Mae Mark Drakeford wedi dweud mai un o’r pethau mae’n ei ddifaru fwyaf o’i gyfnod yn Weinidog Iechyd ydi methu â gwthio bil fêpio drwy’r Senedd.
Roedd y Prif Weinidog presennol yn Weinidog Iechyd rhwng 2013 a 2016.
Eglurodd sut y byddai’r bil wedi rhoi “mwy o reolaeth sylweddol dros ddefnyddio e-sigaréts” o’i gymharu â heddiw.
Fe fethodd y ddeddf â phasio’r drwy siambr y Senedd o un bleidlais yn unig ar ddiwrnod olaf tymor y Senedd honno.
Yn ôl y cynnig, byddai defnyddio e-sigaréts wedi cael ei wahardd mewn mannau cyhoeddus yn yr un modd ag y mae sigaréts tybaco.
“Byddai wedi rhoi rheolaethau tipyn llymach dros allu plant a phobol ifanc i’w defnyddio,” meddai.
“Weithiau, dyna dwi’n ei ddifaru fwyaf tra dwi wedi bod yn gweithio yn y Senedd – mae yna nifer o bethau dwi’n eu difaru – ond fe fyddai hynny’n uchel iawn ar y rhestr.
“Oherwydd roedd gyda ni gyfle yng Nghymru i wneud rhywbeth gwahanol fyddai wedi amddiffyn pobol ifanc rhag y risgiau sy’n dod yn sgil fêpio ac e-sigarets.”
‘Canlyniadau trychinebus’
Daw sylwadau Mark Drakeford wrth i ffigyrau diweddar ddangos bod 4.3m o bobol yn y Deyrnas Unedig bellach yn fêpio.
Er bod e-sigaréts yn aml yn cael eu defnyddio i helpu pobol i symud i ffwrdd o dybaco, mae’r Prif Weinidog yn credu eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn gweithredu fel “porth” i bobol ifanc i fod yn gaeth i nicotin.
“Rydyn ni’n mynd i fynd yn ôl i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei achub o’r hyn a gollon ni, oherwydd mae’r dystiolaeth fod pobol ifanc yn dod yn gaeth i nicotin drwy fêpio yn wirioneddol frawychus,” meddai.
“Ac mae hyd yn oed yn fwy brawychus mewn rhannau eraill o’r byd.
“Yn fy marn i, nid damwain yw hyn.
“Y cwmnïau sy’n hyrwyddo e-sigaréts yw’r cwmnïau sy’n hyrwyddo tybaco yn y lle cyntaf.
“Dw i’n credu bod e-sigarets yn borth sy’n achosi pobol ifanc i ddod yn gaeth i nicotin ac maen nhw’n ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddan nhw’n ysmygu yn y dyfodol ac mae gan hynny ganlyniadau trychinebus.”