Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno bil yn San Steffan a fyddai’n rhoi’r hawl i Gymru greu gwyliau banc eu hunain.

Pe bai’r bil, sy’n cael ei gyflwyno gan lefarydd y blaid dros Gymru, y Farwnes Christine Humphreys, heddiw (Tachwedd 23) yn cael ei basio byddai’n caniatáu i Lywodraeth Cymru benderfynu a ydyn nhw eisiau gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc ai peidio.

Mae gan yr Alban eisoes yr hawl i greu eu gwyliau banc, ac mae Diwrnod Sant Padrig yn ŵyl y banc yng Ngogledd Iwerddon drwy benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dydy’r ddadl dros wneud Mawrth 1 yn ŵyl y banc ddim yn newydd o bell ffordd, a dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gofyn “dro ar ôl tro” am gael y pŵer i ddynodi’r diwrnod yn ŵyl, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais hyd yn hyn.

Fodd bynnag, fe wnaeth sawl cyngor a chorff cyhoeddus yng Nghymru roi diwrnod i ffwrdd o’r gwaith i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

‘Anghyfiawn’

Yn ôl y Farwnes Humphreys, fu’n Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru ac sydd bellach yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae hi’n “andros o anghyfiawn” nad ydy pobol Cymru’n gallu dathlu diwylliant, statws a threftadaeth y wlad fel pobol yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cymryd y cam cyntaf tuag at roi’r pŵer i’r Senedd greu gwyliau banc, rhaid i’r Llywodraeth Geidwadol ganiatáu i’n Bil ni gael ei basio nawr,” meddai.

“Mae pawb yng Nghymru yn haeddu’r cyfle i ddathlu pwy ydym ni a dathlu’r diwylliant unigryw sy’n ein huno.”

‘Dathlu popeth sy’n wych am Gymru’

Ychwanega Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mai Dydd Gŵyl Dewi yw’r diwrnod pan “rydyn ni i gyd yn dod ynghyd i ddathlu’r tapestri anferth o ddiwylliant Cymreig a chofio ein hanes”.

“Dydy hi ond yn iawn, felly, bod Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod cenedlaethol Cymru, yn cael ei wneud yn wyliau cyhoeddus fel Dydd Sant Andreas yn yr Alban a Dydd Sant Padrig yn Iwerddon.

“Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r Bil hwn a rhoi’r pŵer i’r Senedd ddeddfu ar hyn a chydnabod bod Cymru’n genedl falch gyda llawer i’w gynnig, a bod Dydd Gŵyl Dewi yn amser i ddathlu popeth sy’n wych am Gymru, o’n hanes a’n diwylliant cyhoeddus i’n hysbryd entrepreneuraidd.”

Awgrym y gallai Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd drwy gael gwared ar ŵyl banc arall

Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cael pennu eu gwyliau banc eu hunain, Dydd Sant Andreas a Dydd San Padrig