Fe gafwyd noson wobrwyo Clwb Criced Morgannwg ddechrau’r wythnos, ac roedd Alun Rhys Chivers yno…

Ac yntau newydd ymddeol o’r byd criced yn 41 oed, cafodd y bowliwr cyflym Michael Hogan ei dderbyn yn chwaraewr rhif 35 i Oriel Enwogion Clwb Criced Morgannwg yn ystod noson wobrwyo’r clwb yng ngwesty’r Towers yn Jersey Marine ar gyrion Abertawe ddechrau’r wythnos. Aeth llu o wobrau ar y noson i Sam Northeast, y batiwr a gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn.