Mae dynes o Gaerdydd wedi cael 18 pwynt ar ei thrwydded, dirwyon gwerth £25,646 a gwaharddiad rhag gyrru am 18 mis, ar ôl i lys ei chael yn euog o 33 o droseddau gyrru.
Rhwng Awst a Hydref y llynedd, cafodd cerbyd â phlatiau Gwyddelig ei ddal yn cael ei oryrru 33 o weithiau yn ardal Heddlu’r De – a 30 ohonyn nhw yn yr un lleoliad – a chafodd ymchwiliad ei gynnal gan GoSafe, gan gynnwys cylchredeg manylion y cerbyd.
Cafodd GoSafe wybod fod y cerbyd wedi cael ei stopio yn sgil y platiau anghyfreithlon, a’i feddiannu am nad oedd yswiriant na thrwydded gan y gyrrwr.
Gan ddefnyddio manylion y gyrrwr, cafodd 33 o hysbysiadau cosb eu hanfon at Ann Marie Cash o Gaerdydd.
Ar ôl iddi fethu ag ymateb i’r llythyron, cafodd yr achos ei drosglwyddo i ynadon yn y brifddinas a phlediodd hi’n euog i’r cyhuddiadau a’i gwahodd i’r llys gan ei bod hi’n wynebu gwaharddiad.
Ond cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn ei habsenoldeb ar Fai 23, a chafodd hi ddirwy o £660 am bob trosedd, ynghyd â gorfod talu costau ychwanegol i’r llys.
Yn y pen draw, cafodd hi ddirwy o £21,780 am y troseddau, a bu’n rhaid iddi dalu costau gwerth £3,610 a ffi ychwanegol o £256.