Mae Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi awgrymu y gallai Cymru gael Dydd Gŵyl Dewi i ffwrdd o’r gwaith drwy gael gwared ar ŵyl banc arall.
Mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn pennu eu gwyliau banc eu hunain, Gŵyl Sant Andreas a Dydd San Padrig, yn ogystal â gwyliau’r banc mae Cymru a Lloegr hefyd yn eu cael.
Dim ond wyth o wyliau banc sydd gan Gymru a Lloegr, y nifer lleiaf yn Ewrop, tra bod gan yr Alban naw a Gogledd Iwerddon ddeg, gan fod y ddau yn cael eu dyddiau cenedlaethol eu hunain i ffwrdd.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gofyn “dro ar ôl tro” am gael y pŵer i ddynodi Mawrth 1 yn ŵyl banc, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y cais hyd yn hyn.
Fodd bynnag, mae sawl cyngor a chorff cyhoeddus yng Nghymru wedi rhoi diwrnod i ffwrdd o’r gwaith i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Aberystwyth a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi cytuno i lunio adroddiad ar roi diwrnod o wyliau i staff y Cyngor ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ogystal â lobïo Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ddatganoli’r grym i’r Senedd.
Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi dweud y byddai’n lobïo’r ddwy lywodraeth.
Cafodd y cam ei gefnogi’n wreiddiol gan Gyngor Gwynedd wedi i’r Cynghorydd Dafydd Meurig, dirprwy arweinydd y Cyngor, ddweud ei fod yn credu y gallai Cymru “elwa’n economaidd” pe bai dathliad Gŵyl Dewi yn dod yn eang yn y wlad.
‘Fyny i eraill benderfynu’
“Dw i wastad wedi cydymdeimlo â’r ddadl honno,” meddai Robert Buckland wrth y rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C.
“Ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn dynodi gormodedd o wyliau banc.
“Yn fy marn i, byddai’n gwneud synnwyr cael gwared ar ŵyl y banc mis Mai, a chael Dydd Gŵyl Dewi fel ein gŵyl banc; byddai’n quid pro quo braf.
“Ond mae’n debyg nad fy mhenderfyniad i yw hwn; yn y bôn fe fydd hi fyny i eraill benderfynu.”