Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r pecyn o fesurau sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw (Gorffennaf 4) i fynd i’r afael ag ail gartrefi.
Yn ôl Rhys Tudur, sy’n gyfreithiwr ac yn ymgyrchydd gyda grŵp Hawl i Fyw Adra, dyma’r “peth mwyaf arloesol mae unrhyw lywodraeth wedi’i wneud yn y maes yma efo ail dai ers degawdau”.
Mae’r pecyn o fesurau yn cynnwys y canlynol:
- Bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu, lle mae ganddyn nhw dystiolaeth, gwneud newidiadau i’r system gynllunio a fydd yn gorfodi cael caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i’r llall. Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi awdurdodau lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned
- Cynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, gan ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded i weithredu llety gwyliau tymor byr.
- Yn dilyn ymgynghoriad ynghylch amrywio’r dreth trafodiadau tir yn lleol mewn ardaloedd â niferoedd mawr o ail gartrefi, bydd gwaith yn dechrau heddiw gydag awdurdodau lleol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol fel eu bod yn gallu gofyn am gyfraddau treth trafodiadau tir uwch ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau i’w rhoi ar waith yn eu hardal leol.
‘Anhygoel’
Mae’r pecyn yn ateb holl alwadau grŵp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra, fwy neu lai, meddai Rhys Tudur.
“Dw i’n meddwl bod o’n anhygoel, mae Llywodraeth Cymru’n gwneud pethau arloesol tu hwnt yn fan yma,” meddai Rhys Tudur wrth golwg360.
“Does yna ddim cymhariaeth o gwbl bron drwy’r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth San Steffan yn dilyn ôl traed Llywodraeth Cymru, ti’n gweld o efo premiwm treth cyngor – maen nhw wedi penderfynu codi fo i 100% ond mae Llywodraeth Cymru ymhell ar y blaen ac yn arwain, yn gwneud pethau pellach a mwy arwyddocaol fyth.
“Yr unig beth sydd gen i, a dydy o ddim llawer, fe wnaethon nhw sôn yn un o’r ymgynghoriadau y byddan nhw’n cynnig rhoi cyfnod blaenoriaeth i bobol leol pan mae tŷ’n dod ar y farchnad.
“Fysa hynny o help mawr – bod chdi ddim ond yn gallu ei farchnata fo’n lleol am y chwe wythnos gyntaf wrth roi o ar y farchnad, ac wedyn bod o’n mynd i’r farchnad rydd.
“Fysa fo’n pigo cydwybod pobol hefyd, a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n helpu cymunedau.
“Fedra nhw wneud o yn y dyfodol agos gobeithio, fysa nhw’n gallu ei wneud o yn Nwyfor fel rhan o’r cynllun peilot yno.
“Mae’r holl bethau maen nhw wedi’i wneud heddiw yn arwyddocaol ac arloesol tu hwnt ond mae cyfnod blaenoriaeth yn beth arloesol arall. Fysa hi’n biti iddyn nhw golli cyfle i roi hwnna yn ei le.”
‘Effeithiol iawn’
Ond yn ôl Rhys Tudur, y mesurau maen nhw wedi’u cyhoeddi heddiw sydd am wneud “gwahaniaeth gwirioneddol”
“Mae’r dosbarthiadau yna’n effeithiol i osod cap a rheoli’r sefyllfa’n dda. Mae plismona fo yn beth arall, a dyna’r her rŵan, ac mae hi’n bwysig bod y Llywodraeth yn cefnogi cynghorau sir i wneud hynny, drwy gyllid ychwanegol, efallai, petai angen,” meddai.
“Yn ail, mae gen ti drwyddedu llety gwyliau sydd yn wych achos rydyn ni’n mynd i allu cadw golwg arnyn nhw, monitro nhw.
“Yn drydydd, mae gen ti’r dreth trafodion tir sydd, mewn ffordd, yn rhoi lever i allu rhoi brêc ar y sefyllfa. Os ti’n ffeindio bod yna lot o dai haf mewn ryw gymuned benodedig fedrith y dreth yna gael ei chynyddu ar gyfer y gymuned neu’r sir honno i reoli’r gyfradd mae’r tai haf yn cael eu prynu.
“Fedri di arafu hynny reit lawr os wyt ti’n cynyddu’r dreth, mae hwnnw’n beth effeithiol iawn.”
‘Gwahaniaeth pwysig’
Er bod Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r pecyn, mae angen mynd i’r afael â phroblemau tai ehangach hefyd, meddan nhw.
Meddai Jeff Smith, Cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n dda gweld y llywodraeth yn gwrthsefyll pwysau’r rhai sydd ar eu hennill trwy reolaeth y farchnad dai ac yn cyflwyno pecyn o gamau i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli nifer a lleoliadau ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardal – ond mae angen mynd i’r afael â phroblemau tai ehangach hefyd.
“Bydd gofyn am ganiatâd cynllunio i droi tŷ neu fflat preswyl yn ail gartref neu’n AirBnB yn gwneud gwahaniaeth pwysig iawn, o ystyried faint o denantiaid sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi fel bod modd i landlordiaid eu troi yn llety gwyliau.
“Ynghlwm â’r pŵer i osod cap ar nifer yr ail dai, mae pwerau newydd sylweddol fan hyn i geisio atal mwy o gymunedau twristaidd rhag colli eu poblogaeth barhaol ac rydym yn galw ar gynghorau i ddefnyddio’r pwerau newydd i reoli’r sefyllfa.
“Er hynny mae’r broblem systemig yn y farchnad dai yn ehangach o lawer na mater ail gartrefi a llety gwyliau yn unig, ac yn effeithio ar gymunedau ar draws Gymru.
“Mae’r farchnad agored yn ffafrio pobol gyfoethog sy’n prynu tŷ yng Nghymru i ymddeol iddo, cymudwyr a’r rhai sydd mewn sefyllfa i elwa o batrymau gwaith newydd. Mae hyn lawn mor ddifrifol o ran amddifadu pobl ifanc, leol o dai yn eu cymuned.
“Mae’r broblem yr un mor ddifrifol yn y sector rhentu hefyd, mae rhenti afresymol yn amddifadu pobol rhag cael cartrefi ar rent yn eu cymunedau. Rhaid felly dal ar y cyfle i afael â’r broblem yn iawn gyda Deddf Eiddo gynhwysfawr.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron Ddydd Iau, Awst 4 am i alw am Ddeddf Eiddo.