Aelodau o blaid Esquerra Republicana yw holl aelodau Cabinet newydd Llywodraeth Catalwnia, ond mae Junts per Catalunya, y blaid oedd yn arfer bod yn un o bartneriaid yr hen lywodraeth glymblaid, yn cwestiynu dilysrwydd y Cabinet hwnnw.

Mae Laura Borràs, llywydd Junts per Catalunya, yn dweud bod y Cabinet yn “wleidyddol a democrataidd annilys” ac mae hi’n galw am gysondeb fel “prif nodwedd gwleidyddol y rhai sy’n arwain”.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Arlywydd Pere Aragonès ddweud y bydd y Cabinet newydd yn “cynrychioli consensws 80% o drigolion”, wrth i arolygon nodi bod pedwar ym mhob pump o drigolion o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth.

Dywed y byddai’r pwyllgor gwaith newydd yn un fydd “bob amser yn gweithio i wasanaethu’r bobol ac yn ymroi’n llwyr”.

Ond mae Laura Borràs yn dweud bod yr arlywydd “wedi colli ei holl gefnogaeth seneddol” ar ôl iddo benderfynu parhau yn ei swydd er mai 52% yn unig o drigolion Catalwnia sy’n ei gefnogi, a hithau’n awgrymu mai “dim ond 21% ohonyn nhw” mae e bellach yn eu cynrychioli.

Yn ôl Jordi Turull, ysgrifennydd cyffredinol Junts per Catalunya, y Senedd “yw’r lle i wirio a yw’r llywodraeth yn cynrychioli consensws yr 80%”.

Y Cabinet

Mae’r Cabinet newydd yn gyfuniad o weinidogion sydd o blaid cynnal refferendwm annibyniaeth, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd o blaid annibyniaeth.

Mae pump o’r saith gweinidog newydd o blaid annibyniaeth, ond dydy dau ohonyn nhw ddim, sef Gemma Ubasart, y gweinidog cyfiawnder a hawliau o blaid Podemos, a Quim Nadal, y gweinidog prifysgolion ac ymchwil o’r Blaid Sosialaidd.

Mae Salvador Illa, arweinydd y Blaid Sosialaidd, yn un o wrthwynebwyr mwyaf annibyniaeth.

Mae’n dweud na fydd ei blaid byth yn fodlon llywodraethu â phlaid Esquerra.

Yn ôl Oriol Junqueras, llywydd Esquerra, mae’r cytundeb llywodraethu rhyngddyn nhw a Junts yn weithredol o hyd.