Mae cylchgrawn Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl hon am artist o Geredigion sydd ar fin agor arddangosfa allan yn yr awyr agored, ar lannau’r afon Arth…

“Chi’n gorfod stepo lan pan fo salwch yn dod i’r afon.” Dyna eiriau’r artist Rebecca Wyn Kelly o Aberarth, y pentref bach tlws sydd tua milltir i’r gogledd o Aberaeron, wrth sôn am ei gwaith celf ddiweddaraf.

Fis yma fe fydd hi’n agor ei harddangosfa mewn pabell ar lan afon Arth, sef ei hymateb creadigol i argyfwng amgylcheddol yn nalgylch yr afon. Enw’r project yw 5540 – rhif sy’n dynodi cyfanswm yr oriau y cafodd carthffosiaeth ei ollwng i’r afon Arth yn 2020.

Y babell yn y coed ger afon Arth

Yn artist llawn amser ers 2019, mae hi’n creu’r math o waith sy’n cael ei alw yn ‘Gelf Tir’, yn ymateb yn greadigol drwy wahanol gyfryngau i ddarn o dir penodol, neu hanes y fro dan sylw. Fe fydd hi’n gosod ei ‘cherfluniau’ naturiol mewn llefydd anghysbell, ac mae wedi creu gwaith yn ymateb i’r tir mewn sawl man, o abaty Ystrad Fflur ger Tregaron i lecyn gwledig ar arfordir Denmarc.

“Dw i’n dwlu mynd i lefydd, a fy mhroses gyntaf i yw ffeindio straeon y lle,” meddai’r artist. “Y deunyddiau sy’n dod nesa’, a dw i’n ceisio ffeindio pethau o’r tir, sy’n gallu gyrru syniadau ac ysbrydoliaeth.”

Mae’r babell eisoes yn ei lle yn y coed ar lan yr afon, yn barod at agoriad 5540 dros benwythnos Hydref 21 a 22.

“Rhyw fath o open studio yw e, yn dangos y gwaith a’r hyn dw i wedi bod yn ei ddysgu, ac wedi dod o hyd iddo ar hyd y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Rebecca Wyn Kelly. “Cerfluniau, lluniau, gosodwaith, barddoniaeth, celf, miwsig… popeth dw i wedi bod yn meddwl amdano fe’r flwyddyn ddiwethaf.”

Yn ôl ei gwefan, bydd y project yn trafod sut y gall celf dynnu sylw at y ‘pryderon gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd’ sy’n wynebu cymdeithas wledig fel Aberarth. Mae’r artist yn galw am ‘ymdrech ar y cyd’, ac yn dweud y bydd y cynllun ‘yn uno cymuned sydd ag angerdd i ddiogelu dyfodol eu hafon a’u hymreolaeth’.

“Bydd pobol yn gallu troi lan a rhannu eu straeon nhw o’r afon,” meddai’r artist wrth Golwg, “gwrando ar y goedwig, edrych ar y dŵr, siarad gyda’r dŵr a bydd llawer o bethe i bobol eu gwneud yn ystod yr arddangosfa.”

Un o’r rheiny fydd dosbarth celf i bobol gael creu ‘llyfr consertina’ o ddeunyddiau naturiol. Fe fydd disgwyl i bobol ‘gasglu deunyddiau, straeon gwerin ac offrymau’ ger afon Arth a datblygu eu gwaith wedyn yn y stiwdio.

“Activist o oedran ifanc iawn”

Cafodd Rebecca Wyn Kelly, a fuodd i Ysgol Gyfun Aberaeron, ei magu ar aelwyd greadigol, a’i thad yn paentio tirluniau olew mawr gartref.

“Roedd celf yn fy nheulu i wastad yn bwysig, rhywbeth a oedd yn ocê i’w wneud, a doedd neb yn fy nghwestiynu i amdano,” meddai. “Yna roedd fy athrawon i – Nest Thomas, Linda Thomas a Stuart Gibbs – wedi fy ysbrydoli i drwy’r ysgol, yn llawer o anogaeth i fi barhau.”

A hithau wedi ei magu mewn lle fel Aberarth, rhwng y mynydd a’r môr, mae’r amgylchedd wedi bod yn bwysig iddi.

“Dw i wastad wedi bod ers fy mod i’n blentyn bach yn becso, wastad yn meddwl am yr anifeiliaid, yn rhoi fy arian poced i i Greenpeace.

“Ro’n i’n activist o oedran ifanc iawn. Ro’n i wastad â llawer iawn o empathi, ac wedi teimlo trymder yr effaith yr oedd pawb yn ei gael ar yr amgylchedd.

“Os ydych chi’n byw mor agos ag yr oeddwn i’n byw at y tir a’r môr, mae yn dod yn ffrind i ti, ry’ch chi’n tyfu lan gydag e. Ry’ch chi’n dysgu o’r traethau, yr arfordir, a’r afonydd. Mae’n rhan o’ch DNA chi.

“Felly ry’ch chi’n gorfod stepo lan pan fo salwch yn dod i’r afon, achos ei fod wedi rhoi cymaint i chi. Mae’n gyfrifoldeb allwch chi ddim camu’n ôl ohono, achos eich bod wedi cael cymaint o’r tir o’ch amgylch yn ifanc. Mae e wedi bod yn rhan fawr o fy magwraeth i.”

Mae hi yn rhan o griw ymgyrchu ‘Gofynnwch am yr Arth’, sy’n dod ynghyd i fynnu atebion gan yr awdurdodau ynglŷn â’r broblem o garthion yn yr afon. “Y grŵp yna sy’n gofyn y cwestiynau anodd, gan bobol fel Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y ffermwyr,” meddai.

