Bydd Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru’n cynnwys cyllid i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol.

Fel rhan o’r Gyllideb, fydd yn cael ei chyhoeddi heddiw (Rhagfyr 13), bydd Gweinidog Cyllid Cymru’n cyhoeddi cyllid cylchol o tua £70 miliwn i gyflawni’r ymrwymiad.

Erbyn mis Mehefin 2023, bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael £10.90 yr awr.

Bydd y cynnydd yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a phlant.

Yn ogystal, bydd yn cynnwys cynorthwywyr personol sy’n darparu gofal a chymorth sy’n cael ei ariannu drwy daliadau uniongyrchol.

“Er gwaethaf y cyd-destun economaidd a chyllidol heriol, rydyn ni’n gwbl ymroddedig o hyd i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

“Rwy’n falch o allu cynnal ein hymrwymiad i weithwyr gofal cymdeithasol, a bydda i’n dweud rhagor am sut y byddwn yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus pan fydda i’n cyhoeddi manylion llawn y Gyllideb yn ddiweddarach heddiw.”

‘Datrys problemau strwythurol’

Cyn i’r Gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi, dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod gan y Llywodraeth Lafur gyfle i “ddatrys y problemau strwythurol” yng Nghymru, o leihau rhestrau aros i ariannu’r system addysg.

“Efallai y bydd Llafur yn trio dweud eu bod nhw’n ddi-rym a rhoi’r bai ar eraill, ond mae ganddyn nhw’r grymoedd ariannol a’r pŵer i wneud penderfyniadau,” meddai Peter Fox, llefarydd cyllid y blaid.

“Mae angen i Lafur ddefnyddio’r cyllid ychwanegol sylweddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu Cyllid sy’n cwrdd ag anghenion teuluoedd a busnesau.

“Blaenoriaethau pobol Cymru yw dadflocio’r system gofal cymdeithasol, buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, mynd i’r afael ag amseroedd aros o fewn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, a chefnogi teuluoedd gyda chostau byw.”

Yn ôl Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y blaid, “mae’n hen bryd i’r Llywodraeth Lafur weithredu ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflog uwch i ofalwyr cymdeithasol, sy’n rywbeth y gwnaethon ni alw amdano yn yr etholiad diwethaf”.

“Mae’n drueni y cymerodd gyhyd i’w gyflwyno, yn enwedig pan fyddai ond wedi costio £9m y llynedd i glymu tâl gofalwyr â chyfraddau cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.

“Nawr, mae angen i ni weld y gwelliannau eraill rydyn ni eu heisiau ar gyfer gofalwyr, o’r hawl i seibiant i uwch-sgilio gofalwyr i gymryd mwy o gyfrifoldebau boddhaus.

“Byddai hyn yn ychwanegol at deithio yn rhad ac am ddim ar fysiau a grantiau i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth i ofalwyr ifainc.

“Rhaid i’r Gyllideb fod yn un sy’n gweithredu, a dyna fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gwthio amdano.”

‘Amddiffyn rhag argyfwng San Steffan’

Dylai Llywodraeth Cymru weld sut i ddefnyddio’r grymoedd sydd ganddi i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag argyfwng costau byw San Steffan, meddai Plaid Cymru.

Er bod pwerau cyllidol Cymru yn gyfyngedig, dydyn nhw ddim yn ddi-rym, meddai llefarydd cyllid y blaid, Llyr Gruffydd.

Mae £1.2 biliwn wedi cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru gan San Steffan dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond mewn termau real mae disgwyl i’r arian sydd gan Gymru i’w wario fod £800 miliwn yn is yn y flwyddyn ariannol nesaf, a £600 miliwn yn is yn 2025.

Dywed Llyr Gruffydd bod effaith yr argyfwng costau byw ar gyllid cartrefi a gwasanaethau cyhoeddus yn “brawf” pellach na fyddai San Steffan byth yn gweithio dros Gymru. 

“Nid yw miloedd o deuluoedd bellach yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi neu fwydo eu plant,” meddai Llyr Gruffydd.

“Mae ein gwasanaeth iechyd mewn cyfnod o argyfwng gyda chleifion yn aros am ddyddiau yn yr adran damweiniau ac achosion brys a nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau.

“Bydd y Torïaid yn ceisio honni bod toriadau yn anochel – ond dewis gwleidyddol ydyn nhw a rhaid eu gwrthod. Ac, wedi dros ddegawd o lymder, tanfuddsoddi, a chwymp sylweddol mewn safonau byw does dim byd ar ôl i’w dorri ond gwasanaethau sylfaenol.

“Heb os, bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael ei hysgogi gan yr angen i ddelio â llanast San Steffan.

“Efallai bod y pwerau cyllidol sydd gennym ni i ymateb i’r argyfwng hwn yn gyfyngedig – ond nid yw hynny’n golygu ein bod ni’n ddi-rym fel gwlad.

“Dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellid defnyddio pwerau amrywio trethi i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, gwella’r cynnig cyflog i weithwyr sector cyhoeddus, a helpu’r bobol sy’n dioddef fwyaf yn ystod yr argyfwng hwn.

“Rhaid i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn pobol rhag rhai o effeithiau gwaethaf yr argyfwng economaidd hwn.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, sefyll mewn undod gyda’r rhai sydd ar streic am well cyflog ac amodau gwaith; a pharhau i frwydro am ddyfodol gwell i’n cymunedau.”