Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn yn dweud bod dydd Sadwrn, Hydref 8 yn “garreg filltir i gig oen Sir Drefaldwyn”.
Daw ei sylwadau ar ôl i gig oen allu cael ei allforio o wledydd Prydain i’r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers 2000, yn dilyn codi gwaharddiad.
Cafodd yr allforion cyntaf ers 22 o flynyddoedd eu hanfon o Gymru i’r Unol Daleithiau, ddwy flynedd ar ôl codi gwaharddiad tebyg ar gig eidion o wledydd Prydain.
“Mae dydd Sadwrn, Hydref 8, 2022 yn wir yn ddiwrnod o garreg filltir i’n sector defaid,” meddai Craig Williams.
“Gyda Sir Drefaldwyn yn meddu ar farchnad cig oen fwyaf Ewrop o safon uchel yn y Trallwng, yn ogystal ag un o’r lladd-dai prosesu cig oen gyda Randall Parker Foods yn Llanidloes, mae codi’r gwaharddiad yn yr Unol Daleithiau ar fewnforion cig oen yn newyddion gwych i’n marchnad a’n heconomi allforio leol.
“Mae’r Unol Daleithiau’n un o’r mewnforwyr cig oen a chig dafad mwyaf yn y byd – yn ail i Tsieina yn unig, ac felly bydd ailgyflwyno’r farchnad hon yn darparu hwb gwerth sawl miliwn o bunnoedd i ffermwyr defaid ledled y Deyrnas Unedig a Sir Drefaldwyn.
“Mae’r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu cig oen o safon fyd-eang erioed yn ôl y safonau lles anifeiliaid uchaf un, a does gen i ddim amheuaeth y bydd cig oen Cymru’n boblogaidd dros ben o fewn bwytai a marchnadoedd ledled yr Unol Daleithiau.
“Dw i hefyd wedi ysgrifennu at Lysgennad yr Unol Daleithiau ar gyfer y Deyrnas Unedig, yn ei gwahodd hi i ymweld â marchnad da byw’r Trallwng i gyfarfod â chynhyrchwyr y cig oen gorau yn y byd, ac i drafod y cyfle enfawr hwn i’r ddwy genedl wrth dyfu ein cysylltiadau amaethyddol a masnachol.”
‘Newyddion gwych i gynhyrchwyr cig oen ledled Prydain’
Yn ôl Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion gwych i gynhyrchwyr cig oen ledled Prydain”.
“Ac mae’r Unol Daleithiau am gael gwledd go iawn wrth i’r cig oen cyntaf i lanio yno ddod o Gymru, o broseswyr Dunbia yn Sir Gaerfyrddin,” meddai.
“Yn werth oddeutu £37m yn ystod pum mlynedd gyntaf masnachu, mae hyn yn hwb sylweddol i’n marchnad allforio cig eidion, gan ddangos mai dim ond y Ceidwadwyr sy’n ffrind i’n sector amaeth gwych.
“Gydag allforio cig oen o Gymru, ynghyd â’r gydnabyddiaeth gynyddol i’r brand Cymreig cryf, gallai’r cytundeb hwn fod yn ddechrau ar hyd yn oed yn fwy o allforion, megis cig eidion, llawenydd a llawer mwy.”