Dywed bod yr holl bobol yn yr ardal yn bryderus am gyflwr eu hamgylchfyd, “yn dioddef o eco-anxiety”, ac eisiau gwneud rhywbeth am y broblem.

“Dw i’n dala’r canfas, fel petai, iddyn nhw gael dod gyda fi ar y siwrne,” meddai. “Maen nhw i gyd eisie cysylltu gyda natur, ac eisiau gwneud rhywbeth am y sefyllfa, ond weithiau pan rydych chi adre ar ben eich hun, dydi ailgylchu ddim yn ddigon.”

Dilyn y llwybr o Aberarth i Ystrad Fflur

Mae gwaith arall gan Rebecca Wyn Kelly i’w weld yn yr arddangosfa grŵp newydd Gaia 2022 yn Gallery Gwyn yn Aberaeron, gydag artistiaid eraill sy’n ymdrin mewn rhyw ffordd â newid hinsawdd yn eu gwaith.

Fe fydd hi’n arddangos ei phrint ‘Genius Loci’ yno, gwaith a greodd i gyd-fynd â’r cywaith a wnaeth ar dir Abaty Ystrad Fflur yn 2021. Yn ystod ei phreswylfa yno bu’n edrych ar hanes y mynachod Sistersaidd a fyddai yn arfer

Y print ‘Genius Loci’ yn Aberarth, lle byddai mynachod Ystrad Fflur yn pysgota

pysgota yn y goredi lawr yn Aberarth, tua 20 milltir i ffwrdd, a hynny 800 mlynedd yn ôl. Bu hefyd yn trafod yr hen lwybr pererindod o’r enw’r Lôn Lacs y byddai’r mynachod yn ei gerdded i gludo cerrig mawr o borthladd y pentref.

Gosododd Rebecca Wyn Kelly waith a cherfluniau ar dir yr abaty, gyda’r bwriad o annog ymwelwyr i ddeall y safle a’i hanes yn well, a hel meddyliau am yr oesoedd a fu a’r bobol a adeiladodd yr abaty.

Mae celf yn ffordd dda o fynegi neges – boed am hanes neu faterion cyfoes – heb i bobol gael eu llethu â ffeithiau, yn ôl Rebecca Wyn Kelly.

“Dw i wastad yn gweithio ar newid yn yr hinsawdd, a wastad yn gweithio ar natur a’r tir, yn ceisio cael pobol i weld beth sy’n digwydd ar y blaned. Ry’ch chi’n eu denu nhw i mewn gyda’r celf ac wedyn yn cyfleu’r neges, sydd weithiau yn gallu bod yn eitha’ anodd i bobol ei gymryd, am yr hyn sy’n digwydd i’n tir ni.

“Os ydych chi’n meddwl am Ystrad Fflur, ac yn edrych draw ar Fynyddoedd y Cambria, a meddwl eu bod nhw’n brydferth ac yn hyfryd… y ffaith yw ei fod yn un o’r llefydd mwya’ tlawd o ran ecosystemau yng Nghymru i gyd. Mae wastad tensiwn rhwng y gwaith a’r tir.

“Dw i’n ceisio rhoi negeseuon mas sy’n bwysig iawn. Mae celf yn ffordd i chi gael negeseuon sydd heb ddata; rydyn ni’n cael llwyth o wybodaeth ar y newyddion… Weithiau dy’ch chi’n ffaelu gwneud dim byd. Gyda chelf, mae’n ffordd arall i wneud i bobol feddwl yn wahanol am beth sy’n digwydd.”

Y Milgi moesol

Mae Rebecca Wyn Kelly yn llysieuwr ers blynyddoedd mawr, a bu’n rhedeg bwyty llysieuol ar City Road yng

‘Camau’ – darn comisiwn sydd i’w weld ym mhentref bach Unnerud yn Nenmarc

Nghaerdydd am 13 mlynedd. Roedd y bwyty, Milgi, yn rhoi pwyslais ar ddefnyddio cynhwysion lleol, mewn ryseitiau sy’n adlewyrchu dylanwadau byd eang, ac roedd celf a cherddoriaeth hefyd yn rhan o’r arlwy.

Ar ôl bod i goleg celf yn Llundain, aeth hi draw i Efrog Newydd gyda’i chwaer i weithio ar eu gwaith celf. Yn y ddinas fawr honno ddaeth y syniad i sefydlu Milgi.

“Fe gawson ni ein hysbrydoli gan yr holl lefydd yma a oedd fel marchnad vintage by day, a bar by night,” meddai. “Wnes i feddwl bod angen cael rhywbeth fel yna yng Nghaerdydd – a chreu cymuned a hwb artistig yng Nghaerdydd, a rhoi cyfleoedd i bobol rannu eu creadigrwydd.”

Mae hi’n gweithio ar ei chelf yn llawn amser ers rhoi’r gorau i Milgi yn 2019. Mae wedi cael comisiynau i greu gwaith darw yn Nenmarc a’r Ffindir. Mae ei gwaith ‘Camau’, a gafodd ei gomisiynu gan Kunstcollectivet 8B a’i gefnogaeth gan gynllun Parc Eco UNESCO, i’w weld yn barhaol mewn llecyn gwledig ger pentre’ bach Unnerud ar arfordir Zealand yn Nenmarc.

 

  • Bydd agoriad arddangosfa Rebecca Wyn Kelly, 5540, ar lan afon Arth ar Hydref 20. Bydd ei gwaith yn Gallery Gwyn, Aberaeron tan ddiwedd Tachwedd.