Mae Esquerra Republicana, plaid lywodraeth Catalwnia, yn llygadu refferendwm annibyniaeth arall, lle byddai angen i 50% o’r etholwyr bleidleisio ‘Ie’.

Mae’r blaid a’u harweinydd Oriol Junqueras yn awyddus i gynnal trafodaethau â Llywodraeth Sbaen.

Yn ôl eu cynllun, byddai angen i o leiaf 50% o’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio fwrw eu pleidlais, ac i o leiaf 55% o’r rheiny bleidleisio ‘Ie’ er mwyn ennill annibyniaeth.

Byddai’r bleidlais ar agor i holl drigolion Catalwnia dros 16 oed, yn ogystal â’r rhai sy’n dod o Gatalwnia ond nad ydyn nhw’n byw yno.

Mae Esquerra wedi cyhoeddi dogfen o’u gofynion, fydd yn destun dadl a phleidlais yng nghyngres y blaid ar Ionawr 28.

Maen nhw’n dweud y bydd angen “cwestiwn clir” tebyg i’r un gafodd ei ofyn yn 2017.

Tynnu ar brofiadau gwledydd eraill

Mae ymgyrch refferendwm Catalwnia yn tynnu ar brofiadau gwledydd eraill.

Cyn hyn, roedd Esquerra yn mynnu y byddai angen 50%+1 o’r bleidlais.

Ond mae’r ffigurau o 50% o bleidleisiau cymwys a 55% o blaid annibyniaeth yn dilyn esiampl Montenegro pan ddaeth yn annibynnol ar ôl gadael Serbia, pan gafodd eu refferendwm ei gymeradwyo gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dim ond 43% o’r rhai oedd yn gymwys i bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017 wnaeth fwrw eu pleidlais.

Pe bai Catalwnia yn fodlon derbyn yr amodau, mae Esquerra yn dweud y gellid cynnal trafodaethau rhwng llywodraethau Catalwnia a Sbaen, gyda chymorth gan wledydd eraill, er mwyn sefydlu gwladwriaeth newydd Catalwnia annibynnol, sef y dull gafodd ei gymeradwyo gan Oruchaf Lys Canada wrth gynnal refferendwm Quebec.

Byddai gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn dilyn esiampl yr Alban yn 2014.

Hyd yn hyn, mae trafodaethau rhwng Sbaen a Chatalwnia wedi arwain at ddileu’r drosedd o annog gwrthryfel mewn perthynas â’r ymgyrch tros annibyniaeth, yn ogystal â diwygio’r drosedd o gamddefnyddio arian cyhoeddus.