Mae Hywel Williams a Liz Saville Roberts yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi ymgynghoriad hirddisgwyliedig i gryfhau deddfau sy’n rheoli’r defnydd o feiciau dŵr.
Daw’r alwad gan Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn Arfon a Dwyfor Meirionnydd, dwy etholaeth lle mae beiciau dŵr yn boblogaidd, yn enwedig yn ardaloedd Pen Llŷn ac Afon Menai.
Ers tro, maen nhw wedi bod yn galw am system drwyddedu briodol ar gyfer defnyddwyr beiciau dŵr ynghyd â hyfforddiant a phrawf cymhwysedd.
Cyflwynodd Hywel Williams Fesur yn 2020 i geisio rheoleiddio’r defnydd o feiciau dŵr trwy gyflwyno system drwyddedu ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan fel y byddai angen trwydded ar yrwyr beiciau dŵr, yn debyg iawn i yrwyr beiciau modur, cyn cael caniatâd i fynd ar y môr.
Er gwaethaf sicrwydd dro ar ôl tro gan weinidogion yn San Steffan fod cynlluniau ar y gweill i ddeddfu yn erbyn defnyddwyr beiciau dŵr afreolus, dydy canfyddiadau’r ymgynghoriad ddim wedi’u cyhoeddi, bron i flwyddyn ers ei lansio.
O dan y deddfau presennol, gall unrhyw un brynu beic dŵr, mynd i lan y môr a’i ddefnyddio ar gyflymder o 40m.y.a. i 70m.y.a.
Tanseilio diogelwch “gan ddiffyg deddfwriaeth”
“Ar hyn o bryd mae modd i unrhyw un, hyd yn oed plentyn mor ifanc â 12 oed, yrru beic dŵr,” meddai Hywel Williams.
“Nid oes angen trwydded ar yrrwyr beic dŵr – yn wahanol i’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, sydd eisoes â system drwyddedu mewn lle.
“Er i mi godi’r mater hwn dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chael sicrhad gan Weinidogion bod camau’n cael eu cymryd, rydym ar drothwy haf prysur arall yng Ngwynedd o unigolion yn defnyddio beiciau dŵr yn ddi-drwydded.
“Yn y misoedd ers i mi gyflwyno fy Mesur i’r Senedd, mae’r llywodraeth wedi cael digon o gyfle i symud ymlaen â deddfwriaeth. Yn lle hynny, maent wedi caniatáu i’r mater pwysig yma o ddiogelu y cyhoedd a diogelu’r amgylchedd lusgo ymlaen.
“Teimlaf bod diogelwch morwyr eraill a phobl sy’n defnyddio ein traethau yn cael ei danseilio gan ddiffyg deddfwriaeth.
“Po hiraf y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn oedi ar y mater hwn, y mwyaf yw’r tebygolrwydd y bydd mwy o ddamweiniau a bydd ymddygiad afreolus yn parhau ar ein harfordir.
“Rwy’n annog y llywodraeth i roi’r gorau i’r oedi, cyhoeddi’r ymgynghoriad a gweithio tuag at gyflwyno deddfwriaeth llymach i ddiogelu’r cyhoedd a’n bywyd môr gwerthfawr.”
Deddfwriaeth “yn gwneud synnwyr”
“Mae llywodraethau olynol wedi methu â chymryd camau pendant i ddeddfu ar y mater hwn,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’n parhau i fod yn wir fod beiciau dŵr yn disgyn y tu allan i ddeddfwriaeth forol, gan atal awdurdodau lleol rhag ymateb i bryderon gydag unrhyw bwerau o ddifrif.
“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion am gamddefnydd o feiciau dŵr ar hyd cymunedau arfordirol Gwynedd, gan gynnwys aflonyddu bywyd môr fel dolffiniaid, heb sôn am y trasiedïau personol sy’n codi pan fydd damweiniau’n digwydd.
“Mae deddfwriaeth gadarn yn bodoli ar draws llawer o wledydd Ewropeaidd i reoleiddio’r defnydd o feiciau dŵr.
“Mae’n gwneud synnwyr felly bod angen deddfwriaeth i sicrhau bod trefniadau tebyg yn cael eu cyflwyno yma yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”