Mae’r wefan ddwyieithog gyntaf i fynd i’r afael â thrawma yng Nghymru’n cael ei lansio gan Sefydliad Crysalys heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 13).
Mae’r wefan newydd yn adnodd ar gyfer pobol sydd wedi profi trawma, a’u teuluoedd, yn ogystal ag ymarferwyr cymunedol a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi ledled Cymru.
Mae’r wefan – y gyntaf o’i math yng Nghymru – wedi’i datblygu gyda grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac fe ddaw wyth mis ar ôl gwefan debyg yn Lloegr, sef Tackling Trauma.
Mae’r wefan ddwyieithog newydd yn cynnig gwybodaeth ddwyieithog, fideos ac adnoddau hunangymorth i bob oed, yn ogystal â gweminarau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobol sy’n byw â thrawma.
Er enghraifft, fis diwethaf, defnyddiodd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yng Ngwent y wefan fel rhan o’u sesiwn hyfforddiant trawma rhad ac am ddim, sydd wedi’i hanelu at bobol sy’n gweithio ym myd addysg.
Mae Sefydliad Crysalys wedi bod yn datblygu adnoddau trawma digidol yn rhad ac am ddim ers 2020 i gynyddu dealltwriaeth trawma, adferiad a gwytnwch.
Gwnaeth Sefydliad Crysalys gais llwyddiannus am grant o £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddatblygu adnodd dwyieithog i fynd i’r afael ag effeithiau trawmatig Covid-19 a’r argyfwng costau byw sy’n effeithio’n arbennig ar bobol sydd eisoes yn byw mewn adfyd a thlodi.
‘Achubiaeth i lawer o bobol yng Nghymru’
Yn ôl Jane Deamer, Rheolwr Datblygu Sefydliad Crysalys, bydd y wefan newydd yn “darparu achubiaeth i lawer o bobol yng Nghymru” sy’n methu cael mynediad at gymorth arall neu sydd ar restrau aros am wasanaethau iechyd meddwl.
“Mae Taclo Trawma Cymru yn gam arall tuag at atal trawma, ei leihau, ei liniaru a’i drin,” meddai.
“Nid yw’r wefan i fod i gymryd lle cymorth iechyd meddwl gan y GIG neu CAMHS er enghraifft, ond bydd yn ddefnyddiol ar gyfer hunangymorth, i ategu neu gael ei ddefnyddio ochr yn ochr ag ymyriadau eraill neu pan fydd gwasanaethau eraill ar gau.
“Mae adnoddau iechyd digidol rhad ac am ddim wedi dod yn fwyfwy hanfodol i wella llesiant, a gwyddom y gall y rhan fwyaf o bobol gael mynediad ar-lein, cyfryngau cymdeithasol ac apiau.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi llongyfarch Sefydliad Crysalys ar lwyddo i ennill y grant.
“Mae Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30m bob wythnos ar gyfer grantiau i achosion da fel hyn a fydd yn cael eu gwerthfawrogi gan bobol sy’n dioddef trawma a’u teuluoedd, yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw,” meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
“Rwy’n gwybod fod yr elusen yn bwriadu datblygu’r safle ymhellach ac ychwanegu at y safle yn y dyfodol wrth iddynt dderbyn adborth gan bobol sy’n ei ddefnyddio.”