Mae newyddiadurwraig sy’n byw ag ADHD yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr mewn rhaglen ddogfen newydd fydd allan heno (Rhagfyr 12).

Bydd Moodswings, Meds a Mared yn cael ei ryddhau ar Hansh, a’r gyflwynwraig Mared Parry fydd yn ystyried sut beth ydy’r cyflwr, y profiad o gael diagnosis hwyr, a’r rhestrau aros am help.

Cyflwr niwroddatblygiadol ydy ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd), a gall pobol â’r cyflwr gael trafferth canolbwyntio a thueddu i weithredu ar fympwyon.

Cafodd Mared, sy’n dod yn wreiddiol o Lan Ffestiniog ond sy’n byw yn Llundain bellach, ddiagnosis ddwy flynedd yn ôl yn 24 oed, ac yn y rhaglen bydd hi’n cyfweld eraill sydd gan ADHD, meddygon, ffrindiau a theulu i unigolion sydd â’r cyflwr, ac arbenigwyr.

Drwy godi ymwybyddiaeth am ADHD, mae Mared Parry yn gobeithio y bydd pobol yn sylwi ar ei ddifrifoldeb ac yn “dallt bod yna fwy iddo fo na jyst bod yn hyperactive”.

‘Sefyllfa waeth yng Nghymru’

Mae ystadegau newydd gan ITV Cymru wedi dangos ei bod hi’n cymryd tair blynedd ar gyfartaledd i bobol yng Nghymru gael eu hasesu, tra bod yr amser yn nes at chwe mis yn Lloegr.

O gymharu â sawl un, cafodd Mared ddiagnosis gweddol sydyn ar ôl yr apwyntiad cyntaf gyda’i meddyg teulu, a hynny o fewn tua chwe mis.

Ond, mae gan Mared ffrindiau sy’n aros i gael eu cyfeirio ymlaen at arbenigwr, ac sydd wedi cael gwybod ei bod hi am gymryd chwe blynedd iddyn nhw gael gweld rhywun.

“Yng Nghymru, mae’r help sydd ar gael i ddiagnosio pobol fwy neu lai yn non-existent. Ti angen cael dy gyfeirio at arbenigwr sy’n delio efo’r math yma o beth, a dydyn nhw jyst ddim yn bodoli yng Nghymru, beisicali,” meddai Mared wrth golwg360.

“Mae o’n rili drwg yn bob man yn y Deyrnas Unedig, ond mae Cymru’n benodol yn uffernol, mae o lot, lot gwaeth.”

ITV Cymru sydd wedi cynhyrchu’r rhaglen ddogfen, sy’n ddwyieithog, ar gyfer Hansh, ac mae cais rhyddid gwybodaeth ganddyn nhw wedi dangos bod pobol yn gorfod aros dros ddwy flynedd a hanner am asesiad cychwynnol yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Does dim clinig penodol yn delio ag ADHD yn ardal Bae Abertawe, ac ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda mae 1,726 o oedolion yn aros am asesiadau, gyda 815 yn aros ers dros 52 wythnos.

Diagnosis hwyr

Pan oedd Mared tua phedair oed, fe wnaeth ei mam ei chyfeirio at seicolegydd plant gan ei bod hi’n “meddwl bod yna rywbeth ddim 100%”.

Ond ar ôl sawl prawf, dywedodd y seicolegydd wrthi fod yna ddim byd yn mater, a’u bod nhw wedi “molicodlo” Mared a’i bod hi eisiau sylw.

“Fe wnaethon nhw ddweud mai [dyna’r] unig reswm fy mod i’n siarad ar draws bobol o hyd, a’r math yna o beth,” meddai.

Chafodd ADHD ond ei adnabod fel cyflwr swyddogol yn y Deyrnas Unedig yn y flwyddyn 2000, tua’r un cyfnod a gafodd Mared y profion fel plentyn.

“Mwy na thebyg mai dyna pam wnaeth neb diagnosio fi efo fo, achos doedd yna neb wir yn gwybod amdano, yn enwedig ddim yn lincio fo efo genod.”

Mae cyfraddau diagnosis ymhlith menywod lawer is, gyda dynion dair gwaith mwy tebygol o gael diagnosis na merched.

