Mae cynlluniau i godi prisiau trwyddedau ar gyfer rhai prosesau amaethyddol yn “annerbyniol”, yn ôl ffermwyr.

Fel rhan o’u cynlluniau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig codi prisiau trwyddedau ar gyfer “prosesau hanfodol na ellir eu hosgoi” ar ffermydd, meddai undebau amaethyddol.

Mae’r cynnig yn cynnwys cynyddu cost cael trwydded i ledaenu dip defaid ar dir gan ddeg gwaith, ynghyd â chynnydd i’r costau ar gyfer rheoli sgil-gynhyrchion amaeth.

Bwriad Cyfoeth Naturiol Cymru ydy gwneud y newidiadau ar Ebrill 1 y flwyddyn nesaf, yn ddibynnol ar ganiatâd Llywodraeth Cymru.

‘Siomedig’

Ond mae NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a CLA Cymru yn gwrthwynebu’r cynlluniau, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw.

Mae’r tair undeb yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ailedrych ar eu cynigion ac ystyried yr ansicrwydd “heb ei debyg” sy’n wynebu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

“O roi hyn mewn cyd-destun, ac ystyried y pwysau chwyddiannol sylweddol iawn sy’n wynebu ffermydd ar gyfer cynnyrch hanfodol fel tanwydd, bwyd a gwrtaith, bydd sawl ffarmwr yn siomedig â chynigion Cyfoeth Naturiol Cymru,” meddai Hedd Pugh, cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru.

“Er ein bod ni’n deall bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i adfer costau ac nad ydyn nhw’n gallu traws-sybsideiddio sawl rhaglen taliadau, bydd ffermwyr yn synnu tuag at raddfa’r cynnydd arfaethedig mewn costau ac yn siomedig nad ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud mwy o ymdrech i symleiddio’r broses ceisiadau [ar gyfer y trwyddedau] ac ystyried ffyrdd i ostwng y costau.”

‘Anghyfrifol’

Wrth ymateb ar y cyd â CLA ac Undeb Amaethwyr Cymru, dywed NFU Cymru fod y gymuned amaethyddol yn deall bod rhaid i gostau adlewyrchu chwyddiant.

“Fodd bynnag, mae hi’n hynod anghyfrifol bod asiantaeth Llywodraeth Cymru’n rhoi busnesau mewn risg heb wir ystyried lle i arbed pres a chreu prosesau effeithlon er mwyn gostwng costau,” meddai’r undeb.

“Mae NFU Cymru, CLA ac Undeb Amaethwyr Cymru’n gwybod bod ffermwyr wedi cael eu taro gan gostau tanwydd, porthiant a gwrtaith uchel.

“Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru ailystyried y cynigion, cynigion a fydd ond yn ychwanegu at gostau cynhyrchu bwyd yng Nghymru.”

‘System decach’

Dywedodd Martyn Evans, Arweinydd Tîm Rheoleiddio’r Dyfodol Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r effaith ariannol y gallai’r cynigion ei gael ar rai busnesau, yn enwedig o ystyried pwysau costau byw.

“Ond nid yw ein ffioedd cyfredol – am wasanaethau gan gynnwys gwaith caniatáu, monitro, a gwaith parhaus i sicrhau cydymffurfiaeth – yn adlewyrchu costau llawn darparu’r gwasanaethau hyn,” ychwanegodd.

“Y costau arfaethedig sy’n debygol o effeithio ar ffermwyr yw’r ffioedd ar gyfer pobol sy’n magu moch a dofednod yn ddwys; y ffioedd am drwyddedau ar gyfer gwaredu gwastraff dip defaid i’r tir; y ffioedd am drwyddedau tynnu dŵr a’r ffioedd ar gyfer gwaith sicrhau cydymffurfiaeth o ran diogelwch cronfeydd dŵr, yn ogystal â’r ffioedd arfaethedig newydd ar gyfer ceisiadau am weithgareddau a allai niweidio cynefinoedd rhywogaethau gwarchodedig, neu weithgareddau megis trapio, trin neu aflonyddu ar rywogaethau gwarchodedig.

“Mae’r rhan fwyaf o newidiadau arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwneud â ffioedd untro ar gyfer ceisiadau.

“Golyga hyn – ac eithrio’r cynnydd arfaethedig i ffioedd cynhaliaeth blynyddol – na fyddai’r trwyddedau presennol a ddelir gan ffermwyr a thirfeddianwyr yn cael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i ffioedd am geisiadau, oni bai eu bod eisiau amrywio trwydded, ildio trwydded, neu’n meddwl ehangu neu arallgyfeirio eu busnes mewn modd y byddai angen trwydded newydd ar ei gyfer.

“Ein huchelgais yw creu system decach a mwy tryloyw o ran ffioedd – system a fydd yn arwain at ddiogelu ein hamgylchedd naturiol yng Nghymru yn fwy effeithiol, a’i wella.

“Bydd yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i ffioedd am geisiadau am drwyddedau a’n hadolygiad blynyddol o ffioedd cynhaliaeth yn parhau tan 7 Ionawr 2023 ac rydym yn annog pawb i ddweud eu dweud.”