Bydd angen i’r Alban geisio caniatâd San Steffan er mwyn cynnal ail refferendwm annibyniaeth – penderfyniad sydd yn “annemocrataidd”, yn ôl Plaid Cymru, sy’n dweud y dylai fod yn “alwad i ddeffro” i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
Daw hyn yn sgil dyfarniad gan y Goruchaf Lys sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 23).
Dim ond 45% o Albanwyr oedd o blaid annibyniaeth yn y refferendwm cyntaf yn 2014, ond mae’r ffigwr yn nes o lawer at 50% y tro hwn, yn ôl polau piniwn niferus ac roedd Llywodraeth yr Alban yn awyddus i gynnal refferendwm y flwyddyn nesaf, gan fynnu y byddai’n rhaid iddo fod yn gyfreithlon.
Roedd yr achos llys yn ymwneud â throsglwyddo pwerau sydd wedi’u cadw gan San Steffan i Holyrood fel pwerau datganoledig.
Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi bod yn dweud yn ystod y frwydr gyfreithiol y byddai’r SNP yn barod i sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf ar un polisi unigol, sef ennill annibyniaeth, pe baen nhw’n colli’r achos.
Yn ôl Senedd yr Alban, mae mwyafrif clir o aelodau o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth, os nad annibyniaeth ei hun, ac felly mae ganddyn nhw fandad i’w gyflwyno.
Ond yn sgil y dyfarniad, mae’n ymddangos na fyddan nhw’n gallu gweithredu ar y mandad honedig hwnnw am y tro.
‘Galwad i ddeffro’
Wrth ymateb, dywed Plaid Cymru fod y dyfarniad yn dangos “natur sylfaenol annemocrataidd rheolaeth San Steffan”, ac y dylai fod yn “alwad i ddeffro” i’r Prif Weinidog Mark Drakeford.
“Mae’n hen bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig warantu’r hawl i hunanlywodraeth i’r holl wledydd datganoledig,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae’r cyfuniad o Lywodraeth Geidwadol wrth-ddemocrataidd a gwrthblaid Llafur fel ci sy’n nodio’i ben yn golygu na fydd ein lleisiau fyth yn bwysig tra ein bod ni wedi’n clymu i gyfundrefn San Steffan.
“Dylai hyn fod yn alwad i ddeffro i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, sy’n gweld y Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o bedair cenedl sy’n dewis cyfuno sofraniaeth.
“Dydy hynny’n amlwg ddim yn wir o dan y Llywodraeth Geidwadol hon, a fydd hi ddim o dan Lywodraeth Lafur y dyfodol yn San Steffan.
“Mae Plaid Cymru’n annog Llywodraeth Lafur Cymru i amddiffyn yn gadarn yr hawl i hunanlywodraeth heddiw.
“Rhaid i ni gyd sefyll yn unedig yn erbyn San Steffan, sy’n ein hamddifadu ni o ddemocratiaeth.”