Mae arolwg barn newydd yn awgrymu bod mwyafrif o bleidleiswyr yr Alban yn cefnogi annibyniaeth.

Dyma’r pedwerydd arolwg barn yn olynol ar annibyniaeth sydd wedi dangos bod mwyafrif o Albanwyr o blaid gadael yr undeb, yn dilyn arolygon gan Redfield a Wilton Strategies, Ipsos a Find Out Now.

Canfu pôl piniwn YouGov, wnaeth holi o 1,090 o bleidleiswyr, y byddai 47% yn ffafrio annibyniaeth, tra bod 42% yn cefnogi aros yn yr undeb.

Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu 4% ers arolwg blaenorol ym mis Hydref, tra bod y bleidlais ‘Na’ wedi gostwng tri phwynt.

Roedd tua 8% yn ansicr, ddim ag awydd pleidleisio neu heb benderfynu.

Fodd bynnag, pan gafodd y pleidleiswyr yma eu heithrio, roedd cyfanswm y gefnogaeth i annibyniaeth yn 53%, tra bod 47% yn dymuno aros yn rhan o’r undeb.

Ansicrwydd ynghylch strategaeth

Daw hyn ychydig wythnosau yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys fod angen i’r Alban geisio caniatâd San Steffan er mwyn cynnal ail refferendwm annibyniaeth

Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn gweithredu fel “refferendwm de facto”, a phe bai dros 50% o’r bleidlais yn mynd i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth byddai’n rhoi mandad iddyn nhw.

Ond mae’r arolwg yn awgrymu y gallai pleidleiswyr fod yn ansicr o’r cynllun hwnnw, gyda chefnogaeth i’r SNP mewn etholiad cyffredinol yn disgyn dau bwynt i 43%.

Dywedodd 52% nad ydyn nhw’n credu y byddai mwyafrif i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn gyfystyr â mandad ar gyfer refferendwm – gyda 23% o gefnogwyr yr SNP yn cytuno â’r farn hon.

Yn y cyfamser, dywedodd 39% o bobol y byddai’r “refferendwm de facto” yn ddigon i adael y Deyrnas Unedig, tra bod 9% ddim yn siŵr.

Er hynny, roedd 51% yn credu y dylai Senedd yr Alban gael y pŵer i gynnal y bleidlais, o’i gymharu â 39% yn erbyn a 10% heb benderfynu.

Roedd pleidleiswyr hefyd yn erbyn cynnal refferendwm yn 2023 – 52% – gyda 38% o blaid a 9% yn ansicr, ond roedd 51% yn dweud y dylid cynnal pleidlais o fewn y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd yr arbenigwr ar bleidleisio, yr Athro Syr John Curtice, o Brifysgol Ystrad Clud, mai’r pôl piniwn oedd y canlyniad uchaf o blaid annibyniaeth a gofnodwyd gan YouGov, gan ddod yn gyfartal â chanlyniad a welwyd ddiwethaf ym mis Awst 2020.

Dywedodd: “Ar y dystiolaeth hon, nid yw dweud ’na’ i refferendwm arall yn edrych fel strategaeth hirdymor hyfyw ar gyfer cynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r undeb.”

Bydd angen caniatâd San Steffan er mwyn i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth

Daw hyn yn sgil dyfarniad gan y Goruchaf Lys, ac mae Plaid Cymru’n dweud bod y penderfyniad yn “annemocrataidd”

Dylid “parchu” dyfarniad y Goruchaf Lys ar ail refferendwm i’r Alban

Huw Bebb

“Pan gollodd Boris Johnson ddyfarniad yn y Goruchaf Lys, Aelodau’r SNP oedd y cyntaf i ddweud pa mor bwysig yw dilyn dyfarniadau’r llys”