Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau eu bod nhw’n ystyried y Gymraeg wrth greu polisïau mewn meysydd eraill, meddai arbenigwraig ar ddatganoli a pholisi iaith.

Wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen integreiddio amcanion polisi iaith ar draws polisïau eraill megis yr economi, newid hinsawdd, a chynllunio, meddai Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth.

Mae gan Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis bennod mewn cyfrol newydd o’r enw The Impact of Devolution in Wales yn edrych ar bolisïau iaith ers datganoli.

Yn ôl Dr Elin Royles, ers datganoli mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno polisïau clodwiw ym maes iaith ond mae angen sicrhau bod cysondeb dros Gymru wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno hefyd.

‘Camau sylweddol ond dim trawsnewidiad’

“Os ydyn ni’n edrych ar rai o’r ffigurau a’r data ynglŷn â sefyllfa’r iaith fysa ni’n gallu bod yn hynod feirniadol o ran ein bod ni’n gweld parhad yn y dirywiad cyson o ran cryfder yr iaith yn yr ardaloedd lle fuodd hi’n gryf yn y gorllewin,” meddai Dr Elin Royles, sy’n uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, wrth golwg360.

“Rydyn ni dal i weld twf yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg ymysg grwpiau oedran ieuengach ond dydy hynny ddim yn parhau wrth i ni fynd yn hŷn.

“Rydyn ni’n gweld niferoedd cynyddol yn dysgu’r iaith trwy’r system addysg, ond mae yna ddirywiad yn y niferoedd adre.

“Felly, yn ei gyfanrwydd, fysa chi’n gallu dweud nad ydy o’n edrych yn grêt, ond byddai hi’n annheg mai diffyg llwyddiant polisïau llywodraethol ydy hynny.

“Mae’n adlewyrchu’r heriau ehangach mewn adfywio ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, dyna’r un math o heriau rydyn ni’n eu gweld mewn nifer o achosion eraill.

“Be rydyn ni’n ddweud ydy o edrych ar y ffeithiau moel mae yna dal heriau difrifol yn wynebu’r iaith, ond dydy hi ddim yn deg dweud mai mater o ddiffyg llwyddiant polisi ydy hynny.

“Rydyn ni’n dadlau bod yna gamau sylweddol wedi cael eu cymryd ers datganoli o ran creu fframwaith strategol i glymu agweddau hyrwyddo, mae yna agenda llawer mwy uchelgeisiol, ond nad ydy hynny wedi arwain at drawsnewidiad sylweddol.

“Ond, mewn ffordd, mae disgwyl y trawsnewidiad sylfaenol yna’n heriol.

“Be rydyn ni’n ei ddweud ydy bod yna drefniadau sefydliadol cryfach mewn lle ond mae yna heriau dal yn bodoli o ran cydlynu effeithiol ac integreiddio amcanion polisi iaith ar draws polisïau eraill.”

‘Defnydd o’r iaith’

Un o’r prif heriau wrth gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg ydy sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio, meddai Dr Elin Royles.

“Mewn ffordd, mae’r heriau’n ymwneud â’r data. Mae yna nifer o amcanion gwahanol yn y strategaeth i gyrraedd y miliwn o siaradwyr, ac mae’r pwyslais ar ddefnydd iaith yn eithriadol o bwysig,” meddai.

“Felly, sicrhau trosglwyddo’r gallu i siarad Cymraeg a’r dysgu iaith i fod yn ddefnydd.

“Mae cael fframwaith strategol yn bwysig i wireddu hynny, ond mae yna angen am ymrwymiad gwleidyddol sylweddol i wneud hynny. Mae’n golygu hefyd bod pobol wedi’u hargyhoeddi eu bod nhw’n rhan o’r broses i gyfrannu tuag at hynna.”

Cysondeb

I lwyddo, mae yna le i weld a yw’r holl bolisïau yn cael eu gweithredu’n gyson, meddai Dr Elin Royles.

“Mae’r mesurau yn glodwiw, ond ydyn nhw bob amser yn cael gweithredu’n llawn?” gofynna.

“Rydyn ni dal, efallai, yn gweld anghysondeb ymysg awdurdodau lleol o ran gweithredu strategaethau addysg.

“Pan rydych chi’n edrych ar lefel y cynlluniau lleol, ydy rhai ohonyn nhw’n mynd ddigon pell? Ydyn nhw wirioneddol yn ymateb i’r heriau o ran angen i sicrhau cyfleoedd cymdeithasol i blant a phobol ifanc ddefnyddio’r Gymraeg fel sy’n rhan, cyhyd â bod hynny’n berthnasol, o dan y strategaeth? Dw i’n meddwl bod yn gwestiynau mewn nifer o achosion.

“Be sydd angen canolbwyntio arno fo ydy’r lle i weithredu polisi yn fwy cyson ac effeithiol. Mae yna gymaint o wahanol sectorau a chyrff yn rhan o weithredu’r strategaeth, [mae angen] sicrhau bod pawb yn gweithredu’n llawn botensial.”

Integreiddio polisi iaith

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng tai yn dangos bod yna ymateb “llawer cryfach nag rydyn ni wedi’i gweld” i integreiddio polisi iaith i faes cynllunio.

“Mater arall rydyn ni’n ei godi ydy integreiddio amcanion polisi iaith mewn i feysydd eraill fel bod hyrwyddo’r Gymraeg ddim yn unig yn cael ei weld fel maes sy’n berthnasol i’r uned iaith, ond ar draws llywodraeth.

“Mae o’n dechrau cyniwair, ond mae yna alw am lot mwy, gan gynnwys sut ydyn ni’n sicrhau hyfywedd economaidd ardaloedd y gorllewin sydd mor bwysig o ran dyfodol y Gymraeg. Eto mae gofyn am gydlynu ar draws llywodraeth mor bwysig.

“Rydyn ni wedi trio gosod y bennod ac ystyried sefyllfa’r Gymraeg ochr yn ochr ag ieithoedd lleiafrifol eraill. Be sy’n dod i’r amlwg hefyd ydy arwyddocâd ewyllys gwleidyddol.

“Tu ôl i bob datblygiad ti’n weld mae ewyllys gwleidyddol i gefnogi’r Gymraeg yn hollbwysig. Mae’n amlwg yn y cyd-destun Cymreig o ran awdurdodau lleol a chynlluniau addysg a chamau i ymateb i’r sefyllfa tai haf.

“Mae hwnnw bob amser yn mynd i fod yn her, nid y polisi’n unig sy’n bwysig ond yr ewyllys gwleidyddol i’w weithredu fo a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu’n effeithiol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae’n gweledigaeth ni ar gyfer ein hiaith yn glir—mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd: felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Strategaeth hirdymor yw Cymraeg 2050 sy’n rhoi gweledigaeth ar gyfer creu dinasyddion dwyieithog sydd â’r gallu a’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

“Mae Cymraeg 2050 yn ymdrech i bawb yng Nghymru.

“Rydyn ni yn Llywodraeth Cymru’n prif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob elfen o’n gwaith ni, ac rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Leol wneud yr un fath.”