Mae enillwyr 31ain Gwobrau BAFTA Cymru wedi cael eu cyhoeddi heno (nos Sul, Hydref 9) mewn seremoni arbennig yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, wedi’u llywyddu gan y cyflwynydd teledu, Alex Jones.

Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu doniau ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Enillodd In My Skin y wobr ar gyfer Drama Teledu, enillodd Kayleigh Llewellyn y categori Awdur ac enillodd Molly Manners y wobr ar gyfer Cyfarwyddwr Ffuglen.

Enillodd Owen Teale y wobr Actor ar gyfer Dream Horse. Enillodd Dream Horse yn y categori Sain.

Owen Teale, Actor Gorau BAFTA Cymru 2022

Yn dilyn ei henwebiad yng Ngwobrau Ffilm BAFTA EE 2022, enillodd Emilia Jones y wobr Actores am ei pherfformiad yn CODA.

Enillodd Grav y wobr Ffilm Nodwedd/Deledu.

Enillydd y wobr Torri Trwodd oedd Chloe Fairweather ar gyfer Dying to Divorce.

Enillodd yr enwebeion cynnig cyntaf Will Baldy y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen ar gyfer The Pact; enillodd Dylan Williams y wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol ar gyfer Men Who Sing a chasglodd Chris Roberts y wobr Cyflwynydd ar gyfer Bwyd Byd Epic Chris.

Enillodd Bwyd Byd Epic Chris y wobr Rhaglen Adloniant hefyd.

Chris Roberts
Chris Roberts, enillydd y wobr Cyflwynydd Gorau ar gyfer ‘Bwyd Byd Epic Chris’ BAFTA Cymru 2022

Enillodd Hei Hanes! yn y categori Rhaglen Blant. Enillydd y wobr Ffilm Fer oedd Affairs of the Art.

Cafodd y wobr ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol ei chyflwyno i Y Parchedig Emyr Ddrwg; y wobr Cyfres Ffeithiol i Ysgol Ni: Y Moelwyn; a’r wobr Newyddion, Materion Cyfoes i Coronavirus: A Care Home’s Story.

Enillodd Tim Davies y wobr Ffotograffiaeth Ffeithiol ar gyfer The Long Walk Home.

Enillodd Dan Young yn y categori Golygu Ffeithiol ar gyfer Slammed.

Cafodd y wobr Golygu Ffuglen ei chyflwyno i Elen Pierce Lewis ar gyfer Landscapers, a’r wobr Colur a Gwallt i Claire Williams ar gyfer Pursuit of Love.

Enillydd Gwobr Siân Phillips oedd Annabel Jones.

Fel un o anrhydeddau mwyaf BAFTA, mae’r wobr fawreddog hon yn cael ei chyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol naill ai i ffilmiau nodwedd mawr neu raglenni teledu’r rhwydwaith.


Rhestr lawn o Enillwyr ac Enwebeion Gwobrau BAFTA Cymru 2022

ACTOR

ANEURIN BARNARD Time – BBC Studios / BBC One

EDDIE MARSAN The Pact – Little Door Productions / BBC One

  • *OWEN TEALE Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

SIÔN DANIEL YOUNG Deceit – Story Films / Channel 4

 

ACTORES

AIMEE LOU WOOD Mincemeat (On the Edge) – BlackLight Television / Channel 4

  • *EMILIA JONES CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films

GABRIELLE CREEVY In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

JOANNA SCANLAN After Love – The Bureau / BFI

 

CYMRU TORRI DRWODD

BEN REED for Portrait of Kaye – Plainsong / Agile Films

  • *CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

LEMARL FRECKLETON Curadur – Orchard / S4C

SAMANTHA O’ROURKE Mincemeat (On the Edge) – BlackLight Television / Channel 4

 

RHAGLEN BLANT

BEX – Ceidiog / S4C

DEIAN A LOLI – Cwmni Da / S4C

EFACIWIS – Wildflame Productions / S4C

  • *HEI HANES! – Cwmni Da / S4C

 

 

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce – Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

  • *DYLAN WILLIAMS Y Côr / Men Who Sing – Men Who Sing Ltd / Backflip Media / Cwmni Da / Dartmouth Films

ERIC HAYNES A Killing In Tiger Bay – BBC Wales / BBC Two

TOM BARROW Murder in the Valleys – Five Mile Films / Sky Crime

 

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

GARETH BRYN Line of Duty – World Productions / BBC One

MARC EVANS Manhunt The Night Stalker – Buffalo Pictures / ITV

  • *MOLLY MANNERS In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

SIÂN HEDER CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films

 

