Mae Robat Idris, cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, yn dweud nad yw’r Gymraeg yn rywbeth i’w hystyried ar wahân, a bod angen cydweithio ag eraill sy’n weithgar mewn pob marth o feysydd.

Daw ei sylwadau wrth iddo annerch y Cyfarfod Cyffredinol dros y penwythnos.

Wrth gyfeirio at y maniffesto a gafodd ei gyhoeddi gan Gymdeithas yr Iaith yn gynharach eleni – Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg – sy’n gosod brwydr y Gymraeg a’n cymunedau yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a’r ymgyrch dros annibyniaeth, ei fod yn “cynnig gweledigaeth y gallwn ni i gyd weithio i’w gwireddu er mwyn creu gwell Cymru i’n pobol, a gwell dyfodol i’n plant”.

“Afraid dweud fod y weledigaeth hon yn hollol groes i fyd olwg dystopaidd Llywodraeth San Steffan – rhaid i’r Gymdeithas weithredu yn eofn yn wyneb eu gelyniaeth i amgylchedd, i gymunedau, ac i Gymru,” meddai.

“Rhaid galw Llywodraeth Cymru i gyfri pan fydd angen hefyd – rhaid i’w geiriau droi yn sylwedd fel bod yna lwyfan i’r iaith ffynnu – a mae hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i bolisi penodol ar yr iaith – mae’n cynnwys popeth.

“Polisïau ar dir a ffermio, polisi diwydiannol, polisi ynni polisïau ar dai, polisi ar dwristiaeth – mae’ rhestr yn hirfaith!”

‘Rheidrwydd i ymgyrchu’

Mae Robat Idris wedi bod ac yn parhau yn weithgar gyda nifer o fudiadau ac ymgyrchoedd cymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys Pobl Atal Wylfa B, Cymdeithas y Cymod, Undod a SAIL.

“Mae cymaint o broblemau cyfoes yng Nghymru a thu hwnt rwy’n teimlo rheidrwydd i ymgyrchu,” meddai.

“Ond fel ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, dydy’r mudiadau na’r ymgyrchoedd i fi fod yn rhan ohonyn nhw ddim yn sefyll ar wahân.

“Mae pob un, fel yr ymgyrch dros degwch i’r iaith, yn rhan o’r ymdrech barhaus fyd-eang dros degwch cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol.

“Mae hynny’n gofyn am ac yn gyfle i gydweithio efo eraill sy’n weithgar mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd, amgylchedd ac yn y blaen.”