Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r ffaith fod aelodau Llafur Cymru wedi cefnogi cynlluniau i ddiwygio’r Senedd.
Mae gan Mark Drakeford gefnogaeth sylweddol gan ddwy undeb fwyaf Cymru, Uno’r Undeb ac Unsain, ond roedd tair undeb arall, yn ogystal â rhai o ganghennau lleol y blaid, yn gwrthwynebu.
Fe wnaeth tri chwarter yr aelodau gefnogi’r cynigion i ehangu’r Senedd o’r 60 aelod presennol i 96, a chyflwyno cwotâu rhyw er mwyn sicrhau bod yr un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.
‘Addas ar gyfer Cymru fodern’
Wedi’r bleidlais, dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru, eu bod nhw’n croesawu’r gefnogaeth tuag at y pecyn “pwysig” hwn i ddiwygio’r Senedd.
“Bydd y diwygiadau hyn yn cyflwyno Senedd fwy, fwy cynrychiadol gyda chydraddoldeb rhyw wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru ac yn sicrhau bod y Senedd yn addas ar gyfer Cymru fodern,” meddai.
“Mae’n bwysig bod y blaid yn mynd ati i gyflwyno’r diwygiadau hyn nawr er mwyn rhoi digon o gynrychiolwyr yn y Senedd i allu ymdopi â’r llwyth gwaith cynyddol, creu system bleidleisio fwy cyfrannol a chynrychiolaidd, a sicrhau bod menywod wastad yn cael eu cynrychioli’n gyfartal yn ein gwleidyddiaeth genedlaethol.”
Dywedodd Mark Drakeford ei fod e wrth ei fodd fod aelodau Llafur Cymru wedi cefnogi’r diwygiadau.
“Bydd y bleidlais yn cryfhau democratiaeth Cymru, yn sicrhau dyfodol ein Senedd ac yn sicrhau bod pobol dros Gymru’n cael eu cynrychioli’n well gan adlewyrchu’r Gymru rydyn ni’n byw ynddi,” meddai.
Galw am refferendwm
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r diwygiadau, ac maen nhw eisiau i’r cyhoedd gael pleidleisio ar y newidiadau mewn refferendwm.
“Mae’n amlwg fod gan ran sylweddol o’r mudiad Llafur bryderon difrifol am y cynlluniau hyn a chwalu’r cysylltiad lleol rhwng pleidleiswyr a’u cynrychiolwyr etholedig,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.
“Os yw’r sefydliad Llafur wir yn meddwl y bydd hyn yn dda i Gymru, fe ddylen nhw roi cyfle i’r cyhoedd ddweud eu dweud.”
Y cynllun
Y bwriad yw i etholaethau Cymru ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 fod yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig erbyn hynny.
Yna, byddai’r etholaethau hynny’n cael eu cyplysu er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.
Ac yn ôl y cynllun, fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig – sy’n symud tuag at system gyfrannol o’i chymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael ei mabwysiadu.
Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caëedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio am bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.
Ar hyn o bryd, caiff 20 o Aelodau’r Senedd eu hethol drwy system restr gan ddefnyddio dull D’Hondt, ond o dan y cynlluniau hyn byddai’r 96 yn cael eu hethol drwy ddefnyddio’r drefn honno.