‘Cyfiawnhad’

Dechreuodd Mared feddwl bod ganddi ADHD pan oedd hi yn y brifysgol, wrth iddi glywed mwy am cyflwr, ac mae hi’n falch ei bod hi wedi mynd ar ôl y diagnosis hwyr.

“Mae yna lot o bobol yn meddwl ei fod o ddim am wneud gwahaniaeth, cael eich diagnosio yn eich 20au, 30au, 40au, 50au hyd yn oed, achos ti wedi byw efo fo drwy dy fywyd a dydy o ddim yn gwneud gwahaniaeth cael o lawr ar ddarn o bapur.

“Ond i fi, roedd o’n fwy na hynna. Roedd o fel complete justification i bopeth dw i wedi’i deimlo a mynd drwy pan oeddwn i’n ifengach, bob un strygl dw i wedi’i gael efo canolbwyntio, bob un tro oeddwn i’n cael row am ddrymio fy mysedd ar y bwrdd yn yr ysgol, stryglo i gael pethau mewn ar amser, stryglo i gyrraedd darlithoedd ar amser… bob tro dw i wedi teimlo’n euog am hynna, neu bob tro dw i wedi cael fy ngwneud i deimlo’n ddrwg – mae o’n gwneud sens, roedd o’n huge relief.

“Roedd cael y mynediad at help a meddyginiaeth yn anferth, mae hynna rili wedi newid pethau.

“Mae o hefyd yn amddiffyn chdi mewn gwaith, ti’n cael dy ystyried fel ‘disabled’ ac mae o’n protected characteristic felly ti methu cael dy sacio neu dy roi ar probation am resymau’n gysylltiedig ag ADHD.”

‘Ddim yn jôc’

Mae’r diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ynghylch ADHD yn amlwg, meddai Mared.

“Mae ADHD ychydig bach o hot topic ar hyn o bryd, mae o ar hyd social media, pawb yn gwneud fideos relatable, doniol amdano fo. Rydyn ni’n siarad am hynny yn y ddogfen, a sut bod hynny’n gallu bod yn beth da a drwg yr un pryd,” eglura.

“Dw i’n amlwg wedi byw drwy hyn, a dw i eisiau codi mwy o ymwybyddiaeth – dim jyst i’r bobol sydd efo fo ac eisiau clywed mwy amdano fo, ond i bobol allan yna sy’n meddwl bod ganddyn nhw ADHD o bosib, neu bobol sydd efo brawd neu chwaer, cariad, ffrind neu gydweithiwr sydd efo fo.

“Dydy o ddim yn gyflwr lle mae pobol yn gallu jocian amdano fo, ac mae o lot mwy siriys na be mae pobol yn feddwl.

“Mae yna bobol yn lladd eu hunain o ganlyniad i fethu gallu byw efo’r symptomau.

“Dw i’n bersonol yn sick o ddweud wrth bobol ‘Sori am hyn, mae gen i ADHD’ a nhw’n ateb fi’n dweud ‘Oo ia, haha, dw i bach yn ADHD hefyd weithiau’ – yn defnyddio fo fel quirk. Pobol yn camddefnyddio’r cyflwr fel rhan o jôc.

“Dw i o hyd yn clywed pobol yn dweud pethau fel ‘That gave me PTSD’ ar ôl gweld rhywbeth, a dydy o ddim yn ddoniol. Mae o’n gwneud fi mor flin.

“Dw i eisiau codi ymwybyddiaeth ymysg pobol bod defnyddio termau sy’n ymwneud â salwch meddwl rili ddim yn ddoniol.”

‘Gwella gwasanaethau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth ITV Cymru eu bod nhw’n “gweithio gyda phobl â chyflyrau niwroddatblygiadol, gan gynnwys ADHD, eu teuluoedd a phobl broffesiynol i wneud gwelliannau hirdymor i wasanaethau niwroamrywiol ledled Cymru”.

“Rydym wedi ymrwymo £12m ychwanegol dros dair blynedd i wella gwasanaethau tra’n cryfhau’r gefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr sy’n aros am asesiad.”

  • Moodswings, Meds a Mared allan ar sianel YouTube Hansh heno, Rhagfyr 12 am 8yh.