Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu dull i gyllidebu ar sail rhyw, gyda chynlluniau peilot ac ymchwil yn helpu i greu Cymru sy’n rhoi pwyslais ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Mae cyllidebu ar sail rhyw yn golygu dadansoddi sut mae polisïau a chyllidebau cysylltiedig yn effeithio ar y gwahanol rywiau.

Mae tri chynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn cael eu cynnal yng Nghymru, ym meysydd sgiliau, cyflogaeth, a theithio llesol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgelu cynlluniau i fwrw ymlaen â gwaith ymchwil rhywedd sy’n gysylltiedig ag iechyd, er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chefnogi’r gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal iechyd o ansawdd i fenywod a merched.

‘Llywodraeth ffeministaidd’

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn llywodraeth ffeministaidd ac mae cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig o’r ymdrech hon,” meddai Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid.

“Mae’n cydnabod nad yw anghenion holl bobol Cymru bob amser yr un fath.

“Drwy feithrin dealltwriaeth well o effaith ein penderfyniadau gwariant, bydd ein polisïau yn dod yn fwy effeithiol hefyd.

“Mae dau o’n cynlluniau peilot yn cael eu cynnal mewn meysydd sy’n canolbwyntio ar wella sgiliau pobol.

“Mae cyllidebu ar sail rhyw yn cyd-fynd â’n cynllun i hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae’r cynlluniau peilot hyn yn ein helpu i ddysgu gwersi hanfodol am sut gall ein penderfyniadau gwariant a pholisi gyflawni’r amcan hwn.

“Megis dechrau y mae ein gwaith i weithredu’r dull hwn, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a grwpiau allanol wrth inni geisio datblygu’r dull cyllidebu ar sail rhyw yn y dyfodol.”