Mae taflen newydd yn rhestru cyfieithiadau Wcreineg o eiriau Cymraeg wedi cael eu cynhyrchu gan Fentrau Iaith Cymru.
Bydd y taflenni’n ffordd o gyflwyno rywfaint o Gymraeg i bobol o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, yn ôl Cydlynydd Cyfathrebu’r Mentrau Iaith, Heledd ap Gwynfor.
Y gobaith yw y byddan nhw’n helpu’r rhai sydd wedi dianc rhag y rhyfel yn Wcráin i deimlo’n rhan o’r gymuned Gymreig.
Mae’r Mentrau Iaith wedi cynhyrchu nifer o daflenni yn y gorffennol sy’n cyflwyno geiriau Cymraeg ar themâu poblogaidd fel y Nadolig, y tymhorau a gwyliau Cymreig fel Ddydd Santes Dwynwen.
Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw greu taflenni mewn iaith wahanol i’r Saesneg.
“Mae rhestr o eiriau Cymraeg sydd wedi eu cyfieithu i’r Wcreineg ac yn cynnwys y ffonetig Wcreineg o’r geiriau Cymraeg – felly mae modd i Wcrainiaid wybod sut mae ynganu’r geiriau hyn,” eglura Heledd ap Gwynfor.
“Mae’r taflenni hyn wedi bod yn boblogaidd tu hwnt gan gael eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol sawl tro, y gobaith yw y byddan nhw o fudd i gymuned newydd o bobol ac yn gwneud iddyn nhw deimlo yn rhan o’r gymuned Gymreig ym mha bynnag ran o Gymru maen nhw’n byw.”
‘Rhan o’r gymuned’
Dywedodd Tanya Davenport, sy’n dod o Wcráin yn wreiddiol ond yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i gŵr a’u plant, eu bod nhw “mor ddiolchgar” o’r croeso sydd wedi’i ymestyn at Wcrainiaid.
“Dw i’n teimlo’n falch o ddweud fy mod i’n perthyn i gymunedau Cymreig ac Wcrainaidd.
“Mae nifer o Wcrainiaid yn dod yma wedi eu llethu gan ryfel, ond mae gwneud y pethau bach hyn i gyd yn cyfrannu at brofiadau positif.”
Fe wnaeth rhieni Tanya Davenport ddianc o ddinas Poltava yn nwyrain Wcráin, gan setlo yng Nghaerfyrddin efo’r teulu.
“Maen nhw’n clywed yr iaith [Gymraeg] o’u hamgylch, gan weld arwyddion sy’n codi eu chwilfrydedd – mae’r taflenni hyn sydd yn dangos geiriau mewn Cymraeg gan ddefnyddio ffonetig Wcreineg – yn hyfryd gan wneud i’m rhieni deimlo hyd yn oed yn fwy fel rhan o’r gymuned gynnes hon.”
‘Dysgu gyda’n gilydd’
Fel athrawes Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion, mae Llinos Davies yn gweithio gyda phlant o Wcráin.
“Dw i’n dysgu plant o bob oed i allu cyfathrebu’n ieithyddol. Mae hi mor bwysig iddyn nhw gael rhywfaint o Gymraeg fel eu bod yn gallu uniaethu a theimlo hyd yn oed yn fwy o ran yn eu cymuned newydd,” meddai.
“Dw i wrth fy modd yn eu clywed yn defnyddio Cymraeg, ac maen nhw yr un mor hapus yn fy nghlywed i yn ceisio siarad rhywfaint o Wcreineg.
“Mae’n bwysig dangos ein bod ni gyd yn dysgu a’n bod ni gyd yn dymuno dysgu mwy am ein gilydd.”
Mae Llinos Davies o’r farn y bydd taflenni fel y rhain yn cyfoethogi profiadau ffoaduriaid ymhellach.
“Mae popeth yn helpu. Mater o barch yw’r gallu i drio dweud ambell air yn eu hiaith nhw, ac mae’r taflenni yn gyfeiriad defnyddiol iddyn nhw drio dweud geiriau Cymraeg.”