Gallai rhai o ganolfannau hamdden y canolbarth gau am ychydig fisoedd yn sgil cynnydd mewn costau ynni.

Mae’n bosib y bydd holl ganolfannau hamdden Powys yn cau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ond gallai rhai gau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth.

Bydd y cynnig hwn gan Gyngor Sir Powys yn cael ei ystyried gan Gabinet y cyngor heddiw (Rhagfyr 13) fel ymateb i’r argyfwng costau byw a chynnydd “catastroffig” costau ynni.

Caiff y cynnig ei wneud ar y cyd â’u partner nid er elw, Freedom Leisure, sy’n rhedeg gwasanaethau hamdden y cyngor, ac yn ôl y cwmni mae’r costau ychwanegol o ddarparu’r gwasanaeth ym Mhowys am fod yn fwy na £1 miliwn o hyn ymlaen.

‘Anghynaladwy’

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Llewyrchus, bod yr argyfwng ynni’n cael “effaith ddinistriol” ar y gwasanaethau hamdden “ar adeg pan fo llawer yn straffaglu ag adferiad yn dilyn effaith pandemig coronafeirws”.

“Tra bo rhai meysydd hamdden ar eu tyfiant mae eraill, gan gynnwys aelodaeth a ffitrwydd yn parhau’n sylweddol is na’r gyllideb.

“Mae’r golled mewn incwm yn cael ei chymhlethu gan chwyddiant gyda chynnydd i gostau cyflenwadau, gwasanaethau a chyflogau.

“Ond y cynnydd i gostau ynni yw’r effaith fwyaf. Mae’n her ar draws y diwydiant sy’n amlygu pyllau nofio a’u gofynion ynni a rhywbeth sy’n rhan o brofiad pob darparwr, boed yn gyhoeddus neu’n breifat.

“Mae Freedom Leisure eisoes wedi gweithredu amrywiaeth eang o fesurau gweithredol ac effeithiolrwydd ynni i leihau defnydd yn sylweddol fodd bynnag, mae’r costau ychwanegol o ddarparu gwasanaeth hamdden ym Mhowys yn mynd i fod yn fwy na £1m o hyn ymlaen.

“Mae’r lefelau eithafol hyn o gynnydd mewn costau yn anghynaladwy heb gefnogaeth dargedig ychwanegol llywodraeth leol neu ganolog.

“Mae’r Cyngor Sir yn gweithio’n agos at ei bartneriaid Freedom Leisure i weithredu mesurau dros dro i leihau’r diffyg ac archwilio i opsiynau ar gyfer darpariaeth hir dymor.”

‘Prynu amser’

Er bod y Cyngor yn cydnabod bod yr opsiynau sy’n cael eu cynnig yn “siomedig”, byddai peidio gweithredu’n golygu gosod yr holl ddarpariaeth hamdden mewn risg yn y dyfodol a gosod “baich annerbyniol” ar gyllideb gyffredinol y Cyngor.

Dan y cynnig, byddai pob canolfan hamdden yn y sir yn cau rhwng Rhagfyr 23 ac Ionawr 3.

Byddai canolfannau Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Llanandras yn cau rhwng Rhagfyr 23 a Mawrth 31, a’r pyllau nofio ar gau i’r cyhoedd a’r ysgolion.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cau pyllau nofio Llanidloes, Rhaeadr Gwy a Llanfair-ym-muallt i’r cyhoedd ac ysgolion, a chau pob sawna.

“Bydd darpariaeth hamdden yn parhau i fod ar gael mewn llawer o leoliadau eraill ledled y sir,” ychwanega David Selby.

“Mae cau canolfannau hamdden a phyllau nofio dros dro yn seiliedig ar y canolfannau hynny sy’n cael eu defnyddio leiaf gan y cyhoedd, y costau uchaf a’r lefel uchaf o gymhorthdal cyhoeddus.

“Rydym ni hefyd yn rhoi ystyriaeth i argaeledd a phellter at ganolfannau eraill.

“Bydd y gweithredu hwn yn prynu amser i ni, ond bydd rhaid i ni gyflawni adolygiad trylwyr o holl ddarpariaeth y gwasanaeth hamdden yn y sir.

“Nid yw’r model cyfredol yn gynaliadwy, a rhaid i ni weithio gyda phobl Powys i greu strwythur y gallwn ei fforddio,”