Dydy 70% o bobol yng Ngwynedd ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn y sir, yn ôl Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd.
Mae gan Gyngor Gwynedd gynllun newydd ers ychydig fisoedd, sef Cynllun Prynu Cartref Gwynedd sydd yn cynnig benthyciadau ecwiti er mwyn prynu tŷ.
Caiff y cynllun ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd, a chaiff ei weinyddu drwy eu partner cyflawni, Tai Teg.
Mae’r swm y mae modd ei fenthyg yn gysylltiedig â sefyllfa ariannol yr unigolyn, a’r uchafswm mae’r unigolyn hwnnw’n gallu ei fenthyg drwy forgais.
Mae modd benthyg rhwng 10% a 50% o werth eiddo, a bydd y benthyciad yn cael ei osod fel arwystl ar yr eiddo.
Cynllun newydd
Mae Craig ap Iago, sy’n gynghorydd dros ward Penygroes, yn credu ei bod yn bwysig fod pobol yn ymwybodol o’r cynllun hwn er mwyn i Gyngor Gwynedd gael eu helpu.
“Tri mis yn ôl wnaethom ni lansio fo,” meddai wrth golwg360.
“Rydym angen gwneud yn siŵr bod gymaint o bobol ag sy’n bosib yn ymwybodol bod y cynllun yma’n bodoli.
“Mi fysa swyddogion yr adran yn 100% cytuno efo fi’r mai’r peth pwysicaf yw bod pobol yn ymwybodol o beth rydym yn ei wneud i’w helpu nhw a’n bod ni’n clywed gan bobol sydd angen help.
“Os ydym yn gwybod faint o bobol sydd yna sydd angen help, a pha fath o help maen nhw ei angen, rydym ni’n gallu gwneud beth bynnag rydym yn gallu’i wneud i ymateb i’r broblem.”
Prinder tai yng Ngwynedd – “colli’r frwydr”
Does dim digon o dai yn cael eu hadeiladu ar gyfer nifer y bobol sydd angen cartref yn y sir, ac mae nifer gynyddol o bobol o’r tu allan i’r sir yn prynu tai fel ail gartrefi.
Ond un enghraifft yw’r cynllun hwn o sut mae Cyngor Gwynedd yn ei gwneud hi’n haws i bobol leol prynu tai, er mai cyfyng yw pwerau’r Cyngor Sir i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mewn ymdrech i leddfu’r broblem, maen nhw wedi cynnal ymgynghoriad, gan ddweud eu bod nhw’n deall rywfaint ar ddyfnder y broblem.
Mae Craig ap Iago yn gweld y broblem yn un sydd yn ymwneud yn rhannol â dyfodol yr iaith, oherwydd bod y Gymraeg yn iaith gymunedol.
“Er ein bod ni’n adeiladu tai, dydy faint o dai sydd ar gael ddim yn codi,” meddai.
“Mae’n gostwng bob blwyddyn.
“Dydy hynny ddim yn gynaliadwy o gwbl.
“Rhaid ystyried faint o dai ychwanegol rydym eu hangen bob blwyddyn.
“Mae’n mynd fyny rhwng 7% a 8% bob blwyddyn.
“Rydym angen mwy o dai nag yr ydym yn eu hadeiladu, beth sydd yn digwydd yw ein bod yn colli tai.
“Bysen ni’n gwneud bob dim rydan ni’n gallu i lefelu’r playing field, sydd bron yn amhosib heb y grym a’r adnoddau cynllunio a thrwyddedu.
“Heb hynny, rydym am golli’r frwydr.”
‘Gwneud beth bynnag rydym yn gallu’
“Rydym yma i wneud beth bynnag rydym yn gallu gwneud,” meddai Craig ab Iago wedyn.
“Mae’n un cynllun arall o sut rydym yn helpu pobol leol i aros yn eu cymunedau.
“Trwy brynu’r tŷ efo nhw, mae’n golygu fod y tai ddim yn costio gymaint, mae’n golygu eu bod yn gallu cystadlu efo pobol sydd efo mwy o bres na nhw.
“Rydym yn poeni am yr iaith oherwydd canlyniadau’r Cyfrifiad.
