Mae elusen cymorth ac ap ffitrwydd arloesol yng Nghymru wedi dod ynghyd er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Mae Fitap yn rhoi llwyfan i gymunedau Cymru i’w cael yn symud.

Mae rhan fawr o gefnogi pobol yn eu taith iechyd a lles yn cynnwys cefnogaeth i’w hiechyd meddwl, a chyfeirio gwasanaethau yn eu hardal ddaearyddol iddyn nhw, yn ogystal ag annog pobol i ymarfer corff, bwyta’n iach a chadw’n heini ar gyfer eu holl les meddyliol a chorfforol.

Ochr yn ochr â CALL, sef Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru – ac i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw (dydd Llun, Hydref 10) – maen nhw wedi uno i amlygu mater sy’n fwy cyffredin nag erioed o ystyried yr hinsawdd economaidd a chymdeithasol ôl-bandemig.

Mae Alex Cuthbert, sylfaenydd Fitap gyda’i gyd-chwaraewr rygbi Gareth Anscombe, a Dean Jones, Prif Swyddog Gweithredol ac entrepreneur o Gymru, yn falch o fod mewn cydweithrediad â CALL.

“O safbwynt chwaraeon, o ystyried gofynion y gêm a’r cam-drin a’r negyddiaeth y gallwch chi ei brofi ar gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, mae mor bwysig gofalu am eich iechyd meddwl,” meddai Alex Cuthbert.

“Ar ôl profi hynny fy hun a gweld ffrindiau a chwaraewyr eraill yn cael eu heffeithio, roedd yn rhan fawr o’r rheswm ein bod eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi CALL a hyrwyddo gwerth ymarfer corff, rhyngweithio cymdeithasol, a maeth, yn enwedig o ystyried faint o amser roedd pobol yn ei dreulio dan amodau hunanynysu a’r cyfnod clo.

“Mae gwybod bod rhywun yno i chi’n bwysig, ac i’r rhai sydd heb ffrindiau neu deulu i siarad â nhw, mae gallu codi’r ffôn, a siarad â’r tîm anhygoel yn CALL, wir yn achubiaeth.”

“Rydym yn falch iawn o fod mewn partneriaeth â CALL a thrwy Fitap gallwn helpu i arddangos yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, boed yn grŵp cymorth, rhif ffôn neu wefan, mae yna bobol a all eich helpu drwy ond i chi wasgu botwm,” meddai Dean Jones.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cael pobl i siarad ac yn cael gwared ar unrhyw stigma ynglŷn ag iechyd meddwl, achos mae’n effeithio ar gymaint o bobol, yn enwedig ar hyn o bryd.

“Trwy roi’r holl wybodaeth hon mewn un lle canolog, hygyrch gall Fitap helpu pobol gyda hynny.”

Manteision gweithgarwch corfforol

Datgelodd ystadegau o wefan MentalHealth-UK.org fod gan bobol sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd hyd at 30% yn llai o risg o iselder, felly mae paru’r ap a’r elusen yn beth perffaith i’w wneud.

Fe wnaeth Luke Ogden, Rheolwr CALL, ategu geiriau Dean a diolchodd i Fitap – a gyflwynodd enillydd medal aur Olympaidd dwbl Jade Jones fel llysgennad brand yn ystod yr wythnosau diwethaf – am wneud gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Fitap i hyrwyddo iechyd meddwl a chorfforol da i bobl Cymru,” meddai.

“Mae lles meddyliol a chorfforol yn perthyn yn agos i’w gilydd ac fe all gael effaith ar ei gilydd, ac rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol fod gan bawb yr offer i ddysgu sut y gallant edrych ar ôl eu hunain.

“Llinell gymorth iechyd meddwl Cymru gyfan yw Llinell Gymorth CALL, a hynny am ddim i’w defnyddio ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.

“Rydym yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac yn darparu clust i wrando ar gyfer unrhyw un sydd eisiau trafod eu pryderon iechyd meddwl a gallwn hefyd gyfeirio defnyddwyr at wasanaethau ledled y wlad.

“Yn union fel Fitap, rydym bob amser ar gael ac yn gallu cefnogi pobl Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg – 24/7.”

Am ragor o wybodaeth am Fitap, ewch i www.fitap.co.uk a dilynwch @fitapofficial ar y cyfryngau cymdeithasol.

Anfonwch neges destun at 81066 neu ffoniwch 0800 132 737 i gael mwy o wybodaeth am CALL, Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru. Fel arall, ewch i www.callhelpline.org.uk.

Ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd am newyddion a gwybodaeth am Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd: www.who.int/campaigns/world-mental-health-day