Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen iâ? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nôl i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr awdur Manon Steffan Ros, sy’n byw yn Nhywyn yng Ngwynedd, sydd Ar Blât yr wythnos hon.

Riwbob ffres o’r ardd ydy un o fy atgofion cynta’. Roedd Mam yn arfer eu torri nhw’n ffyn ac yn plicio’r tu allan, ac roedden ni’n cael eu trochi nhw mewn siwgr fel dip a’u bwyta nhw’n amrwd. Mae’r atgof yna’n eglur iawn, ac yn hyfryd iawn, a tydw i heb fwyta riwbob fel ’na ers o’n i’n fach. Mae’r bwyd oedd yn tyfu o’n cwmpas ni yn hawlio lle arbennig yn fy nghalon- y riwbob, afalau a gwsberis o’r ardd, a’r llus roedden ni’n pigo ar y mynydd. Does ’na ddim blas gystal â llus Moelyci.

Roedden ni’n bwyta’n iach iawn iawn yn tŷ ni (heblaw am y siwgr ar y riwbob!) ac er ’mod i bellach wedi mynd yn ôl i’r arfer o fwynhau bwyd iach eto, fe es i braidd yn wyllt efo’r rhyddid o gael prynu jync pan o’n i yn fy arddegau ac yn fy ugeiniau!

Mae’r weithred o goginio yn wirioneddol therapiwtig i mi, yn enwedig os dwi’n pobi. Mae ’na gacen sinsir dw i’n ei wneud weithiau – dim yn aml o gwbl – ond dw i wrth fy modd efo’r broses o bobi honna.

Fy mhryd delfrydol ydy cinio ’Dolig llysieuol, a phwdin ’Dolig hefyd. Dw i’n edrych ymlaen ers tua mis Mai! Adre liciwn i fod (ond efo estyniad i’r gegin, plîs, fel bod llawer o bobol yn gallu ffitio rownd bwrdd mawr…) Hefyd, ar ôl hoe fach, mi liciwn i gael paned a Tywyn Bun o fecws Oliver’s yn Nhywyn. Nefoedd llwyr.

Dw i wrth fy modd efo’r tymor madarch, ac mae gen i atgofion annwyl iawn o’r madarch oedd yn tyfu yng nghaeau ble bu Taid Bont yn ffermio ym Mryncrug. Dw i’n licio madarch mewn garlleg ar dost (er, mae brechdan madarch amrwd hefyd yn fendigedig!) Ac, wrth gwrs, y bwyd sy’n fy atgoffa fwya’ o’r Hydref ydy’r anhrefn melys afiach, hyfryd sydd i’w gael i ddwyn o fagiau trick or treat fy mhlant…

Mae fish pie yn reit boblogaidd ac yn hawdd i’w wneud, felly dw i’n ei wneud o’n reit aml! Hefyd, pizzas cartref efo digon o salad. Ond i fod yn onest, ’da ni’n cael ambell noson bîns ar dost neu Super Noodles. Cydbwysedd!

Dw i wrth fy modd efo llyfrau coginio, ond dw i’n eu darllen nhw fel nofelau yn hytrach na chael ryseitiau allan ohonyn nhw. Dw i’n teimlo bod y mwyafrif yn ffyslyd a’r cynhwysion yn costio ffortiwn. Ond dw i’n hoff iawn o un ddois o hyd iddo mewn siop elusen. Ei enw ydi A Book of Useful Recipes, ac mae’n hen gasgliad o ryseitiau gan drigolion Tywyn o oddeutu’r 40au. Mae ’na hoel defnydd (a hoel bysedd!) ar y llyfryn. Dw i wrth fy modd efo fo!

Llyfr A Book of Useful Recipes
Ryseitiau o’r llyfr A Book of Useful Recipes