“Heb dai, heb rywle i fyw, fyddai dim cymunedau Cymraeg.
“Rydym angen tai i bobol fyw.
“Does dim byd yn bwysicach na helpu pobol leol i fyw yn eu cymunedau yn ein tai.
“Rydym newydd wneud ymgynghoriad tai trwy Wynedd, sydd yn golygu’n bod ni’n deall yr angen lleol go iawn.
“Ond ti ddim yn gallu deall o’n llwyr.
“Rydym dal angen clywed gan bobol.”
Dim ewyllys
Mae Craig ap Iago yn credu bod y sefyllfa dai yn “catastrophe”, meddai, ac mae eisiau gweld y sefyllfa dai yn cynnig gobaith i’w blant, ac i blant eraill yn y dyfodol.
Dydy o ddim yn credu bod yr ewyllys wleidyddol yno i newid y sefyllfa, a bod rhaid i Gyngor Gwynedd wneud eu gorau gyda’r pwerau sydd ganddyn nhw.
Er enghraifft, mae’n credu bod atebion syml ar gael o edrych ar y tai gafodd eu hadeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
“Ti’n siarad am y chweched wlad gyfoethogaf yn y byd, ac nid ydym yn gallu fforddio byw,” meddai wedyn.
“Mae’n foesol anghywir, mae’n fwy nag argyfwng, mae’n catastrophe sy’n mynd yn waeth bob dydd.
“Mae pethau yn gwaethygu yn sydyn iawn.
“Mae yna atebion syml iawn i’r broblem, mae o’n glir sut rydym yn datrys y broblem.
“Yr unig beth sy’n stopio ni wneud hynny ydy’r ewyllys wleidyddol.
“Y bobol sydd yn rheoli ni sydd efo tai da.
“Dw i ddim yn gallu deall pam nad ydym mewn chwyldro, dydy hyn ddim yn gynaliadwy, byddan ni mewn trafferth yn fuan.
“Rydan ni angen gwneud rhywbeth yn fuan iawn.
“Mae pob rhan o’n cymuned ni’n bwysig, ond heb dai does dim byd arall.
“Gwaelod ein cymdeithas ni, ein ffordd o fyw ni a bob dim rydym yn coelio ynddo yw tai.”
‘Heb dai, gallwn anghofio am yr iaith’
Mae tai a’r iaith Gymraeg yn mynd law yn llaw, yn ôl Craig ab Iago.
“Heb dai, gallwn anghofio am yr iaith, addysg, dyfodol ein plant…” meddai.
“Mae gennyf dri o blant ifainc, dw i eisiau iddyn nhw dyfu fyny yn gweld bod yna bositifrwydd a gobaith.
“Rydym angen rhoi gobaith i bobol ac i’n plant ni bo nhw yn gallu aros yma a thrio datrys y problemau yma a gwella bob dim ac edrych ar ôl y pethau rydym yn caru gymaint.”
Tynnu ar y gorffennol
Yn ôl Craig ab Iago, mae gwersi i’w dysgu o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan oedd angen adeiladu tai o’r newydd.
“Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd yn llawer gwaeth na sut mae o rŵan,” meddai.
“Gwnaethom ni adeiladu cannoedd o filoedd o dai o safon da iawn, tai cymdeithasol i gartrefu yn y deng mlynedd ar ôl y rhyfel.
“Mae’r tai yna dal yn bodoli a dal yn dda.
“Rydym wedi gwerthu’r rhan fwyaf ohonyn nhw ac maen nhw’n werth ffortiwn rŵan.
“Bysen ni’n gallu gwneud yr un fath rŵan heb broblem.
“Rydym ni’n trio sortio’r broblem yng Ngwynedd rŵan, rydym wedi treulio digon o amser yn disgwyl i bobol ddod i’n hachub ni.
“Rydym wedi bod yn cwyno am hyn ers degawdau.
“Rydym wedi cael y llywodraeth yng Nghaerdydd i gydnabod fod yna broblem, hwn ydy’r tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny.
“Bum mlynedd yn ôl, roedd adroddiad gan y Llywodraeth yn dweud fod dim issues efo tai o gwbl yng Ngwynedd; os ydym ni eisiau newid pethau, rydym angen newid y system.”