Er bod “yr heriau yn fwy nag erioed,” mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod y Ceidwadwyr yn “benderfynol” o gefnogi Liz Truss.

Bu’r ffyddloniaid Torïaidd yn ymgynnull ym Mirmingham ar gyfer cynhadledd flynyddol y blaid ddechrau’r wythnos, gyda chymylau duon uwch ei phen.