Mae mesurau Covid-19 wedi cael eu hailgyflwyno yn Ysbyty Llwynhelyg yn dilyn adolygiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o ganlyniad i gynnydd mewn achosion o’r feirws.
Yn ôl Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, maen nhw wedi gwneud y penderfyniad “i leihau’r risg i’n cleifion a’n staff”, ac mae hi wedi diolch i’r cyhoedd am eu “cefnogaeth a chydweithrediad ar yr adeg hon”.
“Er y bydd y sefyllfa yn Ysbyty Llwynhelyg ac ar draws ein hysbytai eraill yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n aml, gallwn ni i gyd barhau i gymryd mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo Covid-19 i amddiffyn pobol agored i niwed a’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Rydym yn cynghori’n gryf i unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau bod ganddyn nhw COVID-19 i ynysu a gwneud prawf llif ochrol.
“Os yw’n bositif, rydym yn eich annog i ynysu – bydd hyn yn eich helpu orffwys a gwella tra’n amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo.”
Dyma’r mesurau sydd ar waith unwaith eto:
- holl staff ac ymwelwyr ag Ysbyty Llwynhelyg i wisgo masgiau (oni bai eu bod wedi’u heithrio) ar safle’r ysbyty
- gohirio ymweliadau â chleifion/wardiau o ddydd Mawrth 5 Gorffennaf, ac eithrio ymweliadau diwedd oes ac unrhyw ymweliadau a ystyrir yn angenrheidiol trwy gytundeb â phrif nyrs y ward.
- ymweliadau a drefnwyd ar gyfer dydd Llun 4 Gorffennaf wedi mynd rhagddynt fel y cynlluniwyd.
- Pobol sy’n mynychu apwyntiadau cleifion allanol i fynychu ar eu pen eu hunain oni bai eu bod angen cymorth gofalwr/perthynas.
- gall partner dynodedig fod yn bresennol mewn apwyntiadau neu sganiau cyn-geni a phan fydd mam neu berson geni yn cael ei derbyn yn ystod y cyfnod esgor i’r Uned dan Arweiniad Bydwragedd
- profi pob claf cyn derbyn i’r ysbyty
Gall aelodau’r cyhoedd sydd â symptomau COVID-19 barhau i archebu prawf llif ochrol yng Nghymru am ddim, tan Orffennaf 31, drwy fynd i www.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) a chwilio am ‘archebu pecyn prawf llif ochrol’.
Os nad ydych chi – neu rywun rydych chi’n gofalu amdano/i – ar-lein, ffoniwch 119 rhwng 7yb ac 11yh. Gall pobol ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.
Os ydych chi’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn datblygu unrhyw un o dri phrif symptom COVID-19 (tymheredd uchel, peswch newydd parhaus neu golli neu newid i synnwyr blasu neu arogli), mae disgwyl i chi ynysu a chael prawf yn unol â’r manylion yn y canllawiau staff sydd ar gael ar y fewnrwyd neu gan eich rheolwr neu oruchwyliwr, meddai’r bwrdd iechyd.
Maen nhw hefyd yn annog pob aelod o staff a chontractwr i gynnal profion llif achrol ac adrodd arnynt, ddwywaith yr wythnos.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth er mwyn diogelu’r rhai sy’n agored i niwed yn ein gofal.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, trowch at wefan y bwrdd iechyd, sef http://hduhb.nhs.wales