Bydd ymgyrchwyr yn parhau i brotestio yn erbyn costau tanwydd uchel hyd nes y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu, medd un o drefnwyr protest sydd wedi cau rhannau o’r M4 heddiw (Gorffennaf 4).
Fe wnaeth yr ymgyrchwyr lwyddo i gau rhannau o’r draffordd rhwng de Cymru a Bryste am gyfnod, gan gynnwys Pont Tywysog Cymru dros Afon Hafren.
Mae’r protestwyr yn galw am gwtogi’r dreth danwydd, ac mae Ashley Fowler, un o’r trefnwyr, yn gobeithio y bydd y protestiadau yn llwyddo i greu newid.
Cafodd y lôn ddwyreiniol y bont ei hailagor lôn ddwyreiniol y bont am 11:45yb, ond mae adroddiadau fod rhai wedi cael eu harestio am yrru ar gyflymder o lai na 30mya.
Gobeithio gweld gweithredu
Yn ôl un o drefnwyr y protestiadau, Ashley Fowler o Gaerdydd, cafodd neges ei rhannu ar Facebook yn crybwyll y syniad o gau’r pontydd mewn protest.
Fel un sydd wedi cael ei effeithio gan y cynnydd mewn costau tanwydd, aeth Ashley Folwer ati i greu digwyddiad ar Facebook fel bod pobol o bob rhan o’r wlad yn gallu dilyn y digwyddiad ac ychwanegu diweddariadau.
“Dw i’n byw yng Nghaerdydd ond dw i’n gweithio ym Mryste felly dw i’n teithio dros y pontydd pob dydd ac yn gyrru lot o filltiroedd,” meddai wrth golwg360.
“Roedd e’n arfer costio tua £45 yr wythnos i fi ond mae e bellach yn costio o gwmpas £85 yr wythnos.
“Dw i jest yn gobeithio bydd y protestiadau yn gallu dod â chostau tanwydd i lawr oherwydd mae canran uchel o’r cynnydd mewn costau tanwydd yn ymwneud â’r llywodraeth.
“Dylen nhw fod yn cael gwared ar y dreth a TAW (VAT) ar danwydd.
“Mae hyn wedi bod ar newyddion Radio 1, Sky News a mwy felly dw i’n gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweithredu, achos os nad ydyn nhw, bydd hyn yn digwydd eto.
“Bydd hyn yn digwydd eto ac eto hyd nes mae’r llywodraeth yn gweithredu.”
Aros am ‘aflonyddwch fel y Chwyldro Ffrengig’
Mae Cynulliad y Bobol Caerdydd yn rhan o rwydwaith dros y Deyrnas Unedig o bobol sy’n gwrthwynebu cynni a throiadau.
Maen nhw’n aml yn trefnu digwyddiadau a phrotestiadau yn galw am newid, gan gynnwys protestiadau ynghylch yr argyfwng costau byw.
“Roeddwn i’n falch iawn o glywed am y protestiadau sy’n digwydd heddiw oherwydd mae’n un o’r gostyngiadau mwyaf a chyflymaf mewn safonau byw,” meddai Adam Johannes, sylfaenydd a chydlynydd y grŵp yng Nghaerdydd, wrth golwg360.
“Mae’n teimlo fel bod pawb yn aros i aflonyddwch fel y Chwyldro Ffrengig ddechrau.
“Mae’n teimlo fel bod pawb eisiau i rywun i wneud rhywbeth ond yn disgwyl am rywun arall i weithredu.
“Rwy’n gobeithio, ynghyd â streic y rheilffyrdd diweddar, y gall hyn fod yn gychwyn symudiad i ddod â’r argyfwng costau byw i ben yn y wlad yma.”
‘Gwneud arian o’n trallod ni’
Yn y tymor hir, byddai Adam Johannes yn hoffi gweld pobol yn troi eu cefnau ar geir ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Yn Seland Newydd, maen nhw wedi haneru prisiau trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddar ac mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni ei wneud yn y wlad yma i helpu pawb gyda phrisiau tanwydd,” meddai.
“Mae’n teimlo fel bod yna ychydig o bobol yn gwneud arian allan o’n trallod ni ac mae’n rhaid i ni stopio nhw.
“I bobol fel ni, gall y misoedd nesaf fod yn amser caletaf ein bywyd, ond i ddosbarth y biliwnyddion, maen nhw’n cael amseroedd gorau eu bywydau.
“Llawer o’n gwaith yw ceisio profi nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddi-rym wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.
“Bydd biliau ynni cartrefi ym Mhrydain yn codi dros 100%, tra yn Ffrainc byddan nhw ond yn codi 4% a 0% ym Mhortiwgal oherwydd mae eu llywodraethau nhw wedi gweithredu.”