Mae Robert Buckland yn dweud ei fod yn benderfynol o wella’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad â chylchgrawn Golwg ddechrau’r wythnos, dywedodd ei fod yn bwriadu cyfathrebu’n “glir a chyson” gyda Mark Drakeford yn ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Teg dweud nad oedd perthynas Prif Weinidog Cymru gyda’i ragflaenydd yn y swydd, Simon Hart, yr un orau.

Yn wir, fis diwethaf dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi cyfarfod gyda Robert Buckland yn amlach mewn dau fis nag y gwnaeth gyda Simon Hart dros gyfnod o flwyddyn.

Er hynny, dyw pethau ddim yn fêl i gyd rhwng y ddau.

Defnyddiodd Robert Buckland ei araith yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ddechrau’r wythnos i ymosod ar gytundeb cydweithio Llafur gyda Phlaid Cymru, gan gyhuddo’r ddwy blaid o geisio “rhwygo ein hundeb yn ddarnau”.

“Yn hytrach na chanolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobol, fel cyflawni ffordd liniaru’r M4 y mae busnesau a theuluoedd Cymreig yn crefu amdano, mae’r ddeuawd gamweithredol hon yn benderfynol o greu Senedd fwy, gyda hyd yn oed yn fwy o wleidyddion a mwy o gost i’r pwrs cyhoeddus,” meddai Robert Buckland.

Ar y llaw arall, mae Mark Drakeford wedi mynd mor bell â galw am ddiddymu Swyddfa Cymru yn y gorffennol.

“Perthynas fusnes”

Er gwaethaf eu gwahaniaethau gwleidyddol, mae Robert Buckland yn hyderus y gall Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru gynnal “perthynas fusnes”.

“Dw i’n credu’n gryf mewn cyfathrebu clir a chyson,” meddai Robert Buckland wrth gylchgrawn Golwg.

“Ac fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfnod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fe fydd gennyf berthynas busnes gyda Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n bleidiau gwleidyddol gwahanol, mae gennym ni farn wleidyddol wahanol, ond mae’n rhaid i ni ffocysu ar yr hyn mae pobol Cymru eisiau.

“A dw i’n meddwl bod pobol Cymru yn hollol glir nad ydyn nhw’n poeni pwy sy’n dweud beth a phwy sy’n gwneud beth, maen nhw eisiau canlyniadau.

“Enghraifft dda o hyn yw porthladdoedd rhydd, fe wnaethon ni weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynnig porthladd rhydd yn cael ei wneud yng nghyd-destun Cymru yn unol â’r gyfraith yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi cynhyrchu prosbectws sy’n gwneud hynny a dw i’n meddwl y bydd y canlyniad yn destun i’r cydweithio yna.

“Felly dw i am barhau i ddatblygu perthynas fusnes gyda Llywodraeth Cymru drwy ddull gweithredu parchus.

“Fe fydd yna gyfnodau lle byddai’n beirniadu Llywodraeth Mark Drakeford, ac fe fydd yna gyfnodau lle bydd o’n beirniadu’r Llywodraeth dw i’n rhan ohono, ond ddylai hynny ddim tynnu oddi wrth y ffaith fod y ddau ohonom yn ceisio sicrhau’r canlyniadau gorau i bobol Cymru.

“Dw i’n meddwl bod angen i ddau begwn yr M4 gofio bod gan y ddwy Lywodraeth rôl i’w chwarae yng Nghymru.

“Ac mae yna adegau lle gallai Llywodraeth Cymru fod yn cyfathrebu’n well gyda ni a pharchu’r ffaith fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig rôl fawr iawn chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobol Cymru, ac yn wir ym mywydau pobol Cymru.”

“Gadael y Deyrnas Unedig yn gwneud Cymru’n wannach”

Mae Robert Buckland o’r farn y byddai “gadael y Deyrnas Unedig yn gwneud Cymru’n wannach”.

Daw hyn yn dilyn rali annibyniaeth fawr AUOBCymru a YesCymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn ôl y trefnwyr roedd yna fwy na 10,000 o bobol ymgasglu ar strydoedd y Brifddinas.

Hon oedd y bumed orymdaith dros annibyniaeth i’w chynnal yng Nghymru, a chafodd ei chynnal ar yr un diwrnod â gorymdeithiau Pawb Dan Un Faner (AUOB) dros annibyniaeth yn yr Alban a Chernyw.

Ymhlith y siaradwyr yng Nghaerdydd roedd y gwleidydd Dafydd Wigley, yr actor Julian Lewis Jones, y digrifwr Gwyddelig Tadhg Hickey, y gantores Eadyth, Gwern Evans (Prif Weithredwr newydd YesCymru), Harriet Protheroe-Soltani o Labour4IndyWales ac AUOBCymru, ac Agit Chevis o Gaerdydd.

Roedd yna gryn dipyn o gwyno am Lywodraeth Geidwadol San Steffan i’w glywed yn ystod y rali.

Ydi Robert Buckland yn gofidio bod Liz Truss a’i Llywodraeth yn hybu’r ymgyrch annibyniaeth yma yng Nghymru felly?

“Dw i’n mawr obeithio nad yw hynny yn wir,” meddai.

“Mae gennyf ofn fy mod yn ddigyfaddawd ar yr hyn dw i’n ei ystyried yn wahanu yn hytrach nag annibyniaeth.

“Dw i’n credu y byddai gadael y Deyrnas Unedig yn gwneud Cymru’n wannach, ac yn golygu fod Cymru’n fwy dibynnol ar rannau eraill o’r byd er mwyn goroesi.

“Dw i ddim yn meddwl bod hynny yn fuddiol i bobol Cymru.

“Y realiti yma yn y Deyrnas Unedig yw bod gennym ni gysylltiadau sy’n ein rhwymo ni i rannau gwahanol o’r wlad, dyna’n sicr yw fy mhrofiad bywyd i a’r rhan fwyaf o bobol dw i’n eu hadnabod yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Alli di ddim anwybyddu hynny, maen nhw’n gysylltiadau sydd ddim jyst i wneud â sentiment neu hanes, maen nhw’n gysylltiadau sy’n ein rhwymo at y dyfodol.

“Yr hyn fyddwn i’n ei ofyn i’r sawl sy’n ymgyrchu dros wahanu ydi: ‘Beth ydych chi’n ei feddwl? Annibyniaeth oddi wrth beth?’

“Mae yna ddiffyg rhesymeg yn perthyn i’r bobol sydd o blaid gwahanu, ond sydd hefyd am fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Allwch chi ddim cael y ddau, mae’n rhesymeg ddiffygiol.

“Dw i’n meddwl fod ganddo fwy i wneud â gwleidyddiaeth chwith a dde a dw i’n parchu hynny, mae hynny yn rhan o ddemocratiaeth fywiog.

“Ond dw i’n credu y dylem fod yn ffocysu ar y bobol yn y gymuned waeth lle maen nhw’n dod, i bwy maen nhw’n perthyn na beth yw eu cefndir ac yn sicr dyna wnes i pan roeddwn i’n gynghorydd yng Nghymru.

“Felly dw i’n credu bod yna ddadl gref, ddeallusol a phositif y gallwn ni gyflwyno yn erbyn gwahanu ac yn sicr dyna fydda i’n ei wneud yn y misoedd i ddod.”

“Yr heriau yn fwy nag erioed” – cyfnod cythryblus i’r Ceidwadwyr

Huw Bebb

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cnoi cil ar helyntion y Blaid Geidwadol, ei berthynas gyda Llywodraeth Cymru a’r ymgyrch tros annibyniaeth