Dyma golofn wythnosol ein Gohebydd Seneddol, Huw Bebb…

Digwyddiad digon od oedd cynhadledd y Blaid Geidwadol yr wythnos hon.

Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda cyn i’r ffyddloniaid Torïaidd heidio i Birmingham, gyda’r blaid 33 pwynt y tu ôl i Lafur yn ôl pôl piniwn YouGov. Yn wir, gwelais sawl vox pop lle’r oedd aelodau digalon yn cwyno am y sefyllfa mae’r blaid wedi ffeindio ei hun ynddi o dan arweinyddiaeth Liz Truss. A phwy all eu beio?

Get Britain Moving’ oedd slogan y gynhadledd eleni, dewis diddorol o ystyried bod Prydain yn symud am yn ôl ym mhob maes y galla i feddwl amdano. Ond beth oeddwn i’n ei ddisgwyl mewn difrif? Dyma’r un math o sloganau dibwys y mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn eu gwthio i lawr corn gyddfau pleidleiswyr ers dros ddegawd bellach. ‘Rhyddhau Potensial Prydain’, ‘Twf a Chyfleoedd’, ‘Cryf a Sefydlog’, ‘Ymlaen gyda’n gilydd’ – yr un hen negeseuon, yr un hen Geidwadwyr.

Ond i mi, un slogan fydd yn aros yn y cof yn dilyn y gynhadledd hon, sef ‘Pwy bleidleisiodd am hyn’? Cafodd y slogan ei ddadorchuddio ar faner gan ddwy o aelodau Greenpeace yn ystod araith Liz Truss. Doniol oedd gweld Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar, yn cipio’r faner oddi ar y ddwy ddynes, dim ond iddyn nhw estyn un arall allan o fag.

Cafodd y protestwyr eu hebrwng o’r gynhadledd yn ddiymdroi, gyda’r aelodaeth Geidwadol yn gweiddi a chlapio wrth iddyn nhw gael eu llusgo i ffwrdd. I fod yn deg, mae’n debyg mai dyna oedd y peth mwyaf diddorol yr oedden nhw wedi’i weld drwy gydol yr wythnos!

Fodd bynnag, dw i’n credu bod slogan y ddwy ddynes wedi codi pwynt pwysig am wleidyddiaeth Prydain, er mai yno i brotestio yn benodol yn erbyn polisi ffracio’r Llywodraeth oedden nhw. Pwy wnaeth bleidleisio tros Liz Truss yn Brif Weinidog? Pwy bleidleisiodd am raglen bolisi’r Llywodraeth? 57% o aelodaeth y Blaid Geidwadol, sef 81,326 yn unig o bobol.

Nid rhywbeth newydd yw hyn, wrth gwrs. Wnaeth Gordon Brown, Theresa May na Boris Johnson wynebu etholiad cyffredinol cyn dod yn Brif Weinidogion. Yn yr un modd, fuodd dim rhaid i Mark Drakeford wynebu etholwyr Cymru pan olynodd Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru yn 2018.

Ond ydi hi’n iawn fod carfan mor fechan o’r boblogaeth yn cael penderfynu ar gwrs gwleidyddol y wlad, a hynny’n aml oherwydd bod arweinydd eu plaid wedi gwneud llanast o bethau? Yr ateb syml ydi ’nac ydy’. Mae hi’n system annemocrataidd a hen ffasiwn sydd angen ei diwygio. Ydi hi’n syndod bod pobol yn teimlo wedi’u dadrithio gyda gwleidyddiaeth a hwythau’n cael eu heithrio o’r broses ddemocrataidd mewn ffordd mor ddi-hid?

Mae disgwyl i etholiad cyffredinol gael ei gynnal yn 2024, sy’n teimlo fel amser maith i ffwrdd, felly bydd yn rhaid dal yn dynn a gweld pa argyfyngau, camgymeriadau a sloganau y byddwn yn eu gweld rhwng rŵan a hynny. Er, pwy a ŵyr? Efallai y cawn ni un cyn hynny, efallai y bydd yna arweinydd Ceidwadol arall eto yn arwain y blaid i’r etholiad yn 2024 – erbyn hyn fyddai llawer o ddim byd yn fy synnu!

Arian HS2

Nid yw Cymru yn haeddu ei siâr deg o’r arian mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wario ar system reilffordd gyflym HS2. Dyna farn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland.

Ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C bu’n dadlau nad oedd angen canran deg o’r arian ar Gymru oherwydd bod HS2 yn teithio drwy Crewe, a bod y dref honno “o fewn rhai milltiroedd i ogledd Cymru”. Golyga hynny y bydd y rheilffordd yn “gwasanaethu Cymru’n wych”, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Dadl od ar y naw yw hon o ystyried bod stesion drenau Crew 18.7 milltir i ffwrdd o ffin Cymru!

Ac os nad yw HS2 yn dod i Gymru ei hun, sut yn union y bydd o fantais i’r Cymry? Dw i ddim wedi clywed ateb i’r cwestiwn hwn hyd yma.

Yn y cyfamser, fe fydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn cyllid rheilffyrdd ychwanegol o gronfa HS2. Felly pam ddim Cymru? Mae’r Blaid Lafur ym Mae Caerdydd yn honni bod Cymru’n colli allan ar £4.6bn o gyllid yn sgil adeiladu HS2, tra bod Andrew RT Davies wedi galw am ganran deg o’r arian ar sawl achlysur.

Siawns y dylai ein Hysgrifennydd Gwladol fod yn dadlau ein hachos hefyd?