng Nghymru yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan adeiladu ar hyn dros amser i sicrhau bod mwy a mwy o bobol ifanc yn y dyfodol yn dod yn rhugl ac yn hyderus yn yr iaith”.

Yn ôl y ddeiseb, “y ffordd i sicrhau bod pobol ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith yw addysg cyfrwng Cymraeg”, ond mae’n nodi mai “dim ond tua 20% o bobol ifanc sy’n cael y cyfle hwn ar hyn o bryd”.

“Mae Wish I Spoke Welsh yn ymgyrch sy’n tynnu sylw at beth maent yn credu yw’r anghyfiawnder na fydd mwyafrif pobol Cymru yn cael y cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg, er bod llawer yn teimlo y byddent yn hoffi gallu siarad yr iaith,” meddai’r mudiad.

“Nod yr ymgyrch yw rhoi llais i’r rhai sydd wedi colli’r cyfleoedd hynny ac ymgyrchu am atebion i’r dyfodol, yn enwedig yn y system addysg.”

Cefnogaeth gan gyn-Ddysgwr y Flwyddyn

Un o’r rheiny sy’n cefnogi ymgyrch Wish I Spoke Welsh yw David Thomas, Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2021 .

Daw’n wreiddiol o Gaerdydd, ond mae bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin.

Teimla fod dysgu Cymraeg yn rhan o etifeddiaeth plentyn.

Chafodd o mo’r cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn blentyn, ond byddai wedi hoffi cael y cyfle hwnnw.

Er ei fod bellach wedi dysgu Cymraeg, teimla ei bod hi lawer anoddach dysgu iaith yn oedolyn na’n blentyn, ac mae’n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.

“Gyda chanlyniadau’r cyfrifiad 2021 mewn meddwl, gall ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru,” meddai.

“Dyma’r ffordd o sicrhau eu hetifeddiaeth at y dyfodol a gwneud yn iawn yn rhannol am yr hyn a wrthodwyd i gynifer ohonom yn y gorffennol.

“Cefais fy magu fel rhan o ‘genhedlaeth goll’ yng Nghaerdydd yn y 1970au.

“Chefais i ddim cyfle i ddysgu Cymraeg fel plentyn ac rydw i’n difaru hyn.

“Mae dysgu Cymraeg fel oedolyn wedi trawsnewid fy mywyd, ond mae’n cymryd amser ac ymdrech i ddysgu fel oedolyn.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol.”