GOLYGU: FFEITHIOL

ALUN EDWARDS John Owen: Cadw Cyfrinach – Wildflame Productions / S4C

  • *DAN YOUNG Slammed – BBC Wales / BBC One Wales

IAN DURHAM Snowdonia: A Year on the Farm – Frank Films / BBC One Wales

JOHN GILLANDERS Huw Edwards yn 60 – Rondo Media / S4C

 

GOLYGU: FFUGLEN

  • *ELEN PIERCE LEWIS Landscapers – SISTER in association with South of the River Pictures / Sky Atlantic

TIM HODGES Life and Death in the Warehouse – BBC Studios / BBC Three

URIEN DEINIOL Enid a Lucy – Boom Cymru / S4C

 

RHAGLEN ADLONIANT

6 GWLAD SHANE AC IEUAN – Orchard / S4C

AM DRO! – Cardiff Productions / S4C

  • *BWYD BYD EPIC CHRIS – Cwmni Da / S4C

IAITH AR DAITH – Boom Cymru / S4C

 

CYFRES FFEITHIOL

GWESTY ADUNIAD – Darlun / S4C

THE GREAT BIG TINY DESIGN CHALLENGE – Yeti Television / More4

MURDER IN THE VALLEYS – Five Mile Films / Sky Crime

  • *YSGOL NI: Y MOELWYN – Darlun / S4C

 

 

FFILM NODWEDD/DELEDU

DREAM HORSE – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

  • *GRAV – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

THE TRICK – Vox Pictures / BBC / BBC One

 

COLUR A GWALLT

  • *CLAIRE WILLIAMS The Pursuit of Love – Open Book Productions / Moonage Pictures / BBC One

JACQUETTA LEVON – Save The Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

ROSEANN SAMUEL Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

 

NEWYDDION A MATERION CYFOES

A KILLING IN TIGER BAY – BBC Wales / BBC Two

  • *CORONAVIRUS: A CARE HOME’S STORY – ITV Cymru Wales

COVID, Y JAB A NI – Cloud Break Pictures / S4C

NO BODY RECOVERED – ITV Cymru Wales / ITV

 

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

MEI WILLIAMS Peter Moore: Dyn Mewn Du – Kailash Films / S4C

  • *TIM DAVIES The Long Walk Home – Rediscover Media / Telesgop / BBC One

TUDOR EVANS Dark Land – The Hunt for Wales’ Worst Serial Killer – Monster Films / BBC One Wales

 

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

CHAS BAIN A Discovery of Witches – Bad Wolf / Sky

ERIK ALEXANDER WILSON Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

RYAN EDDLESTON Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

  • *WILL BALDY The Pact – Little Door Productions / BBC One

 

CYFLWYNYDD

  • *CHRIS ROBERTS yn Bwyd Byd Epic Chris – Cwmni Da / S4C

ELIN FFLUR yn Sgwrs Dan y Lloer – Tinopolis / S4C

JASON MOHAMMAD yn DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad – Hall of Mirrors / S4C

SEAN FLETCHER yn Wonders of the Border – ITV Cymru Wales

 

FFILM FER

  • *AFFAIRS OF THE ART – Beryl Productions International / National Film Board of Canada / BBC Two Wales

FACE DOWN IN THE BACK OF A CAR – Scymru

JACKDAW – Broadside Films

LOUDER IS NOT ALWAYS CLEARER – On Par Productions

 

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

JOHN OWEN: CADW CYFRINACH – Wildflame Productions / S4C

MOTHERS, MISSILES AND THE AMERICAN PRESIDENT – ie ie Productions / BB One Wales

MYLEENE KLASS: MISCARRIAGE & ME – Hall of Mirrors / W

  • *Y PARCHEDIG EMYR DDRWG – Docshed / S4C

 

SAIN

JOHN MARKHAM Cyngerdd Tangnefedd Llangollen – Rondo Media / S4C

  • *Y TÎM SAIN Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Y TÎM SAIN Wonders of the Celtic Deep – One Tribe TV / BBC One Wales

 

DRAMA DELEDU

  • *IN MY SKIN – Expectation Entertainment / BBC One Wales

LIFE AND DEATH IN THE WAREHOUSE – BBC Studios / BBC Three

MINCEMEAT (ON THE EDGE) – BlackLight Television / Channel 4

YR AMGUEDDFA – Boom Cymru / Tarian Cyf / S4C

 

AWDUR

 

  • *KAYLEIGH LLEWELLYN In My Skin – Expectation Entertainment / BBC One Wales

 

OWEN THOMAS Grav – Regan Development / Tarian Cyf / S4C

PETE MCTIGHE The Pact – Little Door Productions / BBC One

SIÂN HEDER CODA – Apple TV+ / Vendôme Pictures / Pathé Films